Documents
Resources
Learning Center
Upload
Plans & pricing Sign in
Sign Out
Get this document free

Adnoddau Addoli

VIEWS: 15 PAGES: 7

									         Adnoddau Addoli

        Diwrnod Cenedlaethol Dileu
             Gwahaniaethu Hiliol y
              Cenhedloedd Unedig
             Dydd Mawrth, 21ain Mawrth 2006




     Anogir pob cymuned ffydd yng Nghymru i nodi
       Diwrnod Cenedlaethol Dileu Gwahaniaethu
                     Hiliol y Cenhedloedd Unedig
 Dydd Gwener 17eg, Dydd Sadwrn18fed
                         eg
           a Dydd Sul,19 o Fawrth



Adnoddau ar gyfer addoliad Cristnogol
Gobeithio y bydd yr awgrymiadau canlynol yn ddefnyddiol wrth i
chi fynd ati i gynllunio eich gwasanaeth ar Ddydd Sul, Mawrth 19eg.
Ymunwch gyda chynulleidfaoedd dros Gymru gyfan drwy gynnwys
naill ai ddarlleniad, gweddi, emyn, myfyrdod neu weithgaredd a
awgrymir neu drwy gynllunio eich gweithred o addoliad yn
ymwneud â'r thema o atal gwahaniaethu.




Undod Dynoliaeth
Math o addoliad :-
  cadarnhau ein bod eisiau cyd-fyw gyda pharch at ein
    gilydd, gan gredu ei bod hi'n bosibl gwneud hynny;
  credu y gall amrywiaeth dynol fod yn ffynhonnell
    cryfder a llawenydd ac nid oes yn rhaid ei ofni;
  tynnu sylw at anghyfiawnderau ond credu y gallwn eu
    goresgyn yn heddychlon;
  dweud na wrth ofn, rhagfarn a thrais;
  dweud ie wrth amrywiaeth, cariad a pharch.




                                                                  2
Diwrnod   Dileu   Gwahaniaethu                       Hiliol      y
Cenhedloedd Unedig

Ym 1966 cyhoeddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
y byddai Mawrth 21ain yn Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu
Gwahaniaethu Hiliol oherwydd hwn yw dyddiad cofio lladdfa
Sharpeville yn Ne Affrica.

Yn dilyn ethol y Blaid Genedlaethol i lywodraethu yn Ne Affrica ym
1948, cyflwynwyd apartheid. Bwriad apartheid oedd rheoleiddio
bywydau'r mwyafrif du a chynnal rheolaeth y lleiafrif gwyn. Roedd
anghyfartaleddau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol anferth
rhwng y gwynion a‟r duon yn Ne Affrica.

Ar Fawrth 21, 1960 galwyd gwrthdystiad ledled y wlad gan bobl
dduon De Affrica yn erbyn "cyfreithiau pas" De Affrica. Roedd y
cyfreithiau hyn yn rheoli symudiad a chyflogaeth y duon ac yn eu
gorfodi i gario “cyfeirlyfrau” neu bapurau adnabod.

Fel rhan o‟r gwrthdystiad torfol hwn ymgasglodd tyrfa fawr y tu
allan i orsaf heddlu Sharpeville, trefgordd 30 milltir i‟r de o
Johannesburg. Nid oeddent yn arfog ac roedd llawer o fenywod a
phlant yn y dorf. Wynebwyd y 6,000 o brotestwyr heddychlon gan
300 o heddlu arfog, wedi eu cefnogi gan bum cerbyd arfog
Saracen a wnaed ym Mhrydain.

Heb unrhyw rybudd dechreuodd yr heddlu saethu. Daliasant ati i
saethu wrth i‟r protestwyr geisio rhedeg i ffwrdd. Cafodd 69 o bobl
eu lladd ac o bosibl cynifer a 300 eu hanafu - y rhan fwyaf ohonynt
yn fenywod a phlant a‟r rhan fwyaf ohonynt wedi‟u saethu yn eu
cefn.

Sylw'r comander heddlu lleol oedd: „Os gwnânt y pethau hyn
mae‟n rhaid iddynt ddysgu eu gwersi yn y ffordd galed.‟

Yn dilyn y saethu yn Sharpeville cafwyd storm o brotest
rhyngwladol, yn cynnwys condemniad gan y Cenhedloedd Unedig.
Roedd Sharpeville yn drobwynt yn hanes De Affrica.




                                                                  3
Am ragor o fanylion Sharpeville ewch i:

http://news.bbc.co.uk/onthisday/hi/dates/stories/march/21/newsid_
2653000/2653405.stm       (sy‟n   cynnwys      lluniau  fideo   o‟r
gwrthdystiadau yn erbyn y cyfreithiau pas).

<http://www.anc.org.za/ancdocs/history/misc/shareve.html> sy‟n
rhoi datganiad o gyfnod Sharpeville gan y Gwir Barchedig
Ambrose Reeves.

http://www.sharpeville.co.za am ddeunydd ffilm neu ddeunydd
arall am Sharpeville bryd hynny a heddiw – yn cynnwys y dydd yr
arwyddwyd cyfansoddiad gwrth-hiliol, ôl-apartheid De Affrica yn
ffurfiol gan Nelson Mandela yn Sharpeville ym 1996.


Daucanmlwyddiant Dileu Caethwasiaeth

Mae Mawrth 25ain, 2007 hefyd yn ddiwrnod arwyddocaol oherwydd
ei fod yn nodi daucanmlwyddiant Dileu Caethwasiaeth ym
Mhrydain. Cynhelir digwyddiadau ledled Prydain i goffau'r dyddiad
pwysig hwn.

Ffynnodd y fasnach gaethweision trawsiwerydd wrth i
ymerodraethau Ewropeaidd ehangu a dod i fod angen mwy a mwy
o weithlu dibynadwy. Rhwng 1450 a diwedd y bedwaredd ganrif ar
bymtheg dygwyd caethweision o arfordir gorllewinol Affrica gyda
chydweithrediad rhai brenhinoedd a masnachwyr o Affrica. Hefyd
bu ymgyrchoedd milwrol a drefnwyd gan Ewropeaid i gipio
caethweision a gludwyd wedyn mewn llongau i wledydd Gogledd a
De America a rhannau eraill o‟r ymerodraethau Ewropeaidd.

Roedd y fasnach gaethweision yn fusnes arbennig o broffidiol ym
Mhrydain, fodd bynnag, tua diwedd y ddeunawfed ganrif
dechreuodd pobl ymgyrchu yn frwd yn ei herbyn. Arweiniodd
William Wilberforce, Thomas Clarkson a Granville Sharp y mudiad
gwrth-gaethwasiaeth, gan sefydlu‟r Gymdeithas er Dileu
Caethwasiaeth ym 1787. Credent fod caethwasiaeth yn “groes i
egwyddorion cyfiawnder a dynoliaeth".

Cymrodd amser hir iddynt gynyddu‟r gefnogaeth i‟w mudiad ond ar
ôl sawl blwyddyn pleidleisiodd Tŷ‟r Cyffredin i wneud y fasnach


                                                                  4
gaethweision yn anghyfreithlon. Pasiodd Tŷ‟r Cyffredin y Mesur
Dileu'r Fasnach Caethwasiaeth ar Fawrth 25ain 1807. Gwnaeth y
mesur hwn y fasnach gaethwasiaeth yn anghyfreithlon ac roedd yn
gam pwysig tuag at ddileu caethwasiaeth.

Caethwasiaeth Modern

Fodd bynnag, ddau gan mlynedd wedi'r Mesur Dileu‟r Fasnach
Caethwasiaeth mae caethwasiaeth yn dal i fodoli. Mae miliynau o
ddynion, menywod a phlant ledled y byd yn dal i gael eu gorfodi i
ddilyn eu bywydau fel caethweision. Er na elwir y manteisio hwn
yn aml yn gaethwasiaeth, yr un yw'r amodau. Caiff pobl eu
gwerthu megis gwrthrychau, eu gorfodi i weithio am ychydig neu
ddim arian ac maent ar drugaredd eu 'cyflogwyr'.

Mae caethwasiaeth cyfoes yn digwydd mewn amrywiol ffyrdd ac
yn effeithio ar bobl o bob oed, rhyw a hil. Mae llafur clwm,
priodasau a orfodir, llafur gorfodol, llafur plant a masnachu mewn
pobl i gyd yn digwydd ledled y byd heddiw. Mae masnachu mewn
pobl yn broblem gynyddol yn yr unfed ganrif ar hugain gyda
channoedd o ddynion, menywod a phlant yn cael eu masnachu i‟r
DU bob blwyddyn. Amcangyfrifodd ymchwil a gynhaliwyd gan y
Swyddfa Gartref ym 1998, mewn un flwyddyn bod rhwng 142 a
1,420 o fenywod wedi eu masnachu i‟r wlad.

Mae masnachu pobl yn golygu symud pobl drwy drais, twyll neu
orfodaeth ar gyfer dibenion llafur gorfodol, caethiwed neu fanteisio
rhywiol. Caethwasiaeth ydyw oherwydd bod trefnwyr y masnachu
mewn pobl yn defnyddio trais, bygythiadau a mathau eraill o
gaethiwed i orfodi eu dioddefwyr i weithio yn erbyn eu hewyllys.
Caiff miloedd o bobl eu trin yn greulon bob blwyddyn o ganlyniad
i‟r fasnach gwerth miliynau o bunnoedd hon.

Os ydym yn coffau dileu caethwasiaeth trawsiwerydd 200 mlynedd
yn ôl, mae‟n rhaid i ni hefyd edrych ar y presennol a‟r dyfodol. Mae
mwy o bobl yn gaethweision yn 2007 nag oedd ym 1807 ac mae‟n
rhaid i ni barhau i ymgyrchu a brwydro yn erbyn anghyfiawnder o‟r
fath. Dewch i ni fanteisio ar y daucanmlwyddiant hwn fel cyfle i
ddysgu am y ffyrdd y gallwn helpu pobl i ddianc rhag
caethwasiaeth yn ein cymdeithas ni ein hunain.




                                                                   5
GOBAITH AR GYFER Y DYFODOL


DARLLENIAD allan o Eseia 2: 2-4; 11: 9

„Yn y dyddiau diwethaf bydd
mynydd tŷ‟r Arglwydd
wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd
ac yn uwch na‟r bryniau.
Dylifa‟r holl genhedloedd ato,
a daw pobloedd lawer, a dweud,
"Dewch esgynnwn i fynydd yr Arglwydd
i deml Duw Jacob;
bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd,
a byddwn ninnau‟n rhodio yn ei lwybrau.”
Oherwydd o Seion y daw‟r gyfraith
a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.
Barna ef rhwng cenhedloedd ,
a thorri‟r ddadl i bobloedd lawer;
curant eu cleddyfau‟n geibiau,
a‟u gwaywffyn yn grymanau.
Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,
ac ni ddysgant ryfel mwyach.

Ni wnânt ddrwg na difrod
yn fy holl fynydd sanctaidd,
canys fel y lleinw‟r dyfroedd y môr i‟w ymylon,
felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.‟


TEYRNGED

Ni allwn fyw mewn byd sydd heb le i wahaniaeth, sydd heb le i
ddynoliaeth.
Ni allwn fyw mewn byd lle mae casineb yn gafael yn y galon
ddynol ac yn ei throi'n garreg.
Ni allwn fyw mewn byd lle mae dioddefwyr yn gweiddi am gymorth
ac nid oes unrhyw un yn gwrando.
Ni allwn fyw mewn byd lle mae dynoliaeth yn gallu suddo mor
ddwfn fel ei fod yn gwneud diafoliaid o eraill ac yn eu gweld yn llai
na dynol;
pan ei fod yn dewis llwybr marwolaeth nid llwybr bywyd;



                                                                    6
  pan fydd yn anghofio bod y rhai hynny sydd heb fod ar yr un ddelw
  â ninnau serch hynny ar ddelw Duw.

  Fe allwn frwydro, ac mae‟n rhaid i ni frwydro dros sancteiddrwydd
  bywyd.
  Ac er na allwn newid y gorffennol, gall pob un ohonom, drwy herio
  drygioni, gynorthwyo i newid y dyfodol.


  GWEDDI O GOFFADWRIAETH

  Hollalluog Dduw:
  Cynorthwya ni i gofio ac i ddysgu.
  Boed i Ti a roddodd fywyd i ni, ein dysgu i‟w gadw‟n gysegredig,
  Mewn ffyddlondeb i Ti, ac mewn caredigrwydd i‟r rhai hynny o‟n
  cwmpas.
  Fel ein bod drwy estyn llaw mewn cariad, yn gallu troi gelynion yn
  gyfeillion,
  A dod yn deulu i Ti ar y ddaear fel yr wyt Ti yn rhiant i ni yn y
  nefoedd.
  Boed i Ti sy‟n creu heddwch yn yr uchelfannau
  Ein cynorthwyo ni i greu heddwch ar y ddaear.
  Kein yehi ratzon
  Dy ewyllys Di fo hyn a boed i ni ddweud: Amen:




ADDEWID Y CENHEDLOEDD UNEDIG

 ‘Fel dinesydd cymuned y byd, safaf gyda’r Cenhedloedd Unedig
  yn erbyn Hiliaeth, Gwahaniaethu ac Anoddefgarwch o unrhyw
                              fath.
    Gydol fy mywyd byddaf yn ceisio hyrwyddo cydraddoldeb,
      cyfiawnder ac urddas ymhlith pawb, yn fy nghartref, fy
            nghymuned ac ym mhob man drwy’r byd .’




                                                                       7

								
To top