CORE AIM 1: ENSURING THE BEST START IN LIFE by 08eMGGL

VIEWS: 0 PAGES: 55

									           Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.




                                                                                      -1-
           Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


                    Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint

                                 Asesiad o anghenion

                                   Mis Chwefror 2008


                                  NOD CRAIDD 1

“Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn
       cael dechrau da mewn bywyd”




                                                                                      -2-
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.




                                      CYNNWYS


1.0         Trosolwg                                                                  3
1.1         Cyn cenhedlu, beichiogrwydd a genedigaeth                                 3
1.2         Babanod â phwysau geni isel                                               7
1.3         Marwolaethau plant                                                        11
1.4         Anomaledd Cynhenid                                                        14
1.5         Brechu                                                                    17
1.6         Bwydo ar y fron                                                           21
1.7         Datblygu a chynnal sgiliau magu plant                                     25
1.8         Materion diogelu ac amddiffyn plant                                       34
1.9         Gofal plant                                                               39
1.10        Darpariaeth blynyddoedd cynnar                                            45
1.11        Problemau iechyd meddwl amenedigol                                        49
Atodiad     Y Camau Allweddol Perthnasol o’r Fframwaith Gwasanaeth                    53
            Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau
            Mamolaeth




                                                                                       -3-
               Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
    Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



    Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y
    Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


1.0 TROSOLWG
Y nod yw sicrhau bod pobl plentyn yn Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn
bywyd a’r sylfaen orau ar gyfer eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol. Mae’n
bosibl osgoi llawer o broblemau plentyndod a phroblemau gydol oes drwy
ymyrryd i helpu’r plant ieuengaf, eu rhieni, y teulu ehangach a’u cymunedau
lleol. Mae’n haws ac yn rhatach rhoi cymorth effeithiol yn ystod y cyfnod
cynnar hwn na cheisio delio â phroblemau’n ddiweddarach.

Gall dulliau cadarnhaol o fagu plant gael dylanwad cryf a manteisiol ar
ganlyniadau plant a gall eu diogelu rhag peryglon eraill. Mae tystiolaeth hefyd
sy’n awgrymu nad yw’r gallu i fagu plant yn dda ac yn frwdfrydig yn dibynnu ar
ddosbarth cymdeithasol na chefndir ethnig a bod modd dysgu’r sgiliau hyn.

Mae’r Camau Allweddol yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar
gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth sydd wrth wraidd Nod
Craidd 1 i gyd wedi’u rhestru yn yr Atodiad. Mae’r rheini sy’n berthnasol i fater
penodol wedi’u hamlygu yn y testun.


1.1 CYN CENHEDLU, BEICHIOGRWYDD A GENEDIGAETH

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?

Mae diet da a ffordd iach o fyw cyn ac yn ystod beichiogrwydd yn
dyngedfennol o ran datblygiad y baban, a gall fod â manteision hirdymor i’r
fam a’r plentyn. Dylid osgoi ysmygu, yfed gormod o alcohol neu
gamddefnyddio sylweddau a chymryd rhai meddyginiaethau a ragnodir yn
ystod beichiogrwydd er mwyn lleihau unrhyw bosibilrwydd o niwed.

Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut rydym yn cymharu â
mannau eraill?

Y gyfradd geni1
Ganed 32,593 o fabanod byw yn Sir y Fflint yn 2005, cyfradd o 56.2 i bob
1,000 o ferched rhwng 15 a 44 oed, sy’n cyfateb i’r cyfartaledd ar gyfer Cymru
gyfan.




1
    Gwybodaeth gan y Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles: Proffil o Sir y Fflint (Mehefin 2007)
                                                                                                      -4-
             Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
  Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.




Cyfradd geni Sir y Fflint 2001 - 2005
                                                                    2001          2002           2003        2004        2005
Genedigaethau byw am bob 1,000
                                                                       53.4         52.3           54.3           55.7     56.2
o ferched 15-44 oed
Babanod a gafodd eu geni’n farw
am bob 1,000 o’r holl fabanod a                                           5.0        5.4            5.1            5.7      5.3
anwyd (byw a marw)
Cyfanswm y genedigaethau am
                                                                       53.7         52.6           54.6           56.1     56.5
bob 1,000 o ferched 15-44 oed *
Ffynhonnell: ONS
* cyfnod beichiogi o 24 wythnos neu ragor. Ar 1 Hydref 1992, cafodd y diffiniad cyfreithiol o faban sy’n cael ei eni’n
farw ei newid i gynnwys babanod sy’n cael eu geni’n farw ar ôl cyfnod beichiogi o rhwng 24 a 27 wythnos.


Cyfanswm y Gyfradd Ffrwythlondeb
Cyfanswm y Gyfradd Ffrwythlondeb (TFR) yw’r mesur a ddefnyddir i ddangos
nifer y plant, ar gyfartaledd, a fyddai’n cael eu geni i ferched mewn oed i gael
plant ac a roddodd enedigaeth i blant yn ôl cyfraddau ffrwythlondeb sy’n
seiliedig ar oed. Yn 2004, roedd y TFR yn Sir y Fflint ychydig yn uwch na’r
cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, sef 1.85 o’i gymharu ag 1.76.

Y Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol
Mae’r Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol (GFR) yn Sir y Fflint yn uwch na’r
cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, sef 58 o’i gymharu â 55.7 am bob 1,000 o
ferched 15-44 oed.

Mae’r siart isod yn dangos y duedd yn y GFR ar gyfer preswylwyr Bwrdd
Iechyd Lleol Sir y Fflint o 1996 i 2005. Roedd nifer y genedigaethau byw bob
blwyddyn, ar gyfartaledd, yn amrywio o 1,607 i 1,786 ar gyfer preswylwyr
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint.


                                            Cyfradd Ffrwythlondeb gyffredinol, Sir y Fflint: 1996-2005
                                                               Ffynhonnell ONS
                                                General fertility rate, Flintshire: 1996-2005
                                                                   Source: ONS

                                                                                    Flintshire            Wales
                                70

                                60
  Rate per 1000 females 15-44




                                50

                                40

                                30

                                20

                                10

                                0
                                     1996     1997   1998   1999   2000    2001   2002     2003    2004    2005



                                                                                                                           -5-
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?

Mae llawer o’r Camau Allweddol yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn ymwneud yn
uniongyrchol â’r safonau gofal ar gyfer darpar rieni, gan gynnwys:

       3.1: Mae menywod beichiog yn cael cynnig asesiad cyfannol
       gyda bydwraig benodol yn y cyfweliad cyntaf, ac mae’r
       trefniadau gofal wedi’u cynllunio i ddiwallu eu hanghenion
       ac yn cael eu cofnodi yn y cynllun gofal unigol y cytunwyd
       arno.

       3.2: Mae menywod yn cael gwybodaeth am wasanaethau lleol er
       mwyn iddynt wneud y dewisiadau priodol ar gyfer gofal yn
       ystod beichiogrwydd, gofal wrth eni a gofal ôl-enedigol.
       Mae menywod sy’n dewis rhoi genedigaeth gartref yn cael
       pob cymorth, fel sy’n briodol yn ôl lefel y risg clinigol

       3.3: Mae gofal y menywod a’r babanod yn cael ei ailasesu a’i
       gynllunio’n rheolaidd gan y fydwraig benodol, ar y cyd â’r
       menywod a’u cymar - neu gan obstetregydd a
       phaediatregydd penodol yn achos beichiogrwydd/
       genedigaeth risg uchel.

       3.4: Mae’r mannau geni yn cael eu harchwilio’n rheolaidd i ofalu
       eu bod mor normal, urddasol a phreifat â phosib i’r fam sy’n
       esgor ac yn rhoi genedigaeth, ac i rai fydd yn bresennol yn
       yr enedigaeth

       3.5: Yn fuan ar ôl yr enedigaeth, mae gweithiwr proffesiynol
       arweiniol penodol, sef bydwraig benodol fel arfer, yn
       gyfrifol am ailasesu anghenion unigol a chydgysylltu gofal
       ôl-enedigol pob baban a menyw.

       3.6: Lle bo hynny’n bosib, mae babanod y mae angen rhagor o
       ofal arnynt yn cael eu nyrsio gan staff wedi’u hyfforddi’n briodol ar
       y wardiau ôl-enedigol – gan osgoi’r sefyllfa o gadw mamau
       a babanod ar wahân.

       3.9: Mae menywod yn gallu cael gafael ar fydwragedd yn y
       gymuned, trwy alw heibio i gael cyngor cyn-feichiogi ar
       ddatblygu ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys cymryd tabledi
       asid ffolig a chael gofal mamolaeth yn syth ar ôl clywed eu
       bod yn feichiog. Mae gofal mamolaeth cynnar yn cael ei
       hyrwyddo trwy sicrhau bod bydwragedd yno fel y ddolen
       gyswllt gyntaf i fenywod. Gall menywod hefyd ddisgwyl cael
       cysylltiad â'r Ymwelydd Iechyd Teuluol pan fyddant yn
       feichiog..

                                                                                       -6-
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


       3.10: Mae menywod yn gallu cael gofal ôl-enedigol mewn pob
       math o leoliadau lleol, ac ar adegau sy’n ysytyried holl
       ofynion teuluol a gwaith y fenyw.

       3.11: Mae gwasanaethau arbenigol ar gael i ferched ifanc yn eu
       harddegau sy’n feichiog, megis addysg rhieni a chyfoedion
       a grwpiau cymorth.

       3.12 Mae menywod beichiog sydd:
       • yn smygu yn gallu cael gwybodaeth a chymorth i’w helpu i
       roi’r gorau iddi
       • yn camddefnyddio sylweddau eraill yn gallu cael
       gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o driniaethau neu
        ymyriadau priodol

       3.15: Mae menywod beichiog yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio
       cyn geni yn unol ag argymhelliad Sgrinio Cyn geni Cymru

       3.21: Mae strategaeth amlasiantaeth i roi cyngor cyn
       beichiogrwydd gan gynnwys maethiad ac ymarfer corff,
       manteision bwydo o’r fron, iechyd rhywiol ac osgoi
       camddefnyddio sylweddau – gan ddechrau gyda phobl ifanc
       o oedran ysgol.

       3.22: Mae menywod yn y cyfnod esgor cynnar yn gallu cael
       ymweliadau gan fydwraig gymuned yn eu cartrefi

       3.27: Mae staff sy’n cyflenwi gwasanaethau i famau a babanod,
       yn unrhyw leoliad, yn cael eu hyfforddi i roi cymorth bywyd
       i'r newydd-enedig ac i oedolion.

       3.28: Mae bydwraig benodol yn y cyfnod ôl-enedigol yn rhoi’r
       cyfle i famau a’u partneriaid adlewyrchu ar eu profiadau o
       fod yn feichiog a rhoi genedigaeth. Mae’r wybodaeth hon
       yn cael ei hanfon at Bwyllgor Cyswllt Gwasanaethau
       Mamolaeth i lywio’r gwaith o gynllunio a chyflenwi
       gwasanaethau.

Sut mae Sir y Fflint yn mynd ati i ar hyn o bryd i roi cyngor
ynghylch y cyfnod cyn cenhedlu, beichiogrwydd a
genedigaeth?
Ar hyn o bryd nid oed unrhyw glinigau cyn cenhedlu ffurfiol, ond mae
bydwragedd ar gael pan fo angen ar gyfer sesiynau galw heibio.

Mae pob merch yn cael gwybodaeth i’w helpu i ddewis man geni yn ystod
ei hapwyntiad cyntaf. Y fydwraig yw’r man cyswllt cyntaf i bob merch, a’r
fydwraig honno fydd y prif weithiwr proffesiynol a fydd yn delio â merched sy’n
cael eu hystyried yn risg isel. Os nodir unrhyw ffactorau risg yn ystod yr

                                                                                       -7-
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


ymweliad cyntaf, caiff merched eu cyfeirio at yr Obstetrydd Ymgynghorol i
gael eu hasesu ac i gael cynllun gofal personol. Cydymffurfir â Chanllawiau
NICE ar Ofal Cyn-geni a Llwybr Clinigol Cymru Gyfan ar gyfer Genedigaeth
Arferol.

O’r man cyswllt cyntaf mae merched risg isel yn cael gofal cyn-geni ac ôl-
enedigol gan dîm o fydwragedd cymunedol a chânt ofal un i un yn ystod yr
esgor a’r enedigaeth. Mae merched risg uchel, neu risg uchel posibl, yn cael
eu hasesu gan yr obstetrydd ymgynghorol cyn y geni ar yn ystod yr esgor a’r
enedigaeth os oes angen. Mae Pediatrydd Ymgynghorol ar gael 24 awr y
dydd ar gyfer pob achos pediatreg ar wardiau esgor a wardiau ôl-enedigol.

Mae pwll geni wedi’i osod ac yn weithredol, ac mae pob bydwraig yn gallu
helpu merched sydd am roi genedigaeth mewn pwll dwr. Datblygwyd ystafell
esgor risg isel i sicrhau genedigaeth mor normal, preifat ac urddasol â phosibl.

Yn dilyn genedigaeth mewn ysbyty, caiff merched eu trosglwyddo i ward ac
yno bydd bydwraig benodol yn gyfrifol am gydlynu asesiad pediatreg o’r
newydd-anedig a gofal i’r fam. Gwneir bob ymdrech i osgoi gwahanu mamau
a’u babanod. Yn dilyn genedigaeth yn y cartref, bydd y fydwraig yn parhau i
roi gofal i’r fam a’r baban nes y cânt eu gollwng o’u gofal.

Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?
Ac eithrio 3.22 (gweler isod), mae’r holl Gamau Allweddol yn y Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau
Mamolaeth wedi’u cyflawni’n foddhaol.

Ar hyn o bryd mae Cam Allweddol 3.22 wedi’i ddynodi’n goch, gan nad oes
modd darparu’r gwasanaeth hwn i bawb. Mae merched yn y cyfnod esgor
cynnar, y mae’n addas gofalu amdanynt yn ôl llwybr clinigol Cymru gyfan ar
gyfer genedigaeth arferol, yn cael eu cynghori i aros gartref os dyna’u
dymuniad, ac mae eraill yn cael eu derbyn i’r wardiau esgor i gael eu hasesu.
Mae angen rhagor o arian hefyd i alluogi’r fydwraig i gael ei phecynnau esgor
ei hun er mwyn medru cynnig i ferched risg isel aros gartref os oes angen eu
hasesu yn ystod y cyfnod esgor cynnar, a sicrhau eu bod yn defnyddio dulliau
diogel yn ystod genedigaethau cartref.


CRYNODEB:
Mae merched beichiog yn Sir y Fflint yn cael gofal cyn-geni dan arweiniad
bydwraig ac mae dewis amrywiol ar gael iddynt o ran rhoi genedigaeth. Caiff
pwysigrwydd gofal parhaus ei gydnabod. Mae angen rhagor o adnoddau i
gydymffurfio â Cham Allweddol 3.22




 1.2 BABANOD Â PHWYSAU GENI ISEL
                                                                                       -8-
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?
Yn ôl diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd, mae pwysau geni baban yn isel os yw’n
llai na 2500 gram. Mae’n digwydd naill ai oherwydd cyfnod beichiogrwydd byr
neu oherwydd nad yw’r baban wedi tyfu digon yn y groth (neu gyfuniad o’r
ddau). Dyma un o brif achosion marwolaethau babanod mewn gwledydd
datblygedig gan gynnwys y DU. Os yw babanod yn cael eu geni’n pwyso llai
na 2500g , maent yn fwy tebygol o farw neu fod yn wael eu hiechyd. Yn
ogystal â hyn, mae tystiolaeth ar gael sy’n cysylltu pwysau geni isel ag
afiechydon cronig fel diabetes a CHD mewn oedolion.

Yng Nghymru, mae cysylltiad clir rhwng pwysau geni isel ac amddifadedd
economaidd-gymdeithasol ac mae’r pwysau geni uchaf bron ddwywaith
gymaint â’r isaf. Mae’r cysylltiad rhwng pwysau geni isel a gwaeledd ac
amddifadedd mor gryf, caiff ei ddefnyddio weithiau fel mesur cyffredinol o lefel
yr amddifadedd mewn cymuned.

Gall y dangosyddion sy’n awgrymu canlyniadau gwael tebygol i blant darddu o
wahanol ffynonellau ar wahanol adegau yn ystod eu bywydau. Mae hyn yn wir
ar gyfer plant cyn iddynt gael eu geni hyd yn oed. Yn ystod beichiogrwydd gall
ymddygiad a ffordd o fyw’r fam gael effeithiau hirdymor ar fywyd y plentyn yn
ddiweddarach yn ystod ei oes. Un o’r dangosyddion mwyaf dibynadwy o ran
rhagfynegi canlyniadau gwael i oedolion yw pwysau geni isel. Mae babanod â
phwysau geni isel yn fwy tebygol o gael problemau iechyd yn ystod eu
plentyndod. Yn ôl tystiolaeth ddiweddar, un o’r rhesymau dros bwysau geni
isel yw mamau sy’n ysmygu, yn yfed gormod o alcohol, yn cymryd gormod o
gyffuriau neu’n bwyta diet gwael yn ystod eu beichiogrwydd.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut rydym yn cymharu â
mannau eraill?
Mae cyfradd y babanod â phwysau geni isel ychydig yn is yng Nghymru nag
yn Lloegr, ac mae’r gyfradd yn Sir y Fflint (5.3% o enedigaethau unigol byw)
yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan (5.9%).




                                                                                       -9-
               Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
    Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


                              Cyfradd y babanod â phwysau geni isel (%),
                                   Sir y Fflint: 1996-2005
                                          Ffynhonnell :    AWPS; ONS

                                                                Sir y Fflint          Cymru
        12

        10

        8

    %   6

        4

        2

        0
             1996   1997   1998    1999    2000     2001     2002      2003    2004   2005



Fodd bynnag, mae 2 MSOAs2 yn Sir y Fflint lle mae dros 8% o fabanod unigol
yn cael eu geni’n fyw ac sydd â phwysau geni isel:




Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?
Mae rôl gwasanaethau cyhoeddus cyffredinol yn dyngedfennol. Yn yr achos
hwn, mae gan wasanaethau cyhoeddus fel bydwragedd, a hyfforddwyr iechyd
ran bwysig yn y gwaith o annog mamau i fyw bywydau iach a hybu
amgylchedd iach yn y cartref ar gyfer y baban yn y groth a’i deulu.
2
  Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol (MSOA) yw ardal sydd wedi’u chreu’n artiffisial ac sydd â
phoblogaeth o 7,500 ar gyfartaledd (ac o leiaf 5,000) . Nid yw’n cyfateb i ddiffiniadau eraill o ‘ardal’. Mae
413 MSOA yng Nghymru ac 20 yn Sir y Fflint .

                                                                                                       - 10 -
               Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
    Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Ysmygu yw’r prif ffactor addasadwy yng nghyswllt pwysau geni isel3. Ar
gyfartaledd, mae babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n ysmygu’n pwyso
200g yn llai na babanod sy’n cael eu geni i famau nad ydynt yn ysmygu, ac
mae merched ddwywaith yn fwy tebygol o gael baban â phwysau geni isel os
ydynt yn ysmygu. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod mesurau effeithiol i helpu
merched i roi’r gorau i ysmygu yn lleihau nifer y babanod â phwysau geni isel
ac yn codi pwysau geni babanod y merched hynny sy’n llwyddo i roi’r gorau i
ysmygu. Dylai merched beichiog, felly, gael help arbenigol i roi’r gorau i
ysmygu yn ystod y cyfnod cyn-geni.

Mae nifer o ffactorau’n ymwneud â maeth hefyd yn effeithio ar bwysau geni,
gan gynnwys pwysau’r fam cyn iddi feichiogi, y cynnydd yn ei phwysau yn
ystod y cyfnod beichiogi, faint o egni a haearn y mae’n eu cael ac anaemia.
Mewn adolygiad diweddar4 cafwyd rhywfaint o dystiolaeth yn ymwneud â
lleihau pwysau geni isel drwy ofalu bod y fam yn bwyta diet cytbwys o ran
protein/egni a digon o ffolad a fitaminau amrywiol. Gall ychwanegu calsiwm
hefyd fod yn bwysig i leihau pre-eclampsia, marwolaethau a gwaeledd difrifol
ymhlith merched beichiog. Fodd bynnag, argymhellir ymchwilio ymhellach i
gadarnhau’r effeithiau hyn, ac i astudio effeithiau hirdymor ychwanegiadau o’r
fath.

Yn ôl cyngor a gafwyd yn ddiweddar gan yr Adran Iechyd, ni ddylai merched
beichiog yfed alcohol.

Mae’r Cam Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn berthnasol i’r
mater hwn:

3.12 Mae menywod beichiog sydd:
      • yn smygu yn gallu cael gwybodaeth a chymorth i’w helpu i
      roi’r gorau iddi
      • yn camddefnyddio sylweddau eraill yn gallu cael
      gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o driniaethau neu
      ymyriadau priodol.


Pa wasanaethau yn Sir y Fflint sy’n ceisio lleihau nifer y
babanod â phwysau geni isel?
Drwy gynnig gofal cyn-geni cyffredinol, a chymorth ychwanegol i famau yn
ardaloedd Dechrau’n Deg a Cychwyn Cadarn, y nod yw ceisio lleihau
achosion o bwysau geni isel drwy wella gwasanaethau cyn-geni a chyn
cenhedlu. Ar hyn o bryd, does dim clinigau cyn cenhedlu ffurfiol ond mae
bydwragedd ar gael pan fo angen i gynnal sesiynau galw heibio.

3
  NICE (2003): Prevention of low birth weight: assessing the effectiveness of smoking cessation and
nutritional interventions
4
  GICC (2007): Adolygiad cyflym o’r dystiolaeth o effeithiolrwydd ymchwanegiadau maethol o ran atal
pwysau geni isel mewn grwpiau difreintiedig

                                                                                                - 11 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Caiff pob merch feichiog wybodaeth yn ystod ei hapwyntiad cyntaf am y
Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu a chânt gynnig apwyntiad â’r
gwasanaeth. Crëwyd swydd am gyfnod penodol, dan nawdd Wanless, i helpu
cleientiaid beichiog sydd am roi’r gorau i ysmygu. Penodwyd bydwraig ran
amser i weithio gyda’r Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu yn y sir. Gellir
priodoli llwyddiant y cynllun i’r ffaith bod y fydwraig yn cynnal yr asesiadau yn
y cartref. Cafwyd rhagor o arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn
ddiweddar i helpu merched beichiog i roi’r gorau i ysmygu – disgwylir y bydd
sesiynau ar gael yn Sir y Fflint erbyn diwedd mis Rhagfyr 2007.

Yn Sir y Fflint mae gwasanaeth camddefnyddio alcohol a chyffuriau sy’n
cynnwys dwy fydwraig lawn amser mewn 3 ardal Bwrdd Iechyd Lleol. Maent
yn darparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar angen unigolion i gael gwybodaeth
neu driniaeth. Caiff merched ddewis pryd a ble y maent am gael eu gweld.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?

Mae cyfradd y babanod â phwysau geni isel yn Sir y Fflint yn is na’r
cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, er ei bod yn sylweddol uwch mewn 2 MSOA
(oherwydd y modd y caiff data MSOA ei greu, nid yw’n bosibl nodi’r union
ardaloedd daearyddol y mae’r wybodaeth hon yn berthnasol iddynt). Mae’r
goblygiadau i Sir y Fflint yn gadarnhaol o ran canlyniadau, a’r unig brif
fygythiad yw y gall y gwasanaethau ychwanegol ddod i ben os daw’r cyllid i
ben.

Drwy roi cymorth i ferched beichiog roi’r gorau i ysmygu a drwy ddarparu
gwasanaethau arbenigol i’r rheini sy’n camddefnyddio alcohol neu gyffuriau,
mae’n bosibl gostwng y gyfradd bresennol ymhellach.

Mae Cam Allweddol 3.12 wedi’i ddynodi fel gweithgaredd i’w gyflawni erbyn
mis Mawrth 2008.


CRYNODEB:
Mae angen defnyddio dulliau cynaliadwy o helpu merched beichiog i roi’r
gorau i ysmygu. Bydd adnoddau ychwanegol ar gael yn Sir y Fflint at y diben
hwn drwy ‘Dim Smygu Cymru’ (Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Cymru
Gyfan)



 1.3 MARWOLAETHAU PLANT

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?



                                                                                      - 12 -
               Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
    Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae cyfraddau marwolaeth plant yng Nghymru yn ddangosydd pwysig mewn
sawl ystyr. Mae’n hysbys bod ffactorau economaidd-gymdeithasol yn effeithio
arnynt a bod ganddynt gysylltiad uniongyrchol ag iechyd a ffordd o fyw
merched yn ystod eu beichiogrwydd. Gall data am farwolaethau plant hefyd
ddangos effaith gofal iechyd yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl y geni.

Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau plant yn digwydd yn ystod eu blwyddyn
gyntaf, a chan hynny, mae’r adran hon yn gwahaniaethu rhwng babanod
marw-anedig, marwolaethau amenedigol, marwolaethau babanod newydd-
anedig a marwolaethau babanod, ac yn canolbwyntio ar blant dan flwydd oed.

Babanod marw-anedig (marwolaeth baban ar ôl cyfnod beichiogi o 24
wythnos neu yn ystod y geni);
Nid oes dealltwriaeth dda o’r hyn sy’n achosi i fabanod gael eu geni’n farw. Yn
2002, bu farw tri chwarter o fabanod a gafodd eu geni’n farw yng Nghymru a
Lloegr cyn eu geni, yn hytrach na wedyn. Mewn 14 y cant o achosion pellach,
anomaledd cynhenid oedd prif achos y marwolaethau5 .

Marwolaeth amenedigol (marwolaeth babanod sy’n cael eu geni’n farw neu’n
marw ymhen wythnos ar ôl eu geni): Mae cyfran y babanod â phwysau geni
isel, cyfran y babanod ag anomaleddau cynhenid difrifol neu broblemau eraill
a safon y gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig i gyd yn effeithio ar
gyfradd y marwolaethau amenedigol. Mae gostyngiad mewn marwolaethau
amenedigol yn debygol o adlewyrchu gwelliannau mewn gofal cyn-geni, yn
ystod y geni ac ôl y geni6 .

Marwolaethau newydd-anedig (marwolaeth babanod yn ystod 28 diwrnod
cyntaf eu hoes): Yn 2002, genedigaethau cynamserol oedd yn gyfrifol am dros
hanner (58%) y marwolaethau newydd-anedig yng Nghymru a Lloegr ac
anomaledd cynhenid oedd yn gyfrifol am chwarter ohonynt7.

Marwolaeth babanod (marwolaeth plant dan flwydd oed): mae marwolaeth
babanod yn ddangosydd pwysig o ran lefel iechyd cymuned ac mae’n
gysylltiedig ag amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Genedigaethau
cynamserol yw prif achos marwolaeth o hyd (46%), ac yna marwolaethau
oherwydd anomaledd cynhenid (28%). Yn y gorffennol, marwolaethau
sydyn/annisgwyl (SUDI, a fyddai’n cael ei alw gynt yn farwolaeth yn y crud)
fyddai prif achos marwolaeth babanod dan flwydd oed. Fodd bynnag, dim ond
5% o farwolaethau yn y grŵp oedran hwn sy’n cael ei briodoli i SUDI yn awr.
Mae’n debyg mai’r rheswm dros hyn yw newidiadau mewn ymddygiad rhieni
yn dilyn cyngor i beidio â rhoi babanod i gysgu ar eu boliau. Gallai ymchwilio
mwy trylwyr i achosion SUDI hefyd fod wedi arwain at ostyngiad
ymddangosiadol wrth i achosion marwolaeth eraill gael eu darganfod8.


5
  GICC (2004): Amgylchiadau iechyd ac amgylchiadau cymdeithasol plant Cymru: Cyfres o adroddiadau
i ategu Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Plant Cymru
6
  ibid
7
  ibid
8
  ibid

                                                                                           - 13 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut r ydym yn cymharu â
mannau eraill?
Marwolaethau babanod yn Sir y Fflint 2001 - 2005
                           2001         2002                  2003    2004          2005
Marwolaethau amenedigol
fesul 1,000 o
                            7.5          7.7                  7.6      8.0            7.4
enedigaethau (byw a
marw)*
Marwolaethau newydd-
anedig am bob 1,000 o       3.5          3.2                  3.1      3.1            2.9
enedigaethau byw **
Marwolaethau babanod
am bob 1,000 o              5.4          4.5                  4.3      4.9            4.1
enedigaethau byw ***
                                                                       Ffynhonnell: ONS
* Genedigaethau marw a marwolaethau babanod dan wythnos oed
** Marwolaethau babanod dan 4 wythnos oed
***Marwolaethau babanod dan flwydd oed


Yn achos pob mesur o farwolaethau plant yn Sir y Fflint, mae’r cyfraddau yn is
na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan.

Bu 2 achos o fabanod yn marw’n sydyn ac annisgwyl yn Sir y Fflint ers 2003.


Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?

Mae cysylltiad clir rhwng amddifadedd economaidd-gymdeithasol a
marwolaeth babanod. Rhwng 2000 a 2004, roedd cyfradd marwolaeth
babanod yn yr adrannau etholiadol hynny sydd ymhlith y 20% mwyaf
difreintiedig dros 60% yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Bydd
mesurau a gymerir i leihau anghydraddoldeb yn gwella cyfraddau
marwolaethau plant. Mae’n bosibl sicrhau rhai gwelliannau drwy barhau i
wella safon y gofal iechyd a roddir i famau a babanod. Gall gwella cyngor cyn
cenhedlu a gofal ôl-enedigol gael effaith manteisiol hefyd.

Mae dau Gam Allweddol yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer
Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn berthnasol i’r mater hwn:

           3.7 Mae rhieni babanod marw-anedig, neu fabanod sydd â
          phroblemau meddygol neu gorfforol penodol, yn cael digon
          o ofal a chymorth amserol mewn amgylchedd priodol.

          3.8 Os yw baban yn marw, mae’r paediatregydd arweiniol yn
          cwrdd â’r rhieni 6 wythnos ar ôl hynny i drafod canlyniadau’r
          ymchwiliad post-mortem

Sut mae Sir y Fflint yn ceisio lleihau marwolaethau plant ar
hyn o bryd?
                                                                                          - 14 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Nod y gwasanaethau cyn-geni ac esgor cyffredinol yw nodi amgylchiadau
sy’n gysylltiedig â’r beichiogrwydd neu ag amgylchiadau’r ddarpar fam a all
beryglu’r beichiogrwydd. Mae cymorth ychwanegol ar gael i ferched sy’n byw
yn ardaloedd Cychwyn Cadarn neu Dechrau’n Deg, ac mae’r gwasanaeth
alcohol a chyffuriau cymunedol yn rhoi cymorth iddynt hefyd.

Mae’r gofal y mae NEWT yn ei gynnig i famau babanod marw-anedig neu
famau sydd â phroblemau meddygol yn cael ei ategu gan bolisïau i sicrhau
dulliau safonol. Cynhelir cyfarfodydd ar gyfer staff wardiau mamolaeth,
Unedau Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) a wardiau plant yn rheoliad i
drafod profedigaeth. Mae gan yr Ymddiriedolaeth 3 bydwraig profedigaeth
amenedigol sy’n rhoi gofal o ddydd i ddydd, sy’n gyfrifol am hyfforddi
bydwragedd eraill ac sy’n cynnig eu harbenigedd i’r bydwragedd hynny sy’n
gofalu am rieni yn yr amgylchiadau hyn.

Mae 2 nyrs sy’n gweithio ar SCBU ac 1 nyrs sy’n gweithio ar ward plant sy’n
ymgymryd â gwaith tebyg i waith y bydwragedd. Yn SCBU mae pecyn
profedigaeth ac mae un yn cael ei baratoi ar ward y plant. Mae canllawiau ar
gael hefyd i helpu staff i roi newyddion drwg i rieni.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd oedi hir cyn cael adroddiad post
mortem oherwydd prinder arbenigwyr patholegwyr pediatrig. Fodd bynnag, ar
ôl colli baban, mae pob rhiant yn cael cyfle i gyfarfod â’u pediatrydd cyn pen
chwe wythnos a chânt drafod canlyniadau’r post mortem bryd hynny (os bydd
wedi’i gynnal). Os bydd post mortem wedi’i gynnal, mae’r canlyniadau’n aml
yn hir yn cyrraedd o Gaerdydd a gall gymryd chwe mis i gyrraedd weithiau.

Caiff teuluoedd plant sydd â chyflwr sy’n cyfyngu ar eu bywydau ac sy’n cael
cymorth gan Wasanaeth Nyrsio Diana, gynnig ymweliadau i drafod
profedigaeth ac os yw’r teulu’n cydsynio cânt wasanaeth cwnsela hefyd.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu llwybr gofal lliniarol i blant yn
Ymddiriedolaeth Gogledd-ddwyrain Cymru.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?
Mae angen archwilio gwasanaethau cwnsela strwythuredig i staff, yn ogystal
â’r rhieni a’r teulu, yn dilyn marwolaeth plentyn.

Mae angen i ysgolion, gwasanaethau ieuenctid ac iechyd gynnig gwell gofal
ac addysg cyn cenhedlu ac ôl-enedigol er mwyn sicrhau bod pobl Sir y Fflint
yn elwa o’r mesurau hyn i leihau anghydraddoldebau mewn marwolaethau
amenedigol.


CRYNODEB:
I leihau nifer y marwolaethau amenedigol, mae’n rhaid i’r holl asiantaethau
                                                                                      - 15 -
               Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
    Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


gydweithio i ddelio â’r holl ffactorau sy’n effeithio ar farwolaethau plant. Yn
ogystal â hyn, bydd angen i wasanaethau gofal iechyd dargedu ac ailgyfeirio
gwasanaethau ac adnoddau at yr ardaloedd daearyddol mwyaf anghenus ac
at y grwpiau hynny sydd fwyaf tebygol o gael beichiogrwydd â chanlyniadau
gwael.



    1.4 ANOMALEDD CYNHENID

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?

Caiff anomaledd cynhenid ei ddiffinio fel nam ffurfiannol, metabolig,
endocrinaidd neu genetig sy’n bresennol yn y plentyn neu’r ffoetws ar
ddiwedd y beichiogrwydd. Y nam mwyaf cyffredin yw anomaledd
cardiofasgwlaidd, yna nam ar yr aelodau, y system dreulio, nam
cyhyrysgerbydol neu wrinaidd. Mae anomaledd cynhenid yn effeithio ar tua
30% o ffoetysau, ond mae’r mwyafrif helaeth yn cael eu herthylu’n naturiol yn
fuan iawn yn ystod y beichiogrwydd. Mae anomaledd cynhenid yn cael ei
gadarnhau mewn tua 4% o ffoetysau sydd wedi sefydlu. Bydd rhai o’r
ffoetysau hyn yn cael eu herthylu’n naturiol yn ddiweddarach neu bydd y ferch
yn penderfynu cael erthyliad ar ôl i brofion ddangos bod anomaledd ar y
ffoetws. O ganlyniad, mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni ag anomaledd
cynhenid yn llai (3.3%). Mae’r golled yn peri gofid mawr i rieni, a gall yr
anomaledd barhau i greu problemau iechyd a phroblemau cymdeithasol am
weddill eu hoes. Drwy gynnal profion sy’n amlygu anomaledd, mae’n bosibl
ymyrryd i leihau unrhyw effeithiau hirdymor.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint a sut rydym yn cymharu â
mannau eraill?
O safbwynt anomaleddau cynhenid, yn Sir y Fflint mae’r gyfradd isaf ond un
yng Nghymru, sef 361.6 am bob 10,000 genedigaeth (ar gyfartaledd rhwng
1998-2005) o’i gymharu â’r gyfradd ar gyfer Cymru gyfan, sef 475.9 am bob
10,000 genedigaeth ar gyfer yr un cyfnod9.

Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?
Mae amrywiaeth eang a chymhleth o resymau dros anomaleddau cynhenid,
rai ohonynt yn hysbys ac eraill yn anhysbys, ac ychydig iawn y gellir ei wneud
i’w hatal. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod manteision i’r mesurau
a ganlyn o ran anableddau dysgu ac anableddau niwrolegol10:


9
  Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS): Achosion ac anomaleddau a
gadarnhawyd ac a gofnodwyd gan CARIS 1998-2005
(http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=416&pid=3773)
10
   Bwletinau Tystiolaeth Iechyd Cymru (1999): Anawsterau Dysgu
                                                                                         - 16 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


          Sgrinio, gan ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael gan gynnwys sganio
           uwchsain. Drwy ddarganfod abnormaledd cyn-geni caiff rhieni gyfle i
           derfynu’r beichiogrwydd os yw hynny’n briodol, neu mae’n rhoi cyfle
           iddynt baratoi i ofalu am y plentyn.
          Ychwaneg asid ffolig at ddiet y fam cyn cenhedlu ac yn ystod y
           beichiogrwydd i atal nam ar y tiwbiau niwral.
          Brechu rhag rubella.

Gall effaith ambell anomaledd cynhenid (fel byddardod) leihau’n sylweddol os
caiff ei ddarganfod yn fuan. Mae nifer y babanod newydd-anedig sy’n cael
prawf clyw yn uchel. Caiff 99% o fabanod sy’n gymwys ac yn addas i’w profi
yn Sir y Fflint eu sgrinio; y cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan yw 99%11

Mae’r Camau Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn
berthnasol i’r mater hwn:

           3.15 Mae menywod beichiog yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio
            cyn geni yn unol ag argymhelliad Sgrinio Cyn geni Cymru

           3.16 Mae gwasanaeth sgrinio newydd-anedig ar gael i rieni, ac
            mae gofal dilynol yn cael ei gomisiynu fel bo angen.

           3.30 Mae pob baban yn cael ymchwiliad meddygol 24 cyn pen
            24 awr gan weithiwr proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol


Sut mae Sir y Fflint yn ceisio lleihau nifer yr achosion o
anomaleddau cynhenid ar hyn o bryd?
Caiff polisïau a safonau Sgrinio Cyn-geni Cymru o ran gwasanaethau sgrinio
cyn-geni eu gweithredu’n llawn ar gyfer merched sydd wedi trefnu i roi
genedigaeth yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. Mae
bydwraig yn cael ei chyflogi ar y ddau safle ar gyfer gwaith sgrinio cyn-geni a
chaiff pob bydwraig ei hyfforddi i sicrhau bod pob merch yn cael cynnig
gwasanaeth sgrinio. Mae pob meddyg teulu’n ymwybodol o’r rhaglen sgrinio.
Mae pecyn archwilio lleol a chanllawiau ar gael gan Sgrinio Cyn-geni Cymru i
werthuso’r gwasanaeth hwn. Yn unol â’r polisi cenedlaethol yn Lloegr, mae
trefniadau tebyg ar gael ar gyfer merched sydd wedi trefnu i roi genedigaeth
yn Ysbyty Countess of Chester.

Os yw merched yn penderfynu terfynu’r beichiogrwydd oherwydd
abnormaledd yn y ffoetws cânt eu cyfeirio at wasanaethau Ymddiriedolaeth y
GIG Gogledd-ddwyrain Cymru. Cânt gynnig gwasanaeth cwnsela anffurfiol a
phecyn gwybodaeth yn cynnwys rhifau ffôn a gwybodaeth am wasanaethau
perthnasol.




                                                                                      - 17 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae gwasanaethau cwnsela a chynghori ar gael hefyd i ferched sydd wedi
cenhedlu ffoetws ag anomaledd cynhenid yn y gorffennol.

Caiff pob cwpl sy’n defnyddio’r gwasanaethau gofal iechyd yng nghyswllt y
cyfnod cyn cenhedlu/cenhedlu wybodaeth a chyngor ynghylch rôl asid ffolig
o ran gostwng achosion o nam ar y tiwb niwral.

Yn ystod y cyfnod cyn-geni, caiff pob rhiant wybodaeth am y dewis sydd ar
gael iddynt o ran sgrinio babanod newydd-anedig, er mwyn iddynt fedru
pwyso a mesur y wybodaeth cyn dod i benderfyniad, cyn y geni weithiau.
Gofynnir am ganiatâd ar lafar i bob math o sgrinio a rhoddir gwybodaeth
ysgrifenedig am sgrinio babanod newydd-anedig yn fuan ar ôl y geni. Gall
rhieni ddefnyddio’r gwasanaeth sgrinio clyw babanod newydd-anedig yn yr
ysbyty neu yn y gymuned os ydynt wedi’u rhyddhau o’r ysbyty. Y bydwragedd
cymunedol sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith sgrinio ac os yw’r
canlyniadau’n abnormal, y fydwraig fydd yn rhoi gwybod i’r ferch ac yn ei
chyfeirio at y gwasanaethau priodol, os bydd angen.

Mae rhaglen Sgrinio Clyw Babanod Newydd-anedig Cymru Cyfan yn awr
yn cael ei gweithredu’n llawn gan dîm yn yr ardal hon ac mae rhieni’n cael
dewis defnyddio’r gwasanaeth hwn ai peidio. Mae sgrinio am PKU, Ffibrosis
Cystic, Dystroffi’r Cyhyrau a Gorthyroidedd wedi bod yn rhan o’r gwasanaeth
ers nifer o flynyddoedd.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?

Mae’r data’n awgrymu bod cyfradd anomaledd cynhenid yn is yn Sir y Fflint
nag ydyw mewn mannau eraill o Gymru. Awgryma hyn fod gofal cyn
cenhedlu, sgrinio cyn-geni a chwnsela genetig, ynghyd â phoblogaeth
gymharol fechan o grwpiau ethnig lleiafrifol, i gyd yn effeithio ar ganlyniad y
beichiogrwydd. Mae’n dal yn hanfodol i bawb sydd ynghlwm wrth roi gofal i
ferched beichiog barhau i gydgysylltu a chydweithio’n effeithiol â’r tri darparwr
gofal cyn-geni yng Nghymru a Lloegr, i sicrhau bod gwasanaeth deg ac o
safon gyson yn parhau.

Pan gaiff plentyn ei eni ag anabledd difrifol (neu’n datblygu anabledd difrifol
wedyn), mae’r gost i’r systemau gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn
sylweddol, ac maent yn cynyddu. Yn ogystal â’r camau i leihau achosion o
anomaledd cynhenid, mae angen sicrhau adnoddau i ddiwallu anghenion y
rheini sydd ag anableddau yn yr hirdymor.


Dynodwyd y bydd Cam Allweddol 3.30 wedi’i gyflawni erbyn mis Mawrth
2008.


CRYNODEB:

                                                                                      - 18 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Rhaid parhau â’r ymdrechion presennol i ddarparu gofal cyn cenhedlu a chyn-
geni cynhwysfawr a hygyrch, gan gynnwys sgrinio, i sicrhau bod cyfradd yr
achosion o anomaledd cynhenid yn parhau’n isel.



 1.5 BRECHU

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?

Drwy frechu plant mae’n bosibl eu hatal rhag dal amrywiaeth o afiechydon
trosglwyddadwy neu heintus. Mae’r rhain yn cynnwys Meningitis C, Pertussis
(y pas), Poliomyelitis, Haemophilus Influenza Math B (Hib), Diphtheria, y
Frech Goch, Clwy’r Pennau, Rubella a Chlefyd Niwmococol. Caiff plant eu
brechu pan fyddant yn cyrraedd gwahanol oedrannau, yn ôl â’r drefn
genedlaethol. Os na chaiff plant eu brechu am ryw reswm, ni fyddant wedi’u
diogelu rhag yr afiechydon plentyndod difrifol hyn.

O safbwynt llawer o’r afiechydon hyn, mae’n bwysig brechu 95% o’r plant er
mwyn diogelu’r boblogaeth gyfan rhag cael eu heintio (brechu torfol). Yn y
DU, nid yw’n brechu’n orfodol, ac mae rhai rhieni’n anghytuno â’r syniad o
frechu eu plant. Efallai mai’r sylw a roddwyd gan y cyfryngau i waith ymchwil
annibynadwy i sgil effeithiau’r brechiad MMR (y Frech Ieir, Clwy’r Pennau a
Rubella) yw’r rheswm dros hyn, neu’r ffaith fod rhaglen frechu lwyddiannus yn
lleihau nifer yr achosion o’r clefydau ac nad yw rhieni, gan hynny, yn gweld
plant yn sâl neu’n marw fel y byddent yn y gorffennol. Yn gyffredinol, nid yw
cymdeithas yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r clefydau y mae’r brechiadau
hyn yn eu hatal. Mae rhai o’u sgil effeithiau fel niwed i’r ymennydd, byddardod
parhaol, colli aelodau neu farwolaeth yn ein hatgoffa bod angen i ni sicrhau
bod cynifer o blant â phosibl yn cael eu brechu. Mae nifer o ffactorau’n
effeithio ar nifer y plant sy’n cael eu brechu, gan gynnwys ffactorau
economaidd-gymdeithasol, credoau lleyg am frechu, y cyfryngau, credoau
crefyddol a moesol a chyngor gan rai gweithwyr iechyd proffesiynol.

Gan fod y pigiadau amrywiol yn cael eu rhoi’r un pryd, neu tua’r un pryd,
mae’r patrymau ar gyfer pob brechiad yn debyg iawn, os nad yn union yr un
fath. Yr eithriad yw’r brechiad MMR. Ar y dechrau roedd nifer y plant a oedd
yn cael y brechiad hwn yn debyg i’r brechiadau eraill a oedd yn rhan o’r
rhaglen frechu ond, yn dilyn cyhoeddusrwydd andwyol gan y cyfryngau, a
oedd wedi’i seilio ar astudiaeth sydd, erbyn hyn, wedi’i phrofi’n ddiffygiol,
gwelwyd nifer y plant a gafodd eu brechu yng Nghymru yn gostwng o 92% ar
gyfartaledd i tua 78% ar ddechrau 2003. Yn dilyn ymdrechion dygn i
ddadwneud y niwed a achoswyd gan y cyhoeddusrwydd andwyol, dim ond
ychydig dros 85% o blant oedd wedi cael eu brechu erbyn diwedd 2005.



Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut r ydym yn cymharu â
mannau eraill?

                                                                                      - 19 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Dros y blynyddoedd diwethaf bu’r tueddiadau o ran brechu plant ifanc yng
Nghymru yn gadarnhaol iawn (NPHS, 2007b). Mae’r siart isod yn dangos y
duedd yn nifer y plant a gafodd eu brechu yn Sir y Fflint rhwng 2004 a 2006.
Yn Sir y Fflint mae’r ganran wedi amrywio ond mae cynnydd cyffredinol ym
mhob brechiad.



Nifer y plant a oedd yn byw yn Sir y Fflint a gafodd eu brechu fel rhan o’r rhaglen frechu fesul
                  chwarter COVER (data o adroddiadau chwarterol COVER)




Roedd 89.5% o blant 2 oed wedi cael y brechiad MMR rhwng mis Hydref a
mis Rhagfyr 2006, a oedd yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, ac
mae’r nifer i’w weld yn cynyddu.

Mae 84.4% o blant 5 oed yn cael dos atgyfnerthu cyn mynd i’r ysgol. Gwnaed
cryn dipyn o waith paratoi i godi’r niferoedd ar gyfer y dos hwn. Dros y 3 mis
diwethaf, gostyngwyd oedran y plant a gafodd gynnig y brechiad hwn o 4 oed
i 3 blwydd 4 mis ac mae’r apwyntiadau terfynol wedi’u hanfon.

Mae gwaith ar y gweill gyda phlant ym mlynyddoedd 1 i 6 i weld a oes angen
ymgyrch i sicrhau bod y plant hyn wedi cael yr holl frechiadau angenrheidiol.

Mae meddygfeydd yn Sir y Fflint yn cynnwys gwasanaethau brechu plant ers
cyflwyno cytundeb newydd Meddygon Teulu yn 2003.




                                                                                           - 20 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?
Brechu ac imiwneiddio yw’r dulliau mwyaf cost effeithiol o’r holl fesurau
ymyrraeth iechyd. Mae’n hanfodol parhau i godi nifer y plant sy’n cael y
brechiadau, yn enwedig MMR. Mae’n hanfodol bod proses a system effeithiol
ar gael i gynnig imiwneiddio pob teulu, ac yn enwedig y teuluoedd hynny nad
ydynt yn cadw eu hapwyntiadau, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu brechu’n
unol â’r rhaglen genedlaethol. Dengys gwaith ymchwil fod rhieni’n aml yn
newid eu meddyliau yn ddiweddarach yn ystod oes y plentyn os gofynnir
iddynt a hoffent i’w plentyn gael ei frechu.

Mae’r Cam Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn berthnasol i’r
mater hwn:

   2.47. Mae rhaglen rheoli clefydau trosglwyddadwy i blant a phobl
   ifanc sy’n
      • cynnig brechiad plant i bob plentyn a pherson ifanc felmater o drefn, yn
      unol â’r polisi presennol yn y DU;
      • mynd ar ôl y plant hynny a fethodd apwyntiadau brechu
     cyn 1 oed ac eto pan maent yn dechrau yn yr ysgol – gan
     gynnig apwyntiad arall fel sy’n briodol;
        • monitro faint sy’n cael brechlyn fesul practis meddyg teulu
      a rheoli’r cymorth sydd ar gael pan fo’r niferoedd yn isel,
       yn enwedig ar gyfer y brechlyn MMR.


Pa wasanaethau yn Sir y Fflint sy’n helpu i sicrhau bod plant
yn cael eu brechu?

Mae nifer o gynlluniau ar y gweill i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i
frechu plant ac i gyrraedd y targed o 95%.

Un o’r agweddau pwysicaf ar y broses frechu yw’r safonau hyfforddi uchel
sydd eu hangen ar y staff sy’n rhoi cyngor ac yn trefnu’r rhaglen. I hwyluso’r
broses hon cafodd Grŵp Hyfforddiant Imiwneiddio Gogledd-ddwyrain
Cymru ei ffurfio’n ddiweddar a dechreuodd eu rhaglen hyfforddi ym mis
Ionawr 2007 gan gynnig rhestr o ddyddiau hyfforddi ar gyfer y flwyddyn. Mae
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
ac Ymddiriedolaeth y GIG Gogledd-ddwyrain Cymru yn cyfrannu ac mae’r holl
faterion yn cael eu codi yn y ddwy sir. Caiff pob mater neu wybodaeth
newydd yn ymwneud â brechu ei gyflwyno drwy gyfrwng y grŵp hwn a
chafwyd adborth da iawn gan y rhai a fu ar y cyrsiau. Mae’r cyrsiau’n rhoi cyfle
i staff lleol drafod strategaethau ar gyfer cynyddu nifer y brechiadau y mae eu
practis eu hunain yn eu rhoi ac yn helpu i greu rhwydwaith ar gyfer
imiwneiddwyr newydd. Nid yw’r rhaglen yn weithredol ym mhob ardal
oherwydd nad oes digon a staff nac arian ond yn Sir y Fflint, mae 10 aelod o

                                                                                      - 21 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


staff sydd â diddordeb mewn brechu wedi cael hyfforddiant arbenigol. Cafodd
hyn ei ariannu gan eu cyrff cyflogi eu hunain i’w galluogi i rannu’r dasg o
gyflwyno’r rhaglen. Cafodd y rhaglen hyfforddi ei datblygu drwy fod yn
greadigol a thrwy fuddsoddi i ddatblygu staff lleol. Llwyddwyd i wneud hyn heb
gyllideb hyfforddi.

Yn ogystal â hyn, mae’n hanfodol cael proses a system i sicrhau bod pob
plentyn yn cael ei frechu, ac yn enwedig y rheini sy’n methu eu
hapwyntiadau. Mae’r system yn hanfodol er mwyn llwydo i frechu plant mewn
da bryd, ac yn unol â’r rhaglen genedlaethol. Mae’n bosibl brechu plant
gartref os yw’r teulu ei chael hi’n wirioneddol anodd cyrraedd meddygfa. Os
nad yw’r plentyn wedi cael y brechiadau angenrheidiol, maent yn awr yn cael
cynnig brechiadau pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol gynradd neu uwchradd,
gan sicrhau bod y cyswllt hwn gyda’r gweithiwr iechyd yn cael ei ddefnyddio
fel rhwyd diogelwch i nodi bwlch yn hanes brechiadau’r plentyn. Mae hyn yn
ddefnyddiol i deuluoedd na lwyddodd i gadw eu hapwyntiadau yn y feddygfa
oherwydd ffordd o fyw anhrefnus neu a gafodd eu nodi gynt fel teulu gyda
‘phlentyn mewn angen’.

Mae hyrwyddo’r rhaglen frechu ymhlith y cyhoedd yn cael ei ystyried yn
hanfodol o ran adennill hyder yn y rhaglen ac yn enwedig yn y brechiad MMR.
Mae staff yn mynd i gyfarfodydd llawer o grwpiau fel grwpiau ôl-enedigol,
meithrinfeydd preifat, Cychwyn o’r Cartref, Cychwyn Cadarn etc i roi cyfle i
rieni eu holi. Caiff yr holl frechiadau eu hyrwyddo yn ystod Wythnos
Ymwybyddiaeth o Frechiadau (ym mis Gorffennaf bob blwyddyn) mewn
archfarchnadoedd. Menter leol yw hon sy’n annog staff i dargedu teuluoedd
nad ydynt wedi cadw at y rhaglen frechu.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?

Caiff Sir y Fflint ei chydnabod fel yr ardal Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi gwella
fwyaf yng Nghymru dros y cyfnod 2004 -2006 ac mae’n dangos bod y
cynlluniau a gafodd eu gweithredu’n lleol yn awr yn dwyn ffrwyth o ran
cynyddu nifer y plant sy’n cael eu brechu. Mae hwn yn welliant sylweddol o
gofio mai hon oedd yr ardal Bwrdd Iechyd Lleol waethaf yng Nghymru o ran
bob brechiad yn 2003.

Mae dwy ffactor, fodd bynnag, sy’n gwneud Sir y Fflint yn unigryw ac sy’n cael
effaith negyddol ar nifer y plant sy’n cael eu brechu. Yn gyntaf, y ffin hir â
Lloegr sy’n creu mwy o draffig o ran cleifion sy’n cofrestru â Meddyg Teulu
yng Nghymru neu Loegr a’r angen i Feddygon Teulu yn Lloegr hysbysu Sir y
Fflint o unrhyw frechiadau sy’n cael eu rhoi. Yn ail, gall merched yn Sir y Fflint
roi genedigaeth mewn un o dri Ysbyty Cyffredinol Rhanbarthol, a does yr un
o’r rhain yn Sir y Fflint. Mae hyn yn creu gwaith ychwanegol i’r Adran Iechyd
Plant o ran sicrhau bod pob plentyn wedi’i gofnodi ar y System Iechyd Plant
ac yn cael apwyntiad ar gyfer eu brechiadau. Ar hyn o bryd, rydym yn dibynnu
ar system bapur i hysbysu’r Adran Iechyd Plant os yw teulu’n symud i’r sir
neu’n symud allan ohoni. Mae’r system hon yn gweithio’n effeithiol yn awr ond

                                                                                      - 22 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


mae angen ei monitro’n barhaus i sicrhau nad oes neb yn disgyn drwy’r
rhwyd.

Un o swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint yw’r cysylltiad rhwng
Gofal Sylfaenol a’r Adran Iechyd Plant, sy’n nodi problemau yn y system cyn
iddynt gael effaith andwyol ar y gwasanaeth brechu. Drwy barhau â’r
strategaeth o siarad â’r cyhoedd a sianelu gwybodaeth am frechiadau drwy
gyfrwng grwpiau, mae’n bosibl sicrhau bod tueddiadau ym marn y cyhoedd yn
cael ei nodi a’u bwydo’n ôl i’r hyfforddiant priodol.

Mae’n bwysig parhau i fuddsoddi mewn staff, hyfforddiant a gallu’r rheini sy’n
brechu, ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol i sicrhau bod cyfraddau brechu’n
parhau i godi. Mae’n bosibl y byddai’r ddarpariaeth yn cael ei pheryglu pe bai
achosion pandemig o’r ffliw’n digwydd a fyddai’n golygu dargyfeirio adnoddau.
Ym mis Hydref 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac adrannau
Iechyd eraill y DU y caiff holl ferched 12-13 oed (Blwyddyn Ysgol 8) gynnig
brechiad rhag dau feirws HPV sy’n achosi 70% o achosion canser y groth.
Bydd y rhaglen frechu hon yn dechrau ym mis Medi 2008, gydag ymgyrch dal-
i-fyny dwy flynedd i frechu pob merch hyd at 18 oed yn dechrau yn ystod
hydref 2009. Cynigir y brechlyn i ferched 16-18 oed (blwyddyn ysgol 12 a 13)
o dymor yr hydref 2009 ymlaen, ac i ferched 15-17 oed (blwyddyn ysgol 11 a
12) o dymor yr hydref 2010 ymlaen. Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn
argymhelliad y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio.

Mae Cam Allweddol 2.47 yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd yn Sir y Fflint.


CRYNODEB:

Mae angen parhau â’r seilwaith i gynnal a chynyddu nifer y plant sy’n cael eu
brechu. Bydd angen ystyried goblygiadau’r rhaglen brechiadau HPV.



 1.6 BWYDO AR Y FRON

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?

Mae maeth a magwraeth yn ystod tair blynedd gyntaf plentyn yn dyngedfennol
i iechyd a lles gydol oes. Mae bwydo ar y fron yn cynnig manteision sylweddol
o ran iechyd mamau a babanod, a hefyd manteision economaidd i’r system
gofal iechyd. Mae’r manteision i’r plentyn yn parhau am flynyddoedd ar ôl i’r
fam roi’r gorau i fwydo ar y fron, sef, yn bennaf, gostyngiad sylweddol yn nifer
y plant sy’n dioddef o heintiau gastroberfeddol a heintiau’r llwybr resbiradu. Yn
y DU, mae babanod sy’n cael llaeth potel bum gwaith yn fwy tebygol o gael
dolur rhydd na babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron. Mae’r gost o drin gastro-
enteritis mewn babanod sy’n cael llaeth potel ddeuddeg gwaith mwy na’r gost
o drin babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron. Amcangyfrifir y byddai cynnydd o

                                                                                      - 23 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


5% yn nifer y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn arbed £2.5 miliwn y
flwyddyn i ysbytai Prydain12.

Fodd bynnag, mae bwydo ar y fron yn cynnig mwy o fanteision na dim ond
darparu maeth sy’n diogelu’r baban rhag heintiau ac alergeddau ac
afiechydon atopig o bosibl, fel asma ac ecsema. Gall y berthynas glos rhwng
y fam a’r baban hefyd fod o les i ddatblygiad gwybyddol, ymddygiadol ac
emosiynol y plentyn.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai babanod gael eu bwydo ar y
fron yn gyfan gwbl nes y byddant yn 6 mis oed. Yn y DU, mae cyfraddau
bwydo ar y fron ymhlith yr isaf yn Ewrop gyda thua 66% o ferched yn dechrau
bwydo ar y fron, ond mae’r ffigur hwnnw’n gostwng yn sylweddol ar ôl ychydig
ddyddiau. Amcangyfrifir mai dim ond un o bob tri baban sy’n cael ei fwydo’n
gyfan gwbl ar y fron yn ystod y 4 mis cyntaf. Mae cyfraddau bwydo ar y fron
yn amrywio’n arw, gyda merched hŷn, sydd wedi cael mwy o addysg ac sydd
mewn dosbarthiadau cymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fwydo ar y fron.
Mae babanod trymach, sydd wedi’u cario i’w hamser hefyd yn fwy tebygol o
fwydo ar y fron.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut rydym yn cymharu â
mannau eraill?
Mae amrywiaeth eang mewn cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru, sy’n
adlewyrchu lefelau amddifadedd.

Os yw merched yn rhoi genedigaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-
ddwyrain Cymru, ac yn bwydo ar y fron, maent yn cael eu cynnwys yn
ystadegau’r wardiau geni a’r archwiliad o nodiadau cymunedol, cânt eu
dosbarthu drwy gyfarfodydd uned a’u cyflwyno i Ddirprwy Bennaeth y
Bydwragedd.

Drwy ddefnyddio data gan Adran Iechyd Plant Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod o
Fis Tachwedd 2006 a mis Hydref 2007, mae bron hanner mamau Sir y Fflint
(48%) yn dechrau bwydo ar y fron; mae hyn ychydig yn is na’r cyfartaledd ar
gyfer Cymru (52%). 24% yw’r ffigur ar ôl 8 wythnos, ac ar ôl 8 mis y mae’n
gostwng eto i 5%, sy’n cyfateb i’r patrwm dros Gymru gyfan.


Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?
Mae ‘Strategaeth Bwydo ar y Fron’13 Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi
canllawiau manwl ar y dulliau gorau o annog mamau i fwydo ar y fron; dulliau
sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys newid diwylliant ac agweddau pobl

12
  Sefydliad Iechyd y Byd (1996): Global Data Bank on Breastfeeding and Complementary Feeding.
13
  Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2001): ‘Buddsoddi mewn Gwell Cychwyn: Hybu Bwydo ar y Fron yng
Nghymru
                                                                                          - 24 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysgu staff perthnasol, rhoi
gwybodaeth ac addysg yn yr ysgolion a datblygu strategaethau i fynd i’r afael
â phroblemau lleol sy’n atal mamau rhag bwydo ar y fron. Yn ogystal â hyn,
mae’n argymell bod cyngor ar gael bob awr o’r dydd i famau yn ystod y 4 mis
cyntaf ar ôl y geni.

Mae’r strategaeth hefyd yn argymell y gellir gwella safon Arferion Proffesiynol
drwy:

          Sicrhau bod bydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon a gweithwyr
           iechyd proffesiynol eraill yn cael hyfforddiant effeithiol ar fwydo ar y fron
           fel rhan hanfodol o’u hyfforddiant cyn cofrestru ac fel rhan o’u
           datblygiad proffesiynol parhaus.
          Annog a chynorthwyo Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol
           i weithio tuag at wella arferion proffesiynol ym maes bwydo ar y fron.

Mae’r strategaeth hefyd yn awgrymu y gellid annog rhagor o famau i ddechrau
bwydo ar y fron drwy:
   Newid agweddau tuag at fwydo ar y fron drwy weithio gydag ysgolion,
      yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau a datblygiad cymunedol i hybu’r
      arfer .
   Trafod bwydo babanod gyda mamau yn eu harddegau yn fuan yn ystod
      eu beichiogrwydd a chynorthwyo mamau ifanc i oresgyn y problemau
      sy’n eu hatal rhag bwydo ar y fron.
   Hyrwyddo bwydo ar y fron drwy ddatblygu dulliau o roi cymorth ôl-
      enedigol sy’n ystyried bwriad gwreiddiol y fam o ran bwydo’u baban.

Yn ôl papur briffio NPHS yn seiliedig ar Adolygiadau Systematig a Bwletinau
Tystiolaeth Iechyd Cymru14 :
    Mae tystiolaeth gref y gall addysgu a rhoi gwybodaeth i ferched ar
       incwm isel sy’n bwriadu bwydo ar y fron fod yn effeithiol
    Mae addysg grŵp ar osod y baban a’i annog i gydio’n iawn ar y fron, yn
       effeithiol o ran codi’r nifer a oedd yn parhau i fwydo ar y fron yn gyfan
       gwbl ar ôl chwe wythnos ymhlith mamau nad oeddynt wedi rhoi
       genedigaeth o’r blaen
    Mae’n fuddiol i weithwyr proffesiynol a phobl leyg ymyrryd
    Mae cymorth gan gyfoedion yn yr ysbyty ac yn y gymuned yn effeithiol
       o ran merched sy’n dweud eu bod yn dymuno bwydo ar y fron, ond nid
       o ran merched sydd wedi penderfynu rhoi potel i’w baban. Mae hefyd
       yn helpu o ran ymestyn y cyfnod y mae merched yn bwydo ar y fron.
    Mae mamau’n fwy tebygol o ddechrau bwydo ar y fron os ydynt yn cael
       cymorth gan gyfoedion gwirfoddol neu gyflogedig gan gynnwys
       ymweliadau â’r cartref, ymweliadau â’r clinig, grwpiau cymorth,
       cysylltiadau ar y ffôn a rhaglenni ymwybyddiaeth mewn ysgolion
    Gall ymweld â mamau yn eu cartrefi ar ôl y geni effeithio’n bositif ar
       gyfraddau ar ôl tri mis, er bod angen rhagor o waith ymchwil i
       gadarnhau hyn.

14
  GICC (2007): Papur briffio’n seiliedig ar Adolygiadau Systematig a Bwletinau Tystiolaeth Iechyd
Cymru – bwyta’n iach, gan gynnwys bwydo ar y fron
                                                                                                    - 25 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Mae’r Camau Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Phobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn
berthnasol i’r mater hwn:

           2.40 Mae sefydliadau lleol yn cydweithio i ddatblygu a
           gweithredu polisi i hybu polisïau hybu iechyd ar faethiad
           babanod, gan gynnwys annog a chynnal mamau i fwydo ar
           y fron yn unol â dogfen Buddsoddi mewn Gwell Cychwyn,
           Hybu Bwydo ar y Fron yng Nghymru.

           3.19 Mae pob menyw’n cael rhif ffôn cyswllt i gael cyngor a
           chefnogaeth o ran bwydo’r baban, cyn gadael yr ysbyty
           neu’n fuan ar ôl yr enedigaeth os yw’r baban yn cael ei eni
           yn y cartref


Sut mae Sir y Fflint, ar hyn o bryd, yn ceisio cynorthwyo
mamau i ddechrau a pharhau i fwydo ar y fron?
Er bod bydwragedd yn annog mamau i fwydo ar y fron yn ystod y cyfnod cyn-
geni a’r cyfnod ôl-enedigol, nid yw Sir y Fflint yn ariannu cydgysylltydd bwydo
babanod ar hyn o bryd.

Mae cyllid Cymorth15 yn talu am swydd gyda rhaglen Cychwyn Cadarn i roi
hyfforddiant i gyfoedion helpu mamau i fwydo ar y fron, ac i roi cymorth
parhaus i’r rheini sydd wedi’u hyfforddi.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru wedi penodi
Cydgysylltydd Bwydo ar y Fron ac wedi nodi ei bwriad i weithio tuag at
fenter neu statws croesawu babanod UNICEF, gan gynnig cymorth i bob
merch sy’n dymuno bwydo ar y fron.

Er nad yw hyfforddiant yn orfodol eto, mae nifer o raglenni addysg bwydo ar
y fron ar gael. Penodwyd Bydwraig Prosiect a fydd yn ceisio darparu
hyfforddiant i Gynorthwywyr Gofal Mamolaeth a fydd yn cyfrannu’n helaeth at
y gwaith o roi cymorth bwydo ar y fron o fewn ein gwasanaeth. Hefyd, mae’r
uned mamolaeth wedi cyflwyno cymorth gan gyfoedion sy’n rhoi cymorth i
famau sydd am fwydo ar y fron. Sicrhawyd cyllid ychwanegol i sefydlu
gweithwyr cymorth gofal iechyd a swyddi cynorthwywyr gofal
mamolaeth. Bydd y gweithwyr hyn yn cynorthwyo bydwragedd i roi cymorth i
ferched sy’n bwydo ar y fron. Cânt eu penodi ym mis Medi 2007.

Mae’r Ymddiriedolaeth newydd ddechrau ar y broses o weithio tuag at
achrediaeth gan Fenter Croesawu Babanod UNICEF. Datblygwyd achos
busnes gan y Cydgysylltydd Bwydo ar y Fron. Mae angen arian i hyfforddi
staff i fodloni safonau Croesau Babanod.


15
     Yn cael cyllid gan Cymorth – adolygwyd fis Hydref 2007
                                                                                          - 26 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru o’r farn y byddai cynyddu
lefelau staffio yn sicrhau bod merched yn cael digon o gyfle i gael cyngor a
chymorth i fwydo ar y fron ac na fyddai llwyth gwaith trwm yn eu hatal rhag
gwneud hynny. Mae angen diogelu amser y bydwragedd hynny sydd â
diddordeb mewn bwydo ar y fron er mwyn iddynt fedru arbenigo, meithrin eu
sgiliau eu hunain, cynnal archwiliadau’n ymwneud â bwydo ar y fron a
pharhau i hyfforddi eraill.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru yn cydweithio ag
asiantaethau i sicrhau arian ychwanegol drwy gyfrwng Dechrau’n Deg; ond
dim ond yn ardaloedd Dechrau’n Deg y byddai modd defnyddio’r arian hwn; ni
fyddai modd ei ddefnyddio drwy Sir y Fflint gyfan.

Mae Cam Allweddol 2.40 wedi’i ddynodi i’w gyflawni erbyn mis Mawrth 2008.

Mae Cam Allweddol 3.19 yn argymell bod cymorth ariannol yn cael ei roi ar
gyfer swydd o’r fath, ac fe’i dynodwyd hefyd i’w gyflawni erbyn mis Mawrth
2008.


CRYNODEB:

Mae angen parhau i hyrwyddo bwydo ar y fron fel y dewis gorau ar gyfer
babanod nes y byddant yn chwe mis oed. Er bod cymorth sylweddol ar gael i
helpu mamau i ddechrau bwydo ar y fron, does dim digon o adnoddau ar gael
i roi cymorth parhaus.


 1.7 DATBLYGU A HYBU SGILIAU MAGU PLANT

Sylwch: Mae’r term ‘rhiant’ yn cael ei ddefnyddio yma i gyfeirio at bawb sy’n
magu plant – gan gynnwys rhieni biolegol, llysrieni, rhieni sy’n mabwysiadu
plentyn a gofalwyr eraill.

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?
Gall nifer o wahanol bobl fagu plant gan gynnwys mamau a thadau, gofalwyr
maeth, rhieni sy’n mabwysiadu, llysrieni a theidiau a neiniau. Weithiau, mae
brodyr neu chwiorydd hefyd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o fagu plant. Mae’r
rhain i gyd yn dyngedfennol yn y gwaith o roi dechrau da i blant, gan roi’r
sylfaen gorau i dwf a datblygiad y plant a’r bobl ifanc sydd yn eu gofal.16
Mae Sir y Fflint hefyd o’r farn bod hyn yn cynnwys rhieni cymunedol, y rheini
sy’n gweithio’n wirfoddol gyda phlant a phobl ifanc, perthnasau a’r rheini sydd
â gofal rhieni dros dro.

16
   Cynllun Rhianta Llywodraeth y Cynulliad Gwybodaeth yr Adran Masnach a Diwydiant Dogfen Rhif:
054-05 Dyddiad cyhoeddi:Rhagfyr 2005
                                                                                          - 27 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Mae’r gwaith o fagu plant yn cynnwys llawer mwy na bwydo a dilladu plant, eu
cadw’n lân ac yn gynnes a’u diogelu rhag niwed. Mae natur y berthynas
rhwng rhieni a’u plant o’r pwys mwyaf o ran eu datblygiad emosiynol a
chymdeithasol. Cafodd yr agwedd hon ar fagu plant ei ddiffinio fel ‘a process
of interactions and relationships intended to nourish, protect and guide each
new life through its course and development’17

Nodwyd magu plant fel y ffactor unigol sydd â’r potensial mwyaf i effeithio ar
iechyd plant gan gynnwys yn bennaf: cyfraddau damweiniau, beichiogwyd
ymhlith merched yn eu harddegau, camddefnyddio sylweddau, triwantiaeth,
gwahardd disgyblion o’r ysgol, tangyflawni, cam-drin plant, cyflogadwyedd,
troseddau ieuenctid yn cael eu hategu - neu eu tanseilio - gan ymddygiad
rhieni. Ystyrir mai’r ffordd y mae rhieni’n magu eu plant yw’r dylanwad mwyaf
ar eu hunan-barch. Mae diffyg hunan-barch yn cyfrannu at amrywiaeth eang o
broblemau seicolegol a ymddygiadol18.

Os nad yw’r sawl sy’n gofalu am blant yn gyson yn ystod eu blynyddoedd
cynnar yn rhoi gofal sensitif iddynt, gall hynny amharu ar eu datblygiad
emosiynol a chymdeithasol; mae diffyg sylw a goruchwyliaeth gadarnhaol gan
rieni a disgyblaeth lem neu amhriodol arwain at ymddygiad
gwrthgymdeithasol, achosion o gamymddwyn, troseddu, ymddygiad
tramgwyddus a thrais. Mae sgiliau magu plant gwael yn ffactor risg o ran
problemau iechyd meddwl plant, pobl ifanc ac oedolion.

Dyma rai o’r ffactorau a all ei gwneud hi’n anodd magu plant19:
   Profiadau negyddol o gael eu magu eu hunain
   Tlodi, amddifadedd ac unigedd cymdeithasol; tai ac amgylchfyd gwael
   Salwch meddwl rhieni, gan gynnwys iselder ôl-enedigol, a
     chamddefnyddio alcohol a chyffuriau
   Rhieni sy’n ysgaru, gwahanu neu’n magu plant ar eu pennau eu hunain
   Rhieni sy’n gweithio oriau hir
   Rhieni ifanc

Gall cysylltiad â’r system cyfiawnder ieuenctid hefyd gael effaith negyddol ar y
ffordd y mae rhieni’n magu plant20.

Mae plant yn aml yn dysgu ac yn sefydlu patrymau ymddygiad gwael
oherwydd nad oes gan rieni'r sgiliau allweddol ar gyfer magu plant, neu
oherwydd eu bod yn defnyddio’r sgiliau hyn yn anghyson neu oherwydd nad
ydynt yn eu defnyddio ar yr adegau priodol.

Er hyn, i lawer o deuluoedd, nid yw cymorth ar gael tan y bydd eu
hamgylchiadau wedi dirywio cymaint nes bod materion amddiffyn plant yn dod

17
   Bavolek S (1990): Effective Family-Based Approaches to Treating and Preventing Child Abuse and
   Neglect. Family Development Resources Inc., USA
18
    Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006): Cynllun Gweithredu Hybu Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru –
Dogfen Ymgynghori
19
   Yr Adran iechyd Cyhoeddush (2005): Datganiad Briffio Rhianta ac Iechyd Cyhoeddus
20
   Tasglu Allgáu Cymdeithasol Swyddfa’r Cabinet (2007): Reaching Out: Think Family
                                                                                           - 28 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


i sylw pobl broffesiynol. Nid oes cymorth o unrhyw fath ar gael i lawer o blant
a theuluoedd ac mae llawer yn cael trafferth manteisio ar y cymorth sylfaenol
sydd ar gael.

Mae dulliau cadarnhaol o fagu plant yn cael dylanwad cryf a manteisiol ar
ganlyniadau plant a gall eu diogelu rhag peryglon eraill. Mae tystiolaeth hefyd
i awgrymu nad yw dulliau magu plant da a brwdfrydig yn dibynnu ar ddosbarth
cymdeithasol na chefndir ethnig ac, yn bwysicach na dim, bod modd eu
dysgu. Yn ôl ymchwil Estyn Llaw21 mae dulliau magu plant gwael yn aml yn
arwain at ganlyniadau gwael wrth i’r plant dyfu’n oedolion.

Mae’n hanfodol ystyried rhan y tadau yn y broses o fagu plant, yn enwedig
wrth gynllunio gwasanaethau a gwybodaeth i helpu rhieni, i ofalu eu bod yn
addas i bob rhiant, ac nad ydynt yn cymryd yn ganiataol mai’r fam yw’r prif
ofalwr.

Mae pwysigrwydd rôl y tad mewn magu plant yn cael ei drafod yn amlach yn
awr nag erioed o’r blaen, yn bennaf oherwydd bod y ddau riant yn awr yn
gweithio oriau hirach, ac oherwydd newidiadau mewn agweddau tuag at ran y
tad yn natblygiad emosiynol eu plant. Dywedodd tua 70% o dadau yn y DU,
yr hoffent ymwneud mwy â gofal plant22. Gwelwyd bod cael tad sy’n cymryd
rhan ymarferol mewn magu plant yn helpu plant i ffurfio perthynas well â’u
cyfoedion, yn arwain at lai o anawsterau ymddygiad a llai o achosion o
droseddu a chamddefnyddio cyffuriau yn ddiweddarach23. Yn ogystal â hyn,
mae plant i’w gweld yn cyflawni’n well yn addysgol os yw eu rheini’n
ymddiddori yn eu haddysg.

Fel rhan o Astudiaeth Carfan y Mileniwm, cynhaliwyd gwaith ymchwil a oedd
yn golygu cyfweld rhieni plant 3 oed. Darganfuwyd bod dau draean o’r mamau
a chwarter y tadau’n dweud eu bod yn treulio digon o amser hefo’u plant ond
bod 5% o’r mamau a 15% o’r tadau’n teimlo nad oeddynt yn cael digon o
amser hefo’u plant, gyda’r mwyafrif yn dweud mai oriau gwaith hir oedd y
rheswm am hyn24.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut yr ydym yn cymharu â
mannau eraill?
Cydnabyddir bod y rhan fwyaf o rieni’n gwneud gwaith da, ond bod angen
cyngor, gwybodaeth neu help ar rai ohonynt ar adegau. Gall hyn ymwneud â
gofalu bod eu plant yn cael dechrau da mewn bywyd, cyfleoedd addysg a
dysgu, y cyfleoedd gorau bosibl o ran iechyd, chwarae, hamdden, chwaraeon,
cyfathrebu, parch, hunaniaeth hiliol a diwylliannol, diogelwch yn y cartref a’r
gymuned, lles corfforol, emosiynol ac economaidd.



21
   Tasglu Allgáu Cymdeithasol Swyddfa’r Cabinet (2007): Reaching Out: Think Family
22                                                  st
   Papur gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal (2006): 21 Century Dads
23                                                   st
   Papur gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal, (2006): 21 Century Dads
24
   Centre for Longitudinal Studies (2007): Briefing Number 5: Parenting
                                                                                          - 29 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Nid yw nifer y rhieni sy’n cael problemau magu plant yn cael ei fesur yn
rheolaidd, yn genedlaethol na’n lleol. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o
asesiadau cyn-geni’n arwain at achosion gofal ac mae nifer o blant sy’n
destun Gorchymyn Gofal Dros Dro yn aros ar y Gofrestr Amddiffyn Plant nes
y bydd y Gorchymyn Gofal Dros Dro yn weithredol. Ffactor arall sy’n dangos
bod angen cymorth ar rieni i fagu plant yw’r wybodaeth am blant sydd ag
anawsterau ymddygiad. Y plant hyn fydd y rheini sydd â’r anawsterau mwyaf
felly byddai’n rhesymol tybied y byddai rhagor o rieni’n elwa o gael cymorth,
yn enwedig i atal problemau rhag cynyddu wrth i’r plant dyfu’n hŷn.


Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?
Mae amrywiaeth eang o bolisïau a chanllawiau cenedlaethol i helpu rhieni,
gan gynnwys Cynllun Gweithredu Rhianta Llywodraeth y Cynulliad 25, Ysgolion
Bro26, Canllawiau ar Gyfranogiad Rhieni27, Y Fframwaith Gwasanaethau
Cenedlaethol28 a chanllawiau Cymorth sy’n gofyn i bartneriaethau ddyrannu
rhan o’u cyllid i wasanaethau sy’n rhoi cymorth i deuluoedd.

Mae adolygiadau systematig rhyngwladol o dystiolaeth magu plant yn
cadarnhau y dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau ymyrryd gan ddechrau yn
ystod y cyfnod cyn-geni ac yn parhau drwy fabandod a phlentyndod cynnar.
Yn y DU, mae rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio’n
helaeth i helpu rhieni, ynghyd â dulliau niferus o gynorthwyo teuluoedd, drwy
gynnig seibiant, help cymdeithasol ac ymarferol. Mae mesurau ymyrryd o’r
fath29:

          yn cael eu darparu gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar (neu
           wirfoddolwyr) sydd
          wedi cael hyfforddiant ychwanegol ac yn cael cymorth parhaus yn eu
           gwaith;
          wedi’u hanelu at hyrwyddo ffyrdd newydd o fagu plant neu o helpu i
           newid dulliau magu plant sydd wedi’u hen sefydlu;
          yn defnyddio dulliau penodol o ymyrryd ac yn gallu defnyddio
           technegau penodol i alluogi rhieni i fagu plant yn wahanol
          yn cael eu cymell gan dargedau, gydag amcanion penodol i’w cyflawni
           wrth ymyrryd a chyda thasgau penodol i ymgymryd â nhw;
          yn seiliedig ar ddamcaniaeth ac yn aml yn cael eu rhoi ar waith drwy
           ddefnyddio llawlyfr.


25
   Cynllun Gweithredu Rhianta Dogfen Wybodaeth yr Adran Masnach a Diwydiant Rhif: 054-05 (2005)
Cynorthwyo mamau, tadau a gofalwyr i fagu plant yng Nghymru
26
   Ysgolion Bro Rhif 34-2003 Rhagfyr 2003
27
   Arweiniad i Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc ar Gyfranogiad Rhieni Dogfen Wybodaeth AADGOS
Rhif: 019-06 Medi 2006 ac arweiniad cryno.
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2005): Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a
Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru
29
   Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (2007): Cymorth i Deuluoedd a Rhieni yn Adroddiad Ymchwil
Rhaglenni Lleol. NESS/2007/FR/023
                                                                                              - 30 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae rhaglenni iechyd babanod yn canolbwyntio ar anawsterau yn y berthynas
rhwng y rhiant a’r baban ac ar unrhyw broblemau iechyd meddwl sylfaenol
sydd gan y rhiant. Mae angen darparu rhaglenni (ar ffurf ymweliadau cartref,
sesiynau grŵp neu mewn canolfan) sy’n ymdrin â sensitifrwydd, ymdeimlo ag
eraill, magu hyder ac ymwybyddiaeth emosiynol, bob wythnos am o leiaf chwe
mis tuag adeg y geni. Mae nifer o ddulliau effeithiol fel therapi ymddygiad
gwybyddol, arweiniad rhyngweithiol ac adborth fideo, tylino corff y baban a
dawns i fabanod.

Cynigir rhaglenni magu plant mewn grwpiau fel arfer, dros gyfnod o 10-12
wythnos fel arfer, gan gyfuno elfennau o strategaethau ymddygiad (datblygu
dulliau disgyblu cadarnhaol) a meithrin perthynas (codi ymwybyddiaeth y
rhieni o emosiynau eu plant a’u hemosiynau eu hunain, a’u helpu i ofalu
amdanynt eu hunain yn ogystal â’u plant)30.

Pan mae gwasanaethau ymarferol ac addas ar gael, a phan mae gan rieni
rywfaint o reolaeth dros sut a phryd y cânt gymorth, yna bydd eu sgiliau magu
plant yn gwella, er budd y plant a hwythau.

Fodd bynnag, mae bylchau’n parhau yn y continwwm cymorth sydd ar gael i
rieni, yn enwedig i’r rhieni mwyaf agored i niwed o gefndiroedd difreintiedig. Y
rheswm dros hyn, mae’n debyg, yw bod grwpiau sy’n agored i niwed yn llai
tebygol o fanteisio ar wasanaethau yn yr un modd â rhieni a theuluoedd eraill.
Nid yw rhaglenni llwyddiannus fel ‘Triple P’ a rhaglen ‘Incredible Years’
Webster Stratton yn cael eu gweithredu’n genedlaethol. Nid yw ymwelwyr
iechyd, sy’n dyngedfennol yn ystod y blynyddoedd cynnar iawn, bob amser yn
rhoi’r gwasanaeth gorau na’r mwyaf addas i’r teuluoedd mwyaf difreintiedig.

Er mwyn gwella’r prif ffactorau amddiffyn mae angen cymryd camau ar
wahanol lefelau, ac yn y system drwyddi draw, lle mae dangosyddion
canlyniadau gwael i’w gweld. Er enghraifft, gellid gwella dulliau magu plant nid
yn unig drwy gynnig rhaglenni i rieni (i wella’r broses o fagu plant) ond hefyd
drwy wella ffactorau cefndir - fel cael gwaith neu dai addas i rieni. Gallai hyn,
yn ei dro, helpu i wella iechyd meddwl rhieni (nodwedd deuluol allweddol) sy’n
hybu dulliau cadarnhaol o fagu plant31.

Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni32
yn cynnig fframwaith sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ar gyfer datblygu
gweithlu i roi cymorth i rieni.

Mae’r Canlyniadau Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth
cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn
berthnasol i’r mater hwn:

2.48 Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc
Mae cynlluniau’n cynnwys (Amodau Craidd 1,2,3,5 a 6)
trefniadau ar gyfer cydweithio i gyflenwi addysg magu

30
   Datganiad Briffio’r Adran Iechyd Cyhoeddust: Rhianta ac Iechyd Cyhoeddus
31
   Trysorlys ei Mawrhydi (2007): Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant
32
   http://www.lifelonglearninguk.org/documents/standards/wwp/work_with_parents.pdf
                                                                                          - 31 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


plant sy’n cynnwys:
• Pob cyfle i rieni/gofalwyr gael gwybodaeth ar sail
tystiolaeth am faterion magu plant drwy wahanol
gyfryngau;
• Rhaglenni lle mae rhieni’n cyfrannu atynt;
• Cyflenwi gwasanaeth mewn lleoliadau gwahanol, gan
gynnwys yn y cartrefi;
• Canfod atebion creadigol i’r ffactorau sy’n rhwystro pobl
rhag cymryd rhan, gan gynnwys trafnidiaeth, amseroedd a
chyfleusterau gofal plant;
• Awgrymu dulliau addas o reoli ymddygiad plant sy’n ategu
barn Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bod yn annerbyniol
cosbi plant yn gorfforol.

2.49 Mae rhaglenni cymorth ar fagu plant ar gael sy’n cynnwys:
• Amrywiaeth o wasanaethau cyffredinol a rhai wedi’u
targedu i ddiwallu’r anghenion a aseswyd;
• Gwasanaethau penodol i deuluoedd sydd mewn
amgylchiadau anodd, fel cymorth i rieni plant â salwch
cronig, problemau iechyd meddwl neu ymddygiad,
gwasanaethau unswydd i rieni o oedran ysgol, a
gwasanaethau i blant anabl neu i rieni sy’n anabl eu
hunain.
• Rhoi cyngor cyson, trwy gyfrwng rhaglenni hyfforddiant
amlasiantaeth.

3.11 Mae gwasanaethau arbenigol ar gael i ferched ifanc yn eu
harddegau sy’n feichiog, megis addysg rhieni a chyfoedion
a grwpiau cymorth.groups.

3.17 Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael i famau, babanod a’u
teuluoedd yn y cyfnod ôl-enedigol:
• Bydwraig;
• Ymwelydd iechyd;
• Gweithwyr proffesiynol eraill arall ar ôl asesu anghenion.

3.14 Mae pob menyw beichiog a’u partneriaid yn gallu manteisio
ar addysg i rieni yn eu hardaloedd lleol, dan law gweithwyr
proffesiynol wedi’u hyfforddi’n briodol ac mewn man sy’n
addas i’w hanghenion nhw.


Sut mae Sir y Fflint yn hybu sgiliau magu plant ar hyn o bryd?
Mae’n rhaid cofio bod rhieni a’u hanghenion yn amrywio a bod angen darparu
continwwm o gymorth yn ystod bywyd plentyn o 0 i 19 oed, o’r cymorth
cynnar gan, er enghraifft, bydwragedd, ymwelwyr iechyd a chylchoedd
chwarae, darparu gwybodaeth mewn canolfannau fel y Gwasanaethau
Gwybodaeth Plant, ysgolion, mannau gwaith, gwefannau ac amrywiaeth eang
o wasanaethau ar draws haenau amrywiol o wasanaethau, o wasanaethau
                                                                                      - 32 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


cyffredinol i ymyrraeth statudol. Mae’n bwysig bod pob rhiant yn gwybod ble i
gael gwybodaeth, ar fformat addas, a’u bod yn gallu gofyn am y cymorth neu’r
cyngor sydd ei angen arnynt.

Mae’r ‘Llyfr Beichiogrwydd’ ar gael yn rhad ac am ddim i holl famau Cymru
yn fuan yn ystod eu beichiogrwydd. Fe’i seiliwyd ar gyhoeddiad yr Adran
Iechyd, ac fe’i diweddarwyd ar gyfer Cymru, ac mae’n ddwyieithog. Yn y llyfr,
ceir gwybodaeth am feichiogrwydd, gofal cyn-geni, yr enedigaeth,
gwybodaeth am ofalu am faban newydd, iechyd mamau a babanod, hawliau a
budd-daliadau mamolaeth. Gall bydwragedd ddefnyddio’r Llyfr Beichiogrwydd
i roi gwybodaeth i rieni neu gall rhieni ei ddefnyddio’u hunain.

Mae’r holl fydwragedd cymunedol yn cynnig addysg magu plant i’r rheini y
maent yn gofalu amdanynt, neu gallant fynd i sesiynau magu plant mewn
ysbyty os yw’n well ganddynt wneud hynny. Caiff y rhain hefyd eu cynnal gan
fydwragedd hyfforddedig naill ai yn yr ysbyty neu’r gymuned ac felly gall y
rhan fwyaf o ferched fanteisio arnynt.

Cynigir hefyd ddosbarthiadau magu plant i bobl ifanc yn eu harddegau a
theithiau o amgylch ysbytai dan arweiniad bydwragedd cymunedol neu
fydwragedd ysbytai neu gall merched a’u partneriaid ymweld yn bersonol â’r
uned os dyna’u dymuniad. I’r rheini nad ydynt yn dymuno, neu nad ydynt yn
gallu mynd i ddosbarthiadau, gall bydwragedd fynd i’w cartrefi i roi addysg
magu plant un i un.

Mewn Arolwg Bodlonrwydd Mamolaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar, amlygwyd
nad oes digon o le yn y dosbarthiadau hyn weithiau ac nad yw pobl yn cael
gwybod amdanynt. Mae cynllun yn cael ei baratoi i sicrhau gwasanaeth
addysg magu plant deg a safonol. Cafodd sylwadau rhieni eu hystyried a
sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen o fydwragedd hyfforddedig sy’n arbenigo
mewn dosbarthiadau magu plant.

Sicrhawyd cyllid ychwanegol i weithwyr gofal iechyd gan sefydlu swyddi
cynorthwywyr gofal mamolaeth, a fydd yn rhoi cymorth i rieni newydd a’u
babanod.

Mae pob Ymwelydd Iechyd yn gallu rhoi cymorth a gwybodaeth i rieni. Caiff
hyn ei gyflwyno mewn lleoliadau amrywiol sy’n addas ar gyfer anghenion y
cleientiaid. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ehangu drwy Dechrau’n Deg ar
gyfer y grwpiau mwyaf anghenus. Mae gwybodaeth a hyfforddiant ar gael i
rieni, yn unigol ac ar ffurf grwpiau, ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau CAMHS, er
enghraifft, mae gweithdy ADHD i rieni ar gael i roi gwybodaeth a hyfforddiant
ynghylch y cyflwr. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau sydd wedi’u targedu’n
benodol at rieni a phobl ifanc ar gael i’w cadw neu i’w benthyg.

Yn ogystal â’r gwasanaethau cyffredinol, generig hyn, mae amrywiaeth eang
o wasanaethau arbenigol ar gael i roi cymorth i rieni a theuluoedd er mwyn
hybu datblygiad eu plentyn.



                                                                                      - 33 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae gwasanaeth llyfrgell y sir yn cydgysylltu’r Rhaglen Dechrau Darllen sy’n
rhoi pecyn llyfrau am ddim i rieni a gwybodaeth am ennyn diddordeb plant
mewn llyfrau, iaith a darllen. Caiff y pecynnau hyn eu prynu gan Booktrust a’u
dosbarthu gan ymwelwyr iechyd yn yr archwiliadau 8 mis a 27 mis.

Caiff tîm o weithwyr eu hyfforddi i weithio’n uniongyrchol â rhieni ar Raglenni
Iaith/Rhif a Chwarae, a hefyd i hyfforddi gweithwyr eraill i weithio gyda rhieni
i roi profiadau i’w plant i’w hannog i ddatblygu sgiliau iaith a rhif eu plant. Yn
2006-2007, daeth 336 o rieni ar y cyrsiau a rhyngddynt, roedd ganddynt 556 o
blant.

Bydd y Tîm Dysgu Teuluoedd yn cyflwyno cyrsiau i rieni sydd â phlant yn
nosbarthiadau meithrin ysgolion a gynhelir. Nod y cyrsiau hyn yw cynorthwyo
rhieni yn eu rôl fel prif addysgwr eu plant.

Mae’r rhaglen Rhieni Cymunedol a’r rhaglen Cychwyn Cadarn yn cyflwyno’r
Rhaglen Cyswllt i Deuluoedd. Mae hyn yn galluogi rhieni i archwilio eu rôl
fel rhieni a dysgu sut y gall eu dulliau magu plant effeithio ar ddatblygiad eu
plentyn.

Rhaglen gymorth a gaiff ei chynnig i bob rhiant newydd yw’r Rhaglen Rhieni
Cymunedol er mwyn osgoi’r angen i roi cymorth mwy dwys yn ddiweddarach.
Mae rhai rhieni’n gwirfoddoli i gydweithio â rhieni eraill er mwyn nodi targedau
datblygu. Ar ôl nodi’r targedau, caiff y rhieni gymorth i’w cyrraedd. Dylai’r
broses gael effaith gadarnhaol ar y rhieni ac, o ganlyniad, ar eu plant. Yn
ogystal â hyn, caiff Rhieni Cymunedol eu hyfforddi i gyflwyno’r Rhaglen Iaith a
Chwarae a hefyd hyfforddiant sgiliau sylfaenol i rieni unigol sy’n annhebygol o
fynychu sesiynau grŵp oherwydd problemau iechyd meddwl, problemau cam-
drin yn y cartref, amharodrwydd i ddefnyddio gofal plant, ffactorau diwylliannol
neu oherwydd bod sefyllfaoedd grŵp yn codi ofn arnynt.

Yn Sir y Fflint mae rhwydwaith o grwpiau rhieni a phlant bach. (Mae’r rhan
fwyaf yn gysylltiedig â Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn Ysgol Cymru
neu’r Mudiad Ysgolion Meithrin). Maent yn rhoi cyfle i rieni gyfarfod a
chyfnewid profiadau gan ddysgu’n anffurfiol oddi wrth ei gilydd.

Er bod grwpiau rhieni a phlant bach yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o rieni,
mae rhieni mewn rhai cymunedau’n ei chael hi’n anodd ymuno â’r grwpiau
hyn. O gofio hyn, mae prosiectau ar y gweill mewn nifer o gymunedau i roi
cymorth ychwanegol i rieni i ymuno â grwpiau o’r fath. Mae’r rhain yn
ardaloedd Cychwyn Cadarn, Dechrau’n Deg a Chymunedau’n Gyntaf.

Prosiect sy’n helpu rhieni drwy drefnu i wirfoddolwr ymweld â’r cartref yw
Cychwyn o’r Cartref . Y rhieni sy’n penderfynu ar y math o help sydd ei
angen arnynt. Rhaid i’r teulu fod ag o leiaf un plentyn dan bump oed. Nod y
prosiect yw helpu rhieni i deimlo’n llai ynysig a’u helpu i fanteisio ar
wasanaethau eraill.

Mae’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn cydnabod bod llawer o waith ar y
gweill i helpu rhieni i fagu plant ond ychydig o wybodaeth sydd ar gael ynglŷn
                                                                                      - 34 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


â phwy sy’n gwneud beth, ym mhle a phryd ac i ba safon. O gofio hyn, mae’r
Bartneriaeth wedi creu swydd ar gyfer Cydgysylltydd Magu Plant. Diben y
swydd yw:
    arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau i rieni’n strategol yn unol â
      chanllawiau Cynllun Gweithredu Rhianta Llywodraeth Cynulliad Cymru
    hyrwyddo magu plant fel thema drawsbynciol mewn gwaith gofal
      cymdeithasol, addysg, iechyd, gwasanaethau cyfiawnder cymdeithasol
      a chyrff a grwpiau gwirfoddol a chymunedol
    cydgysylltu grŵp llywio i sicrhau bod gwaith datblygu sgiliau magu
      plant yn cael ei gefnogi, ei ddatblygu a’i fod yn cael ei archwilio o ran
      sicrwydd ansawdd
    hyrwyddo ymdrechion i gyflawni safonau cenedlaethol ‘Gweithio gyda
      Rhieni’
    hyrwyddo dulliau amlasiantaeth tuag at raglenni magu plant
    datblygu rhwydweithiau i helpu gweithwyr sy’n datblygu rhaglenni
      magu plant
    datblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddiant a fydd yn helpu i sicrhau bod
      rhaglenni o safon yn parhau i gael eu cynnig gan staff cymwysedig.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?
Y Grŵp Strategaeth Magu Plant sy’n awr yn llywio cymorth a gwasanaethau i
rieni o dan ymbarél y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc. Ymgynghorwyd yn
eang â rhieni, ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau a chaiff yr adborth ei
ddefnyddio fel sylfaen y Cynllun Gweithredu Magu Plant Lleol, a gaiff ei
gwblhau erbyn 31 Mawrth 08.

Mae’r gwaith eisoes wedi cydnabod bod cryn dipyn o waith ar y gweill yn Sir y
Fflint i helpu rhieni i fagu plant, ond bod llawer o’r gwaith hwnnw wedi’i
dargedu mewn ardaloedd daearyddol arbennig, gydag ychydig iawn yn cael ei
ddarparu i bawb yn gyffredinol. Mae pryderon ynghylch y diffyg cymorth sydd
ar gael i rieni nad ydynt yn byw yn ardaloedd Cychwyn Cadarn neu Dechrau’n
Deg.

Mae rhai rhieni’n amharod i ddefnyddio gwasanaethau i’w cynorthwyo i fagu
plant oherwydd eu bod yn credu bod stigma ynghlwm wrth y gwasanaethau
ac y byddant yn cael eu gweld fel rhieni ‘gwael’, neu y byddai perygl i’w plant
gael eu cymryd oddi arnynt. Mae angen sicrhau bod cymorth ar gael i bob
rhiant.

Mae mwyafrif y gwasanaethau sy’n gweithio gyda rhieni ac sy’n ymwneud â
phroblemau magu plant yn gwneud hynny oherwydd bod dylanwad rhieni’n
effeithio’n fawr ar eu prif grŵp o gleientiaid (e.e. plant mewn sefyllfaoedd
amrywiol) neu’n mae rhyw ffactor yn effeithio ar allu oedolion i fagu plant yn
effeithiol (e.e. oedolion â rhyw fath o anabledd, rhieni ar incwm isel, rhieni
corfforaethol). Ymddengys bod y rhan fwyaf o wasanaethau’n cael eu
darparu’n annibynnol ar ei gilydd ac mai’r unig gysylltiad rhyngddynt yw’r
ffordd y caiff cleientiaid eu cyfeirio o’r naill i’r llall. Prin yw’r ymwybyddiaeth o

                                                                                      - 35 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


fewn y gwasanaethau o’r hyn y gall y naill a’r llall ei gynnig i rieni a sut y gallai
gwasanaethau gydweithio’n agosach i gyflawni amcanion tebyg. Er bod
cyfoeth o wybodaeth ar gael, ymddengys nad yw’n hawdd cael gafael arni, na
bod rhieni’n cael eu cyfeirio’n gyson at tuag ati. Gall prinder gwybodaeth
gywir a chyfredol ddrysu rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Mae angen cydgysylltu rhaglenni magu plant yn ganolog er mwyn sicrhau eu
bod mor effeithiol â phosibl a’u bod mor eang â phosibl. Mae’n bosibl y bydd
angen buddsoddi rhagor i gyflwyno addysg magu plant.


Mae Camau Allweddol 2.48 a 2.49 yn allweddol o ran cyflawni’r safon ‘Mae
amrywiaeth o wasanaethau ar gael i rieni a gofalwyr i’w helpu i sicrhau bod
pobl ifanc yn eu gofal yn datblygu’n gorfforol, yn gymdeithasol ac yn
emosiynol.’



CRYNODEB:
Mae manteision sylfaenol eang ynghlwm wrth fagu plant yn gadarnhaol o ran
rhieni a phlant. Mae angen mwy o bwyslais ar gynorthwyo rhieni nid yn unig
yn ystod y blynyddoedd cynnar ond hefyd yn ystod cyfnod eu plentyndod, eu
harddegau a phan fyddant yn tyfu’n oedolion. Mae’n bosibl y bydd angen rhoi
cymorth ychwanegol i rieni ifanc yn eu harddegau.

Mae angen rhoi’r gorau i gysylltu gwasanaethau magu plant ag ymyrryd
mewn argyfwng a chynnig cymorth mwy cyson drwy gydol cyfnod plentyndod
a’r arddegau. Awgryma hyn y dylid rhoi mwy o sylw i wella’r ‘ffactorau diogelu’
sy’n golygu y gall teuluoedd weithredu’n effeithiol. Ni ddylid aros i sefyllfaoedd
ddatblygu’n argyfwng cyn cynnig cymorth priodol.

Yn benodol, mae angen i wasanaethau gynorthwyo tadau’n ogystal â mamau
i fagu plant.



 1.8 MATERION DIOGELU AC AMDDIFFYN PLANT

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?
Mae Adran 17 o Ddeddf Plant 1989 yn nodi y dylai fod yn ddyletswydd
gyffredinol ar bob awdurdod lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant mewn angen
yn eu hardaloedd a, chyn belled ag y bo hynny’n cyd-fynd â’r ddyletswydd
honno, dylent hyrwyddo magwraeth y plant hynny a’u teuluoedd.

Mae safon benodol yn ymwneud â ‘Diogelu’ yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth: ‘Ym
mhob ardal, mae systemau a gwasanaethau amlasiantaeth ac
amlddisgyblaeth ar gael, y n unol â gweithdrefnau’r Pwyllgor Amddiffyn Plant
Ardal, sy’n diogelu ac yn hyrwyddo lles a datblygiad plant. Drwy’r systemau
                                                                                      - 36 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


hyn, mae’n bosibl nodi risg yn glir, cyfeirio teuluoedd at yr asiantaeth statudol
briodol ac mae dyletswydd i ymchwilio ac i asiantaethau amrywiol ymyrryd i
sicrhau’r canlyniadau gorau bosibl i blant.’)



Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint a sut yr ydym ni’n cymharu â
mannau eraill?

Ar hyn o bryd mae 30 o blant dan 5 oed ar Gofrestr Amddiffyn Plant Sir y
Fflint, gan gynnwys 9 sydd ar y gofrestr dros dro ar ran awdurdodau lleol
eraill.
  45
  40
  35
  30
  25                                                                 Band oedran 0-1
  20                                                                 Band oedran 1-4
  15
  10
   5
   0
       30 Meh 30 Medi 31 Rhag 31 Maw 30 Meh 30 Medi 31 Rhag 31 Maw
        05     05      05      06     06     06      05      06



Mae’r graff a ganlyn yn cynrychioli’r duedd yn nifer y plant a gafodd eu
cofrestru cyn pen 5 diwrnod wedi iddynt gael eu geni yn ystod y 5 mlynedd
diwethaf:

 Y duedd o ran cofrestru babanod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
 ar eu genedigaeth, neu’n fuan wedyn


  15

  10

   5

   0
       2002/03 2003/04 2004/05 2005/06 2006/07




Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?



                                                                                       - 37 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae’r Camau Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn
berthnasol i’r mater hwn:

       2.54: Mae strategaeth ataliol i sicrhau bod plant yn cael eu
       hamddiffyn ym mhob maes sy’n cydnabod pwysigrwydd
       creu cymunedau sy’n gwarchod plant rhag pob drwg.

       2.60 Mae mecanwaith yn bodoli i nodi a chyfeirio plant sy’n
       agored i niwed ac sydd angen ymyrraeth gynnar.

       2.61 Mae asiantaethau yn mabwysiadu ac yn gweithredu
       protocolau sy’n sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n cael eu
       gofalu gan oedolion â phroblemau neu anhwylderau iechyd
       meddwl, neu sy’n camddefnyddio sylweddau, yn cael eu
       diogelu. Mae’r Fframwaith ar gyfer asesu plant mewn
       angen a’u teuluoedd16 yn cael ei ddefnyddio i asesu
       peryglon ac anghenion ar sail amlasiantaeth

       2.64 Mae sefydliadau yn datblygu ac yn gweithredu’r polisïau
       canlynol i sicrhau diogelwch plant y maent yn gyfrifol am
       ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer:
       • Polisi chwythu’r chwiban o ran arferion peryglus, gan
       gynnwys materion amddiffyn plant;
       • Polisi Gweithwyr Proffesiynol sy’n Cam-drin i ganfod ac
       osgoi gweithwyr proffesiynol rhag cam-drin plant a
       phobl ifanc;
       • Gweithdrefnau Rheoli Risg sy’n cynnwys Patient Safety
       Incident and Untoward Event Reporting26 ar gyfer y
       sector iechyd.

       2.65 Mae asiantaethau sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc y tu
       allan i ardal yr asiantaeth yn sicrhau bod eu
       swyddogaethau'n cael eu cyflawni, gan roi ystyriaeth i'r
       angen i ddiogelu a hyrwyddo lles y plant hynny.
       (Deddf Plant 2004)

       2.66 Cyn gynted ag y daw i’r amlwg bod plentyn neu berson
       ifanc sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi symud,
       cyfrifoldeb y gweithiwr proffesiynol penodol ar gyfer
       amddiffyn plant yw:
       • Rhoi gwybod i’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol;
       • Diogelu holl gofnodion perthnasol y plentyn;
       • Rhoi gwybod i’r gweithiwr proffesiynol penodol yn yr
       ardal dderbyn bod y plentyn wedi symud yno, cyn pen
       2 ddiwrnod gwaith;
       • Sicrhau bod y gweithiwr proffesiynol penodol yn yr ardal
       newydd yn derbyn cofnodion y plentyn cyn pen 10
       diwrnod gwaith.


                                                                                      - 38 -
           Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


      2.67 Pan fo’r gweithiwr proffesiynol ar faterion amddiffyn plant
      yn ymwybodol bod plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
      wedi symud i’w ardal, ei gyfrifoldeb ef/hi yw hysbysu
      Cydgysylltydd Amddiffyn Plant yr awdurdod lleol sydd
      wedyn yn rhoi gwybod i’r asiantaethau partner perthnasol
      cyn pen 24 awr.

      3.33 Mae’r fydwraig arweiniol dros faterion amddiffyn plant yn
      rhoi gwybod i’r holl staff priodol am unrhyw drefniadau
      amlasiantaeth i ddiogelu baban, e.e. babanod sy’n destun
      cynlluniau amddiffyn plant a fydd yn cael eu mabwysiadu
      neu eu rhoi i famau benthyg.

      4.16: Mae gan staff sy’n gwneud penderfyniadau dan Ddeddf
      Plant 198934 a Deddf Iechyd Meddwl 198335 gysylltiad
      uniongyrchol i gael cyngor cymwys gan gyfreithiwr plant
      sy’n aelod o baneli iechyd meddwl a phlant

      6.1 Mae cynllun gofal yn cael ei baratoi i bob plentyn sy’n
      derbyn gofal ar ôl cael asesiad holistaidd42 effeithiol sy’n
      ategu ac yn adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd o’r
      Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd

      6.3 Mae cynlluniau ar y cyd i sicrhau bod Plant sy’n Derbyn
      Gofal yn cael eu cartrefu yn y gymuned leol, fel sy’n bosib
      ac yn briodol..

      6.11 Mae system yn ei lle i gael person penodedig i roi gwybod i’r
      Bwrdd Iechyd Lleol, meddyg teulu a’r awdurdod addysg pan fo
      plentyn yn derbyn gofal neu os yw ei amgylchiadau yn newid.

      6.12 Mae gan bob Plentyn sy’n Derbyn Gofal ei ymarferydd iechyd
      arbenigol ei hun yn yr ardal y mae’n byw, i gydgysylltu’r cynllun
      gofal iechyd a mynd i’r afael a’i anghenion iechyd.

      6.14 Pan fo plentyn mewn lleoliad iechyd neu addysg am dros 3 mis
      (neu os y cynlluniwyd hynny), mae’n cael ei atgyfeirio i’r
      gwasanaethau cymdeithasol i weld a oes angen cynnal asesiad
      holistaidd yn ôl y Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen
      a’u Teuluoedd

      6.5 Nid yw plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ar frys (e.e.
      rhai sy’n profi, neu’n honni eu bod yn profi, achos o gamdrin
      difrifol neu sy’n ymddwyn yn amhriodol yn rhywiol) yn
      gorfod aros tan fod y gweithdrefnau asesu ffurfiol wedi’u
      cwblhau cyn cael gwasanaethau priodol

      7.20 Mae cyngor pediatreg ar gael ar lefel uwch i unrhyw
      blentyn neu berson ifanc sy’n mynychu adran A&E. Lle mae
      pryderon ynghylch amddiffyn plant, dylid hefyd atgyfeirio
                                                                                     - 39 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


       i'r gweithiwr proffesiynol penodedig. (Canllawiau
       Llywodraeth y Cynulliad a gyhoeddwyd Mawrth 2004
       "Diogelu Plant: Cydweithio er mwyn Sicrhau Canlyniadau
       Cadarnhaol”)


Sut mae Sir y Fflint yn ceisio diogelu ac amddiffyn plant ar
hyn o bryd?
Sefydlwyd Tîm Gwasanaeth Amddiffyn Plant y Gwasanaeth Iechyd
Cyhoeddus Cenedlaethol i roi arweiniad strategol yng Nghymru i sicrhau
bod y GIG yng Nghymru yn cydnabod ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Plant
1989 a 2004 a Deddfau perthnasol eraill, ar gyfer Amddiffyn Plant a Phlant
sy’n Derbyn Gofal. Mae’r gwasanaeth yn cynghori ac yn hysbysu Llywodraeth
Cynulliad Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Galw Iechyd Cymru a Chomisiwn Iechyd
Cymru ar fanylebau gwasanaethau Amddiffyn Plant ar gyfer gwasanaethau
iechyd plant ac mae’n rhoi arweiniad ar weithredu’r argymhellion a wnaed yn
genedlaethol ac yn rhanbarthol.
Mae’r Camau Allweddol yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar
gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth wedi’u cyflawni’n llawn
yn Sir y Fflint, gan ddangos bod y cyd-destun sefydliadol sylfaenol ar gyfer
diogelu plant a phobl ifanc wedi’i sefydlu:
       2.51: ‘Mae aelodau gweithredol ac anweithredol o Fyrddau’r GIG
       ac aelodau a swyddogion perthnasol yr awdurdodau lleol,
       staff a llywodraethwyr ysgolion yn cael hyfforddiant i godi
       ymwybyddiaeth ar faterion amddiffyn plant ac yn deall eu
       cyfrifoldebau corfforaethol dros faterion amddiffyn plant’

       2.52: ‘Mae prif swyddog a phrif aelod ym mhob Bwrdd Iechyd
       Lleol; prif swyddog gweithredol ac anweithredol ym mhob
       ymddiriedolaeth GIG a phrif gyfarwyddwr a phrif aelod gan
       bob ALl ar gyfer plant a phobl ifanc. Y rhain sy'n gyfrifol am
       gydgysylltu a monitro’r broses o roi’r gweithdrefnau
       amddiffyn plant ar waith yn unol â chanllawiau
       Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant13 a’r gweithdrefnau
       PAAP lleol’.

       2.53 : ‘Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol wedi
       penodi meddyg a nyrs ar gyfer amddiffyn plant ym mhob
       Bwrdd Iechyd Lleol, ac mae bydwraig ym mhob
       ymddiriedolaeth GIG, a chydgysylltwyr amddiffyn plant
       penodol yn y gwasanaethau cymdeithasol a’r Awdurdodau
       Addysg Lleol sy’n llywio materion amddiffyn plant. Mae
       amser wedi’i neilltuo iddynt gyflawni’r ddyletswydd hon’.




                                                                                      - 40 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol gan asiantaethau statudol a
gwirfoddol ar gael i roi cymorth i rieni a theuluoedd lle mae problemau’n
ymwneud â diogelu neu amddiffyn plant:
    swydd Bydwraig Diogelu Plant
    asesiad gwaith cymdeithasol a chynllun plentyn mewn angen
    gwasanaethau cynnal teuluoedd a fyddai’n cynnig gwaith yn ymwneud
       â gwella sgiliau magu plant
    gwasanaeth strategaeth glasoed
    gwasanaethau therapiwtig drwy gyfrwng y prosiect NCH neu
       wasanaeth gofal seibiant CAMHS
    cymorth ariannol i hybu cysylltiadau neu i hybu gwell amgylchfyd
    dulliau amlasiantaeth o weithio drwy gyfrwng y panel trais yn y cartref
    y prosiect Cyfarfodydd Grŵp Teulu
    cyfarfodydd canlyniadau cadarnhaol
    cynlluniau Cychwyn Cadarn a allai gynnwys defnyddio’r gwasanaeth
       gofal plant cymunedol a sgiliau magu plant
    cynlluniau i atal effeithiau camddefnyddio alcohol a chyffuriau

Dyma’r plant a’r teuluoedd sy’n debygol o elwa o’r gwasanaethau hyn:
   y rheini sydd ar fin cael eu cynnwys ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
   teuluoedd sydd wedi bod ar y gofrestr ond y mae angen cymorth arnynt
      o hyd,
   teuluoedd sydd â phroblemau tymor byr nad ydynt yn ddigon difrifol i
      ystyried eu cofrestru ond y dylid, er hynny, gydweithio â nhw i wella’u
      hamgylchiadau neu i gynnal eu hamgylchiadau
   plant a theuluoedd sy’n byw ar wahân i riant neu rieni ac sydd â
      phroblemau oherwydd hynny
   teuluoedd y mae eu hamgylchiadau’n galw am adroddiad adran 7 neu
      adran 37 ar gyfer y llysoedd


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?

Gall y camau a gymerir i ddiogelu plant sy’n cael eu cofrestru er mwyn eu
hamddiffyn fod yn gostus iawn, e.e. eu rhoi mewn Uned Mamau a Babanod er
mwyn cynnal asesiad cynhwysfawr o’u hanghenion. Gall amrywiaeth o
ffactorau ddylanwadu ar benderfyniad i roi plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
os oes perygl sylweddol i’r plentyn gael ei niweidio. Mewn rhai achosion, gall
mesurau i ymyrryd yn ystod y cyfnod cyn-geni cynnar helpu i ddatblygu’r
sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i fagu plant yn ddiogel a helpu i leihau’r
perygl y caiff y baban ei niweidio a’r angen i gymryd mesurau ymyrryd
statudol, costus.

Mae gwaith yn parhau i gyflawni Cam Allweddol 2.54 a Cham Allweddol
4.16.


CRYNODEB:
                                                                                      - 41 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Mae angen sicrhau bod mesurau i ddiogelu ac amddiffyn plant yn parhau
drwy gyfnod babandod, plentyndod a’r arddegau. Mae angen sicrhau bod
plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu ym mhob lleoliad, drwy lynu wrth yr holl
ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol.



 1.9 GOFAL PLANT

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?

Mae lleoliadau gofal plant da yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan fel
dinasyddion gweithredol, ymgymryd â chyfrifoldebau a meithrin dealltwriaeth a
barn ar y byd o’u hamgylch.

Rhaid i ofal plant fod o safon dda os yw am wella canlyniadau plant. Ar yr un
pryd, os yw am weithio, rhaid i rieni fod yn hyderus bod y gwasanaethau sydd
ar gael yn cynnig yr amgylchedd gorau i blant, a lleoliad diogel lle gall y plant
flodeuo.

Mae safon gofal plant yn gysylltiedig â datblygiad gwybyddol plant. Mae bob
mis ychwanegol y mae plentyn yn ei dreulio mewn lleoliad cyn-ysgol o safon
cyn iddo gyrraedd dwy oed, yn gwella’i berfformiad gwybyddol pan fydd yn
dechrau’r ysgol – mae’r fantais hon yn parhau nes y bydd yn saith oed. Roedd
plant a ddechreuodd mewn lleoliad cyn-ysgol o safon pan oedd yn ddwy oed
neu’n iau hyd at 10 mis ar y blaen o’i gymharu â phlant eraill. Mae
astudiaethau hefyd yn dangos bod gan blant sy’n mynd i leoliad cyn-ysgol
well sgiliau cymdeithasol pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol. Fodd bynnag,
awgryma’r astudiaethau y gall ymddygiad rhai plant waethygu os cânt ofal
plant gwael pan fyddant dan dair oed.

Mae plant anabledd a’u teuluoedd mewn perygl o gael eu hallgáu’n
gymdeithasol. Yn aml iawn, maent yn cael eu hynysu ac mae angen
gwasanaethau ychwanegol ar lawer ohonynt i’w cynorthwyo. Gall fod yn
gostus iawn gofalu am blentyn anabl. Ar gyfartaledd, mae’n costio tair gwaith
mwy i fagu plentyn sydd â nam difrifol na phlentyn heb anabledd. Mae
teuluoedd hefyd yn wynebu pwysau eraill, yn gorfforol ac yn emosiynol. Gall
ymyrraeth gynnar a chymorth priodol, fodd bynnag, leihau’r pwysau hyn. Yn
aml iawn mae angen cymorth ar blant anabl a’u teuluoedd i gymryd rhan
mewn gweithgareddau bob dydd, i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol ac i
oresgyn rhwystrau cymdeithasol i gymryd rhan mewn bywyd bob dydd. Fodd
bynnag, mae cynnydd yn nifer y teuluoedd sy’n gofyn am ofal plant i blant
anabl wrth i’r ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth
gynyddu yn eu cymunedau eu hunain.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut yr ydym yn cymharu â
mannau eraill?
                                                                                      - 42 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Mae’n anodd cael darlun cynhwysfawr o wasanaethau gofal plant yn y sir, gan
mai dim ond data ar gyfer y darparwyr sy’n gorfod cofrestru ag Arolygiaeth
Safonau Gofal Cymru (ASGC) sydd ar gael. Yn ogystal â hyn, yn ôl arolwg a
wnaed yn ardal Sir y Fflint, nodwyd bod perthnasau a ffrindiau’n darparu
llawer iawn o ofal plant anffurfiol gan fod hynny’n aml yn ddigon hyblyg i
ddiwallu anghenion teuluoedd.

Ar 1 Ebrill 2007, dyma faint o ofalwyr plant oedd yn Sir y Fflint:

      116     o warchodwyr plant cofrestredig a oedd yn gweithio gartref.
        23    o feithrinfeydd gofal dydd cofrestredig.
        13    o glybiau gwyliau.
        56    o glybiau ar ôl ysgol.
        56     o gylchoedd chwarae cyn-ysgol
         6     Crèche.

Yn ogystal â hyn, ar 1 Ebrill 2007, roedd:

      705 o lefydd cofrestredig â gwarchodwyr .
      1374 o lefydd gofal sesiynol cofrestredig (llefydd mewn creche neu
       grŵp chwarae cyn-ysgol)
      1232 o lefydd gofal dydd llawn cofrestredig (ac eithrio cynlluniau
       gwyliau y tu allan i’r ysgol).
      1780 o lefydd mewn lleoliadau cofrestredig y tu allan i’r ysgol gan
       gynnwys 237 o lefydd mewn clybiau gwyliau.
      Mae ystadegau ASGC ar gyfer Gofal Dydd i Blant ar gyfer 31 Mawrth
       2006, yn dangos bod llawer mwy o wasanaethau gofal plant yn Sir y
       Fflint na’r rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru ac eithrio
       Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Fodd bynnag, yn ôl sylwadau a gafwyd gan rieni, er bod digon o lefydd, nid
ydynt o reidrwydd yn fforddiadwy, neu yn y llefydd mwyaf cyfleus, neu nid
ydynt yn ddigon hyblyg neu’n diwallu anghenion pob teulu.

Cynhaliwyd dadansoddiad trylwyr o anghenion plant yn ardal Glannau
Dyfrdwy a chafodd y canlyniadau eu cofnodi yng Nghynllun Datblygu Gofal
Plant Sir y Fflint (2006). Er mai ychydig iawn o bobl oedd yn cael eu hatal
rhag gweithio oherwydd diffyg gofal plant, y prif broblemau i rieni a oedd yn
gweithio oedd gwyliau ysgol a’r cyfnodau hynny pan oedd eu plant yn sâl. Yn
ôl y sylwadau a gafwyd gan ddarparwyr gofal plant a rhieni, yr angen mwyaf
oedd darpariaeth hyblyg a fforddiadwy.

Mewn arolwg o rieni mewn un ardal wledig yn Sir y Fflint gan Clybiau Plant
Cymru, nodwyd bod angen mwy o ofal plant, yn enwedig cyn i’r ysgol
ddechrau, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mewn trydydd arolwg (Medi 2006), nodwyd bylchau mewn gwasanaethau
gofal plant ag anabledd, gwasanaeth Cymraeg, a gwasanaeth i blant yn ystod

                                                                                      - 43 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


y ddwy flynedd gyntaf yn yr ysgol uwchradd. Yn ôl sylwadau a gafwyd gan
rieni a gysylltodd â’r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant, gwelwyd mai un o’r
anghenion pennaf oedd darparwr gofal plant a fyddai’n mynd â’r plant i’r ysgol
ac yn eu nôl ar ddiwedd y prynhawn, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oes
gofal plant ar gael ar safle’r ysgol.

Yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, atebodd y
Gwasanaeth Gwybodaeth Plant 1094 o ymholiadau gan 740 o bobl, ac
edrychodd 3602 o bobl ar eu gwefan.


Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?

Dylid hyrwyddo mynediad i gyfleusterau cyn-ysgol (e.e. grwpiau rhieni a
phlant bach neu gylchoedd chwarae) er mwyn i’r plant fedru trosglwyddo’n
rhwydd i’r ysgol feithrin neu’r ysgol ac i feithrin sgiliau cymdeithasol y rhieni a’r
plant.

Mae ‘Gweithgor Gofal Plant’ Llywodraeth Cynulliad Cymru yn argymell
buddsoddi yn yr agweddau a ganlyn er mwyn sicrhau’r budd mwyaf:

      Staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda neu sy’n ymrwymedig i’w gwaith gyda
       phlant.
      Cyfleusterau sy’n ddiogel ac yn lân ac yn gyfleus i rieni.
      Cymarebau staff a grwpiau sy’n ddigon bach i staff fedru rhyngweithio’n
       briodol â phlant.
      Goruchwylio staff i sicrhau cysondeb.
      Datblygu staff i sicrhau dilyniant, sefydlogrwydd a safonau sy’n gwella.
      Cyfleoedd i blant ddysgu drwy brofiadau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer
       gwahanol gamau yn eu datblygiad.
      Cyfraniad athro neu athrawes gymwys yn y gwaith o gynllunio
       gwasanaeth mewn lleoliad gofal plant.
      Arweinwyr cymwysedig h.y. gradd mewn Astudiaethau Plentyndod
       Cynnar

Dylai gofal plant o safon ddatblygu partneriaeth rhwng darparwyr a rhieni i
ddiwallu anghenion gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant.
Fodd bynnag, mae pryder ynglŷn â’r ffug wahaniaeth rhwng gwasanaethau
‘addysg’ a ‘gofal’ sy’n cael ei adlewyrchu mewn cymwysterau a systemau
rheoleiddio gwahanol. I blant yn eu blynyddoedd cynnar, mae gwahaniaeth
o’r fath yn gwbl ddiystyr. Mae angen creu amgylchedd sy’n ddiogel ac sy’n
ysgogi plant , p’un a yw hynny yn eu cartrefi eu hunain, mewn dosbarth
meithrin yn yr ysgol, mewn meithrinfa dydd neu yng nghartref gwarchodwr.

O ran hyrwyddo cynhwysiant plant anabl, mae’r Gweithgor Gofal Plant yn
argymell y canlynol:



                                                                                      - 44 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


          Dylid rhoi hyfforddiant i staff gofal plant ar gynhwysiant ac ariannu er
           mwyn gwella mynediad corfforol .
          Mae gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Plant ran allweddol yn y gwaith o
           annog teuluoedd sydd, yn draddodiadol, wedi’u hallgáu, i fanteisio ar
           wasanaethau. Byddai angen adnoddau ychwanegol ar y Gwasanaeth
           Gwybodaeth Plant, fodd bynnag, i’w helpu i hysbysebu’r cyllid a’r
           cymorth sydd ar gael.
          Dylai timau amlasiantaeth sy’n gweithio gyda phlant anabl drwy’r
           gwasanaethau iechyd ac addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol, gael
           gwybodaeth am ofal plant.


Mae’r Cam Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn berthnasol i’r
mater hwn:

            5.2 Mae gan blant a phobl ifanc anabl yr un cyfleoedd i gael
           gwasanaethau hamdden a chwarae, gan gynnwys cynlluniau
           chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl yr ysgol,
           gyda chymorth priodol fel bo’r angen.


Sut mae Sir y Fflint yn ceisio gwella gofal plant ar hyn o bryd?

Is-grŵp amlasiantaeth o’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yw’r Grŵp
Datblygu Gofal Plant. Mae’n cynrychiolir sector statudol, gwirfoddol ac
annibynnol. Nod y grŵp yw gweithio tuag at ddatblygu gofal plant o safon
drwy Sir y Fflint gyfan.

Rhoddir grantiau i ddarparwyr gofal plant33 i’w galluogi i gynnig yr
hyfforddiant sydd ei angen i fodloni gofynion cofrestru fel Cymorth Cyntaf,
Hylendid Bwyd, Diogelu Plant.

Rhoddir grantiau hefyd i grwpiau cymorth sy’n ei chael hi’n anodd creu incwm
dichonadwy gan fod angen iddynt gadw costau mor isel â phosibl. Rhoddir
uchafswm o £350 tuag at gostau refeniw blynyddol.

Mae grant o £300 ar gael i sefydlu darpariaeth gofal plant newydd neu i
ehangu darpariaeth gofal plant sy’n bod eisoes.

Er mwyn cynorthwyo plant na all eu rhieni fforddio cost gofal plant llawn, mae
grant lleoedd a gynorthwyir ar gael. Caiff y grant hwn ei ddefnyddio i helpu
teuluoedd sydd ar incwm isel, plant ag anabledd, amgylchiadau arbennig fel
salwch rhiant. Rhoddir uchafswm o £12 yr wythnos am 39 wythnos.

Caiff darparwyr gofal plant grant a all dalu 50% o’r gost o sicrhau tystysgrif
sicrwydd ansawdd.


33
     Yn cael cyllid gan Cymorth – adolygiad mis Hydref 2007
                                                                                          - 45 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant yn rhoi gwybodaeth, canllawiau a
chymorth i bobl sy’n sefydlu darpariaeth gofal plant newydd ac yn rhoi
cymorth parhaus i ddarparwyr gofal plant. Mae hyn yn cynnwys cadw cronfa
ddata gyfredol o ddarparwyr gofal plant, rhoi gwybodaeth am ofal plant , nodi
a diwallu anghenion hyfforddiant staff gofal plant a rhoi gwybodaeth i rieni arm
arian a allai eu helpu i dalu am ofal plant. Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth
Plant roi gwybodaeth am amseroedd, costau, swyddi gwag, lleoliadau gofal
plant a gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau eraill. Caiff darparwyr
gofal plant newyddlen bob tymor sy’n eu galluogi i fenthyg teganau/llyfrau o’r
llyfrgell deganau a hysbysebu swyddi gwag.

Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn gweinyddu grant i grwpiau nad
oes angen iddynt gofrestru â’r ASGC (e.e. grwpiau rhieni a phlant bach, Ti
a fi).

Mae darparwyr gofal plant yn Sir y Fflint yn cael cymorth gan eu cyrff ymbarél
eu hunain. Dyma’r prif gyrff:
    Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru34
    Mudiad Ysgolion Meithrin35
    Cymdeithas Meithrinfeydd Dydd Cenedlaethol
    Y Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant 36
    Clybiau Plant Cymru Kids Clubs Association37

Mae pob un o’r cyrff hyn wedi’u trefnu i gefnogi eu grwpiau cysylltiedig. Maent
yn rhoi gwybodaeth a hyfforddiant yn ymwneud â darparu gofal plant,
bodloni’r safonau gofynnol, rhedeg busnes. Ar lefel genedlaethol, mae gan y
cyrff ran bwysig o ran lobïo Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â materion
yn ymwneud â’r busnes gofal plant.

Caiff staff gofal plant hyfforddiant mewn amrywiaeth o faterion a chan
amrywiaeth o ddarparwyr. Rhennir yr hyfforddiant yn ddau gategori. Mae’r
cyntaf yn ymwneud â gofynion statudol fel y cymwysterau sylfaenol y mae’n
rhaid i oruchwylwyr eu cael i gyrraedd Lefel 3 mewn Gofal Plant a chyrsiau
cymorth cyntaf, hylendid bwyd a diogelu plant. Mae’r ail gategori’n ymwneud â
darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i staff yn gwella profiadau plant
mewn lleoliad gofal plant. Gallai hyn gynnwys camau datblygu a sut i gynllunio
ar gyfer plant unigol, sut i feithrin sgiliau cyfathrebu plant, cynnwys plant ag
anghenion ychwanegol, anghenion diwylliannol, gweithio gyda rhieni fel
partneriaid , hawliau plant. Y cyrff gofal plant uchod sy’n darparu’r hyfforddiant
hwn ynghyd â thimau fel Cychwyn Cadarn, y Tîm Hawliau Cynnar, Tîm CIDS,
Ymwelwyr Iechyd, Tîm Genesis, Coleg Glannau Dyfrdwy.

Er mwyn i gyflogwyr lleol fedru cyflogi’r bobl sydd eu hangen arnynt, mae
angen darparu gofal plant o safon sy’n helpu rhieni sy’n dewis gweithio. Mae’r
Grŵp Cydbwyso Gwaith a Bywyd yn gwasanaethu Wrecsam a Sir y Fflint

34
   Yn cael cyllid gan Cymorth –   adolygiad mis Hydref 2007
35
   Yn cael cyllid gan Cymorth –   adolygiad mis Hydref 2007
36
   Yn cael cyllid gan Cymorth –   adolygiad mis Hydref 2007
37
   Yn cael cyllid gan Cymorth –   adolygiad mis Hydref 2007

                                                                                          - 46 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


ac yn cyfarfod i ystyried dulliau o ddatblygu gofal plant i fodloni anghenion y
gweithlu yn awr ac yn y dyfodol. Y math o bynciau a drafodir yw dulliau
gweithio hyblyg, talebau gofal plant, gofal plant yn y man gwaith.

Mae’r Rhwydwaith Gwarchodwyr Cymunedol yn cynnig lleoedd gyda
gwarchodwyr plant sy’n rhan o rwydwaith sydd wedi bod drwy broses
sicrwydd ansawdd ac sy’n cynnig pecynnau gofal sydd wedi’u haddasu i
ddiwallu anghenion plant unigol.

Mae Prosiect Genesis yn ariannu swydd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas
Genedlaethol Gwarchod Plant. Sefydlwyd swydd ar gyfer Gweithiwr Datblygu
gwarchod Plant i hyrwyddo gwaith gwarchodwyr ac i recriwtio gwarchodwyr
yng Ngogledd Sir y Fflint lle mae’r niferoedd dipyn is nag ydynt yn ardaloedd
De a Dwyrain y sir.

Mae crèche yng Nghanolfannau Hamdden y Fflint a Glannau Dyfrdwy a chan
Dîm Prosiect Creche Cychwyn Cadarn. Mae Cychwyn Cadarn yn rhoi
gwasanaeth creche o safon i deuluoedd yng Nghanolfan Westwood a
Chanolfan Aston ac mewn nifer o leoliadau cymunedol eraill yn ôl y galw (e.e.
y Gwasanaeth Cymorth i Dystion yn Llysoedd y Goron)


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?
Yn ôl Deddf Gofal Plant 2006, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal
asesiad o ofal plant pan gaiff y canllawiau statudol eu cyhoeddi yn 2008. Bydd
gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i gynorthwyo â’r gwaith o
ddatblygu gofal plant sy’n fforddiadwy ac yn hygyrch i blant ag anableddau, ac
i ddatblygu gofal plant Cymraeg i blant sy’n siarad Cymraeg.

Ymddengys bod gan Sir y Fflint ddigon o ddarpariaeth mewn rhai ardaloedd,
ond mae nifer o ardaloedd yn y sir lle mae darpariaeth yn brin. Mae angen
targedu datblygiadau mewn ardaloedd gwledig fel Northop Hall, Sychdyn,
Penymynydd ac ardal Treffynnon a’r tu hwnt i Gronant a Trelawnyd.

Mae Cam Allweddol 5.2 yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod plant ag
anableddau’n gallu defnyddio gwasanaethau gofal plant.



CRYNODEB:
Mae angen targedu darpariaeth gofal plant mewn ardaloedd gwledig.

Mae angen sicrhau bod darpariaeth gofal plant sy’n addas ar gyfer plant ag
anableddau ar gael.

Fforddiadwyedd yw’r broblem o hyd i rai teuluoedd.



                                                                                      - 47 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



 1.10 DARPARIAETH BLYNYDDOEDD CYNNAR

Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?
“Os yw plant yn dechrau’r ysgol gyda sgiliau siarad a gwrando da, byddant
bron yn sicr yn gwneud gwell cynnydd o ran meistroli ystod eang o sgiliau
hanfodol eraill. Mae hyn yn mynegi’r hyn sy’n amlwg, wrth gwrs, ac mae’r rhan
fwyaf o bobl yn ymwybodol o hynny. Ond efallai nad yw’n amlwg i bawb gan
fod ymchwil yn awgrymu bod nifer gynyddol o blant yn dechrau’r ysgol hen
sgiliau siarad a gwrando da”38

Mae profiadau addysgol plant dan oedran ysgol statudol yng Nghymru’n
amrywio’n arw. Bydd plant ifanc yn ymuno â’r system addysg rhwng 3 a 5
oed, mewn lleoliadau amrywiol a gallant fod yn cael addysg ran amser neu
lawn amser. Bydd y rhan fwyaf o blant ifanc wedi bod mewn rhyw fath o
leoliad blynyddoedd cynnar - cylch chwarae, meithrinfa neu ysgol - am ryw
gyfnod, sy’n ei gwneud hi’n anodd gwahanu dylanwad y cartref a’r grŵp ar
iaith a dysgu.

Fodd bynnag, er gwaethaf diffyg tystiolaeth mewn astudiaethau gwaith
ymchwil arhydol yng Nghymru, ymddengys bod cydsyniad ymhlith athrawon
fod llawer o blant ifanc yn cael trafferth cyfathrebu; mai ychydig o brofiad o
lyfrau a storïau sydd gan lawer o blant ac mae prin yw nifer y caneuon a’r
rhigymau y maent yn gyfarwydd â nhw, a chaiff hyn ei adlewyrchu mewn
canlyniadau asesiadau llinell sylfaen. Mae cred gyffredinol bod y sefyllfa’n peri
mwy o bryder y dyddiau hyn. Hoffai athrawon pe bai plant ifanc yn gallu
manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt pan fyddant yn dechrau
addysg ffurfiol ac mae am i rieni gael gymaint o wybodaeth â phosibl am
ddatblygiad cynnar.

Yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf am y ffordd y mae ymennydd plant yn
datblygu, ynghyd â gwaith ymchwil arall, mae darpariaeth blynyddoedd cynnar
o safon yn bwysig o ran hybu datblygiad plant ac adeiladu system ataliol.
Ochr yn ochr â hyn, mae angen i wasanaethau cyhoeddus nodi problemau
cyn gynted ag y deuant i’r amlwg a sicrhau bod gwasanaethau ar gael i ddelio
â nhw 39. Mae angen i’r system, fodd bynnag, fedru cynnig darparu
continwwm o gymorth ar draws gwasanaethau drwy gydol cyfnod plentyndod
a medru ymyrryd yn gyflym pan fydd canlyniadau gwael yn dod i’r amlwg.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut yr ydym yn cymharu â
mannau eraill?



38
   Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol (2003): Adroddiad cryno ar arolwg o sgiliau plant ifanc pan maent yn
dechrau yn yr ysgol
39
   Melhuish E (2002): Literature Review of the Impact of Early Years Provision on Young Children, with
Emphasis Given to Children from Disadvantaged Backgrounds. Report for National Audit Office
                                                                                                  - 48 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae Cynllun Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Sir y Fflint (2007-2008)
yn dangos bod lle addysgol ar gael i bob plentyn yn Sir y Fflint o’r tymor ar ôl
eu pen-blwydd yn dair oed ac felly nid oes angen i’w ddiwallu yn y cyswllt
hwn. Mae’r lleoliadau hyn naill ai mewn ysgolion a gynhelir neu yn y sector
nas cynhelir fel gwarchodwyr plant, cylchoedd chwarae, a meithrinfeydd dydd.
Tîm o athrawon yw’r Tîm Hawliau Cynnar sy’n gweithio gyda darparwyr i
sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau sylfaenol a hefyd i sicrhau bod y
darparwyr yn cynllunio’r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion datblygu plant
unigol.


Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?
Mae’r angen i nodi plant sy’n profi canlyniadau gwael, ac i fonitro plant i gadw
llygad ar y rheini sy’n dangos arwyddion o ddatblygu canlyniadau gwael yn
awgrymu ei bod yn allweddol darparu gwasanaethau cyffredinol. Gallai’r
gwasanaethau hyn, gan ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, canolfannau plant
ac yn enwedig ysgolion – sydd â chysylltiad cyson â phlant drwy gydol eu
plentyndod – fod â rhan bwysig o ran nodi pa blant sy’n agored i niwed, gan
fonitro eu cynnydd a gweithio gyda gwasanaethau arbenigol eraill i dargedu
mesurau ymyrryd yn well.

Pan fo modd cynllunio a chyflwyno mesurau ymyrryd cost-effeithiol, os yw’r
system i fod mor ataliol â phosibl dylai fedru cyflwyno rhaglen o fesurau
ymyrryd sy’n dechrau o’r enedigaeth i hybu ffactorau ataliol ond hefyd i roi
cymorth i blant drwy gydol eu plentyndod, os oes angen. Gallai hyn:

      Helpu plant i gael plentyndod hapusach drwy hyrwyddo gwytnwch i
       bawb a helpu’r rheini a all wynebu problemau cyn gynted â phosibl.
      Helpu i leihau’r angen i ymyrryd yn ddiweddarach drwy atal plant rhag
       profi canlyniadau gwael (atal).
      Galluogi gwasanaethau i gynorthwyo cyn gynted â phosibl y gyfran
       sylweddol o blant nad oedd eu hanghenion mor amlwg ar ddechrau eu
       plentyndod (ymyrryd yn gynnar).

Mae gwasanaethau arbenigol a dargedir yn rhan hanfodol o system atal ac
ymyrryd yn gynnar, ond ni all y gwasanaethau hyn, ar eu pennau eu hunain,
gyflwyno rhaglen ataliol o ymyrraeth. Oherwydd natur y gwasanaethau hyn,
nid ydynt yn darparu gwasanaeth i’r rhan fwyaf o blant. Dim ond drwy
ddefnyddio dulliau system gyfan, sy’n cynnwys gwasanaethau sydd ar gael i
bawb, yn enwedig ysgolion, y mae’n bosibl creu rhaglen o gymorth ataliol.

Mae’r Cam Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol
ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn berthnasol i’r
mater hwn:

       5.2 ‘Mae gan blant a phobl ifanc anabl yr un cyfleoedd i gael
       gwasanaethau hamdden a chwarae, gan gynnwys cynlluniau
       chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau cyn ac ar ôl yr ysgol,
                                                                                      - 49 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


       gyda chymorth priodol fel bo’r angen’

Sut mae Sir y Fflint yn ceisio gwella darpariaeth blynyddoedd
cynnar ar hyn o bryd?
Mae Ymddiriedolaeth y GIG yn cynnig cymorth i leoliadau gofal plant drwy
gyfrwng ymweliadau iechyd a’r gwasanaeth nyrsys ysgolion gydag ymwelwyr
iechyd a nyrsys ysgol a enwir yn gyfrifol am bob lleoliad.

Ymwelwyr Iechyd yw’r gwasanaeth cyffredinol i bob plentyn o’i enedigaeth
nes y bydd yn bedair oed felly maent yn ymwybodol o anghenion pob plentyn
cyn oed ysgol yn Sir y Fflint. Mae ganddynt ran bwysig yn y broses o gadw
cysylltiad â’r plant anoddaf i’w cyrraedd a’r plant mwyaf anghenus. Fodd
bynnag, gan fod ymwelwyr iechyd yn gallu bod â llwyth gwaith o dros 300 o
deuluoedd, mae’n anodd iddynt fod yn rhagweithiol yn eu gwaith gyda
theuluoedd.

Mae Grwpiau Rhieni a Phlant Bach / Ti a Fi yn cael eu cynnal yn y rhan
fwyaf o gymunedau yn Sir y Fflint. Fel arfer, maent yn gysylltiedig â
chylchoedd chwarae neu Gylch Meithrin. Maent yn cynnig lleoliad lle gall
rheini a phlant fwynhau profiad cymdeithasol. Un o fanteision ychwanegol y
grwpiau hyn yw bod rhieni’n rhannu cyngor a chymorth.

Prosiect sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd gydag o leiaf un
plentyn dan 4 oed yw Cychwyn Cadarn. Mae’r prosiect yn targedu cymorth
yn Shotton, Queensferry, Sealand, Sealand Manor, Bwcle, Bryn Gwalia’r
Wyddgrug, Holway, Treffynnon. Caiff cymorth ei ddarparu yn y gwasanaethau
a ganlyn:
Ymweld â’r cartref, sesiynau galw heibio i deuluoedd, sesiynau coginio a
bwyta, benthyciadau’r llyfrgell teganau, benthyciadau offer diogelwch yn y
cartref, cyngor ac arweiniad gan CABx, cymorth ychwanegol gan
fydwragedd, cymorth iechyd meddwl sylfaenol.

Caiff y prosiect Dechrau’n Deg ei ddatblygu yn yr ardaloedd a ganlyn: Higher
Shotton, Canol Cei Connah, Canol y Fflint a Maes Glas. Bydd yn cynnig
ymweliadau dwys â theuluoedd, gofal plant i blant dwy oed, mwy o gyrsiau
iaith a chwarae a chyrsiau magu plant i rieni. Nod y rhaglen yw gwella
canlyniadau i’r 640 o blant mwyaf anghenus Sir y Fflint.

Mae Hawliau Cynnar yn rhoi cyfle i holl blant y sir gael addysg blynyddoedd
cynnar o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.

Mae’r Rhaglenni Iaith a Chwarae a Rhif a Chwarae yn ariannu tîm o
weithwyr sydd wedi’u hyfforddi i weithio’n uniongyrchol â rhieni a hefyd i
hyfforddi gweithwyr eraill i weithio gyda rhieni i’w galluogi o roi profiadau i’w
plant a fydd yn hybu eu sgiliau iaith a rhif.

Yn 2006-2007, bu 336 o rieni ar gyrsiau a rhyngddynt, roedd ganddynt 556 o
blant.

                                                                                      - 50 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Mae amrywiaeth eang o grwpiau gwirfoddol, annibynnol ac anffurfiol sydd
â chyfraniad pwysig o ran diwallu anghenion cyffredinol ac anghenion
arbennig drwy wasanaethau blynyddoedd cynnar.


Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?

Mae’n bwysig bod adnoddau ar gael i sicrhau bod anghenion plant sydd ag
anawsterau cyfathrebu neu anableddau eraill yn cael eu diwallu i fodloni
gofynion Cam Allweddol 5.2.


CRYNODEB:

Mae’n debygol y bydd angen ailymweld â gwasanaethau a’u haildargedu i
sicrhau eu bod yn ymdrin â’r agenda blynyddoedd cynnar sy’n datblygu, a’r
newidiadau mewn gwasanaethau.

Mae angen sicrhau bod ethos cyffredin rhwng darpariaeth ‘blynyddoedd
cynnar’ a’r ‘cyfnod sylfaen’ mewn addysg statudol, gyda darparwyr yn
gweithio mewn partneriaeth i greu profiadau cadarnhaol a chreadigol i blant.

 1.11 PROBLEMAU IECHYD MEDDWL AMENEDIGOL


Beth yw’r broblem a pham ddylem ni boeni?

Mae mamau sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn gallu effeithio’n
andwyol ar ymlyniad plant, eu hiechyd emosiynol a meddyliol hirdymor, a gall
hefyd fod yn gysylltiedig â lefelau uchel o broblemau corfforol ac ymddygiadol
ymhlith plant. Amcangyfrifir bod rhwng 9% ac 20% o ferched yn dioddef o
iselder a phryder tra maent yn feichiog a bod y ffigwr yn codi i 8% a 13% yn y
cyfnod ar ôl y geni. Hefyd, mae tua 2.5% o ferched yn dangos holl
nodweddion anhwylder straen ôl-drawmatig ar ôl y geni ac mae gan 10.5%
ychwanegol rai o’r nodweddion hyn.

Mae chwarter o’r merched sydd â hanes personol o iselder (naill ai cyn neu yn
ystod beichiogrwydd) yn cael profiad o iselder ar ôl geni. Ymhlith y ffactorau
risg eraill mae caledi ariannol, cymorth cymdeithasol cyfyngedig, diffyg
perthynas agos sy’n rhoi cyfle i rannu beichiau a beichiogrwydd digroeso.

Mae trin iselder seicolegol amenedigol yn llesol i’r cleifion eu hunain ac i’r
plant a gweddill y teulu. Drwy wella iechyd meddwl mamau mae’n bosibl
hefyd atal problemau iechyd meddwl sylfaenol (plant nad ydynt yn dioddef
eto) yn ogystal ag atal problemau eilaidd (drwy liniaru’r effeithiau ar blant
sydd eisoes wedi dioddef oherwydd iselder seicolegol mamau).



                                                                                      - 51 -
                Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
     Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Beth yw’r sefyllfa yn Sir y Fflint, a sut yr ydym yn cymharu â
mannau eraill?
Ni nodwyd unrhyw ddata lleol penodol.



Yn ôl y dystiolaeth, beth yw’r ffyrdd gorau o ymdrin â’r
materion hyn?

Mae canllawiau a gyhoeddodd NICE yn ddiweddar40 yn argymell defnyddio
triniaeth seicolegol i drin problemau iechyd meddwl, oherwydd ‘y gymhareb
gyfnewidiol rhwng risg a mantais yng nghyswllt meddyginiaeth seicotropig ar
yr adeg hon’. Dyma rai o’r argymhellion:

          Mae therapi seicolegol wedi’i gadarnhau a’i gymeradwyo’n bendant
           fel triniaeth sy’n cael ei ddewis gan yr Adran Iechyd a NICE.
          Gwelwyd bod ymyrraeth seicolegol ar ffurf gwaith grŵp yn effeithiol o
           ran gwella iechyd meddwl ar ôl geni.
          Yn ogystal â’r manteision uniongyrchol, mae gan therapi seicolegol
           hefyd effeithiau hirdymor sy’n deillio o’r broses o ail-werthuso ac
           ailddysgu seicolegol/emosiynol.
          Mae’n hysbys bod meddyginiaeth gwrth-iselder yn cael effaith
           niweidiol ar fabanod yn y groth a babanod sy’n cael eu bwydo ar y
           fron.

Mae’r Camau Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn
berthnasol i’r mater hwn:

           3.5 Yn fuan ar ôl yr enedigaeth, mae gweithiwr proffesiynol
           arweiniol penodol, sef bydwraig benodol fel arfer, yn
           gyfrifol am ailasesu anghenion unigol a chydgysylltu gofal
           ôl-enedigol pob baban a menyw.

           3.18 Mae menywod yn cael cynnig asesiad ar gyfer problemau
           iechyd meddwl yn ystod y cyfnod cyn geni ac ôl-enedigol
           gan weithwyr iechyd proffesiynol wedi’u hyfforddi’n
           briodol, ac mae cymorth arbenigol i ddilyn os oes angen

           3.28 Mae bydwraig benodol yn y cyfnod ôl-enedigol yn rhoi’r
           cyfle i famau a’u partneriaid i adlewyrchu ar eu profiadau o
           fod yn feichiog a rhoi genedigaeth. Mae’r wybodaeth hon
           yn cael ei hanfon at Bwyllgor Cyswllt Gwasanaethau
           Mamolaeth i lywio’r gwaith o gynllunio a chyflenwi
           gwasanaethau..


40
     NICE (2007): Antenatal and postnatal mental health: clinical management and service guidance

                                                                                                    - 52 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.



Sut mae Sir y Fflint y ceisio atal a thrin problemau iechyd
meddwl amenedigol ar hyn o bryd?

Mae merched sy’n cael gofal cyn-geni’n cael eu holi am eu hiechyd meddwl
fel rhan o wasanaeth cyfannol. Pan mae pryderon, gall y tîm gofal cyn-geni
helpu, neu mae’n bosibl cyfeirio’r ferch at wasanaethau eraill yn ôl yr angen.

Yn Sir y Fflint, caiff merched eu sgrinio ar ôl 8 wythnos gan eu Ymwelwyr
Iechyd neu eu Meddygon Teulu, gan ddefnyddio Graddfa Iselder ar ôl Geni
Caeredin. Wedyn, cynigir chwe ‘ymweliad gwrando’ gan Ymwelwyr Iechyd, os
oes angen.

Gall rhai Ymwelwyr Iechyd gynnig sgiliau ymddygiad gwybyddol sylfaenol.
Mae Meddygon Teulu ac Ymwelwyr Iechyd yn ymateb cystal ag y medrant i
rieni sy’n dioddef o bryder neu iselder, ond oherwydd prinder amser a natur
gyffredinol eu sgiliau, maent yn teimlo bod angen gwasanaeth i gyfeirio
merched atynt os oes angen mwy o gymorth arnynt nag ymweliadau gwrando.

Dyma’r gwasanaethau ychwanegol sydd ar gael i ferched sydd â phroblemau
amenedigol, er nad ydynt wedi’u targedu’n benodol at y problemau hyn:

      Cyn bo hir, bydd Cydlynydd y Strategaeth Magu Plant yn cydlynu’r
       gwaith o redeg grwpiau rhieni dan arweiniad staff sy’n gyfarwydd â
       dulliau Blynyddoedd Anhygoel Webster-Stratton, ymhlith eraill.
      Gall rhieni sy’n byw yn ardaloedd Cychwyn Cadarn gael cymorth gyda
       sgiliau magu plant, iechyd meddwl, mesurau ymyrryd ac addysg drwy’r
       rhaglen honno
      Mae gwasanaethau ar gael i oedolion sydd â salwch meddwl difrifol
       neu barhaus drwy’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol.
      Mae gwasanaethau cyfyngedig ar gael i oedolion sydd â phroblemau
       iechyd meddwl ysgafn neu gymedrol “cyffredin” drwy’r Tîm Mynediad
       Cyntaf os penderfynir bod y gwasanaeth hwn yn addas ar eu cyfer.
       Ond mae’r gwasanaeth eisoes yn dioddef oherwydd prinder adnoddau,
       mae elfen o warth ynghlwm wrtho (oherwydd ei fod yn rhan o’r
       gwasanaethau iechyd meddwl sy’n seiliedig ar ofal eilaidd), ac nid oes
       darpariaeth arbenigol ar gyfer merched amenedigol neu ôl-enedigol.
      Mae Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar CAMHS yn cynnig gwasanaeth
       cynghori rhieni, dan arweiniad cynghorwyr dan hyfforddiant neu
       gynghorwyr sydd newydd gymhwyso. Er bod y gwasanaeth hwn yn
       hynod werthfawr, ni all y gwasanaeth ymdopi â holl ferched Sir y Fflint
       yn dioddef yn ddrwg o iselder seicolegol amenedigol neu iselder ar ôl
       geni.
      Mae Cynllun Presgripsiwn Llyfr Oedolion eisoes ar gael ar hyd a
       lled Sir y Fflint, a chaiff Rhestr Lyfrau Plant a Theuluoedd / Cynllun
       Presgripsiwn Llyfr ei lansio eleni gan Ymyrraeth Gynnar CAMHS. Er
       bod lle i’r rhain, nid ydynt o unrhyw werth i bobl nad oes ganddynt y
       sgiliau llythrennedd angenrheidiol, ac oni bai eu bod yn cael eu
       defnyddio ar y cyd ag anodau eraill, does dim cyfle i gael sylwadau
                                                                                      - 53 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


       personol, cymorth proffesiynol neu gymorth gan gymheiriaid, ac ni
       chaiff y problemau sylfaenol eu prosesu drwy ddulliau seicotherapwitig.
      Mae hefyd amrywiaeth o wasanaethau gwirfoddol a phreifat, sy’n
       amrywio o ran safon, ac nad ydynt yn cael eu monitro.
      Caiff grŵp therapiwtig, cwsmer-ganolog, sy’n seiliedig ar ofal
       sylfaenol ei dreialu yn y Fflint. Menter ar y cyd yw hon rhwng
       Rhaglen Cymrodorion Academaidd Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint a
       Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar CAMHS, sy’n seiliedig ar iechyd
       meddwl sylfaenol. Bydd y grŵp yn dechrau ym mis Medi 2007.



Beth yw’r goblygiadau i Sir y Fflint?
Mae llawer o’r gwasanaethau a allai gynnig cymorth iechyd meddwl yn ystod y
cyfnod amenedigol yn gyfyngedig naill oherwydd nad ydynt ar gael i bawb neu
oherwydd nad yw’r rheini a allai elwa ohonynt yn credu eu bod yn berthnasol.
Mae’n debyg bod angen sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael i hybu lles
meddyliol ar yr adeg dyngedfennol hon yn cael cyhoeddusrwydd eang er
mwyn newid y sefyllfa hon.

Mae Cam Allweddol 3.28 wedi’i ddynodi fel cam i’w gyflawni erbyn mis
Mawrth 2008.

Yn ôl y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion mae angen i
Gymunedau Iechyd gytuno ar brotocol ar gyfer rheoli iselder ar ôl
geni. Mae’n ymddangos nad oes gan Fwrdd Iechyd Lleol Sir y
Fflint brotocol o’r fath ar hyn o bryd. Y tu hwnt i hyn, ymddengys
bod Sir y Fflint wedi’i chyfyngu i feddyginiaeth, neu i gyfeirio
merched at y Tîm Mynediad Cyntaf neu CMHT, a does yr un o’r
rhain yn cynnig gwasanaeth sydd wedi’i addasu i ddiwallu
anghenion mamau amenedigol.

CRYNODEB:
Yn ôl Camau Allweddol 3.18 a 3.28, mae angen dulliau rhagweithiol o hybu
iechyd meddwl amenedigol, sy’n hanfodol o ran creu perthynas dda rhwng y
fam a’r baban. Mae safon rhai o’r gwasanaethau cyffredinol ac arbenigol
sydd ar gael yn peri pryder.




                                                                                      - 54 -
            Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint – Asesiad o Anghenion
 Nod Craidd 1: Sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir y Fflint yn cael dechrau da mewn bywyd.


Atodiad:
Mae’r Camau Allweddol a ganlyn yn y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn
berthnasol i Nod Craidd 1:


2.8 Mae plant a phobl ifanc yn derbyn asesiad cyfannol o’u
hanghenion sy’n briodol ac yn berthnasol i'r sefyllfa sy'n:
• Cynnwys ystyriaeth o anghenion cymdeithasol, corfforol,
emosiynol, addysgol, diwylliannol, ieithyddol ac ysbrydol
y plentyn yng nghyd-destun eu teulu a’r gymuned ble
maent yn byw;
• Cynnig dewis i’r plentyn ynghylch asesu lle bo hynny’n
bosib - o ran sut, lle a gan bwy;
• Cael ei gyflawni gan staff â’r sgiliau a’r cymwysterau
perthnasol a ddatblygwyd drwy hyfforddiant rheolaidd;
• Arwain at gyfeirio’r plentyn at asiantaethau eraill, lle bo
angen hynny, gan gynnwys bod yn gymwys am ofal iechyd
parhaus y GIG (cyhoeddir canllawiau newydd yn 2006).



2.19 Mae nifer yr holl blant sy'n defnyddio'r gwasanaethau
cyffredinol yn cael ei fonitro fel bod defnydd isel gan
grwpiau penodol yn cael ei nodi a chamau priodol yn cael
eu cymryd i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau'n cyrraedd
y plant hyn. Yn fwy na dim, mae mecanweithiau lleol
ynghylch cydweithio sy’n sicrhau:
• Eu bod yn gallu gweld meddyg teulu lleol;
• Eu bod yn gallu manteisio ar Raglen Graidd Cymru Gyfan
ar gyfer Arolygu Iechyd Plant (canllawiau Llywodraeth
Cynulliad Cymru i’w cyhoeddi yn 2006;
• Eu bod yn gallu gweld deintydd lleol sy’n cynnig pob math
o gyngor, gofal a thriniaeth ar iechyd y geg;
• Eu bod yn derbyn gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar
hybu iechyd;
• Eu bod yn cael yr addysg briodol i’w hanghenion nhw.




                                                                                      - 55 -

								
To top