Montgomery yn dadwahanu bysiau ar ôl boicot bysiau (1955)
Ymgyrch brotest wleidyddol ym 1955 oedd Boicot Bysiau
Montgomery yn Montgomery, Alabama gyda‟r bwriad o
wrthwynebu polisi arwahanu hiliol y ddinas ar ei system
cludiant cyhoeddus. Arweiniodd yr ymdrech at benderfyniad
Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau ar 13eg Tachwedd 1956 yn
cyhoeddi fod cyfreithiau Alabama a Montgomery a fynnai
arwahanu mewn bysiau yn anghyfreithlon.
Dechreuwyd y boicot gan benderfyniad Rosa Parks i wrthod
rhyddhau ei sedd ar fws i deithiwr gwyn. Yn Montgomery,
nid oedd y llinell derfyn rhwng y seddau blaen cadw i
deithwyr gwyn a‟r seddau cefn cadw i deithwyr du yn
sefydlog. Pan oedd pen blaen y bws yn llawn, gallai‟r gyrrwr
orchymyn y teithwyr du oedd yn eistedd tuag at ffrynt y bws
i ryddhau eu seddau. Roedd sedd Rosa Parks yn yr ardal
ffin yma. Cafodd ei harestio ar Ragfyr 1af, 1955 am wrthod
symud.
Roedd hi‟n achos prawf gwirfoddol, a ddewiswyd gan NAACP i herio‟r math yma o arwahanu.
Mewn cyfarfodydd eglwysi gyda‟r gweinidog newydd yn y ddinas, Martin Luther King yr ieuaf,
cynigiwyd a phasiwyd y dylid cael boicot o gludiant cyhoeddus yr holl ddinas fel protest.
Roedd y boicot yn hynod o effeithiol, oherwydd collwyd digon o deithwyr i system cludiant y
ddinas i achosi cyni economaidd difrifol. Yn lle teithio ar fysiau, trefnodd y boicotwyr gynllun
cronfa geir, gyda pherchnogion ceir yn gwirfoddoli eu ceir neu eu hunain i yrru pobl i wahanol
lefydd. Roedd rhai gwragedd tŷ gwyn yn gyrru eu gweision cartref du i‟r gwaith. Pan roddwyd
pwysau ar gwmnпau yswiriant gan awdurdodau‟r ddinas i beidio yswirio ceir y gronfa geir,
trefnodd arweinwyr y boicot bolisпau gyda Lloyds o Lundain.
Er mwyn cefnogi‟r boicot roedd gyrrwyr tacsi du yn codi deg sent y daith, sef cost y daith ar y
bws. Ceisiodd swyddogion y ddinas ddirwyo unrhyw yrrwr tacsi a oedd yn codi llai na 45 sent
ar deithwyr. Yn ogystal в defnyddio moduron preifat, ceisiodd rhai pobl seiclo a cherdded, ac
eraill ffawdheglu. Ar draws y wlad, roedd eglwysi‟r duon yn codi arian i gefnogi‟r boicot a
chasglu esgidiau yn lle esgidiau carpiog rhai boicotwyr oedd yn cerdded i bobman yn lle plygu
i Jim Crow.
Ymateb y gwynion gwrthwynebol oedd cynyddu aelodaeth Cyngor Dinasyddion Gwyn;
dyblwyd yr aelodaeth yn ystod cyfnod y boicot. Fel y KKK, roedd y Cyngor Dinasyddion Gwyn
weithiau‟n defnyddio trais: taflwyd bomiau tвn ar dai Martin Luther King a Ralph Abernathy, ac
ymosodwyd yn gorfforol ar foicotwyr.
Dan orchymyn 1921, arestiwyd 156 o brotestwyr am "rwystro" bws, yn cynnwys King.
Gorchmynnwyd ef i dalu dirwy o $1,000 neu dreulio 386 diwrnod yn y carchar. Ni lwyddodd y
symudiad hwn oherwydd daeth y brotest i sylw‟r genedl gyfan. Yn y diwedd, cadarnhawyd
penderfyniad mвn lys gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau fod deddfau arwahanu hiliol
Alabama ar gyfer bysiau yn anghyfansoddiadol, ac, o ganlyniad, yn rhoi buddugoliaeth glir i‟r
protestwyr. Arweiniodd y fuddugoliaeth at orchymyn dinesig a oedd yn caniatбu i deithwyr
bws du i eistedd bron в bod yn rhywle a fynnent. Traddododd Martin Luther King araith yn
annog cefnogaeth ar gyfer y penderfyniad. Canlyniad y boicot oedd i fudiad hawliau sifil yr
Unol Daleithiau dderbyn un o‟i buddugoliaethau cyntaf, a rhoi‟r sylw cenedlaethol i Martin
Luther King a fyddai‟n ei wneud yn un o brif arweinwyr yr achos.
Dyfarnodd y Goruchaf Lys yn erbyn ysgolion ar wahвn ar ôl achos Linda
Brown (1954)
Ym 1951, dygwyd achos cyfreithiol yn erbyn
Bwrdd Addysg Dinas Topeka, Kansas yn Llys
Sirol yr Unol Daleithiau. Yr achwynyddion oedd
un deg tri o rieni ar ran eu hugain plentyn.
Galwai’r achos ar y rhanbarth ysgolion i
wrthdroi ei bolisi o arwahanu hiliol. Cafodd yr
achwynyddion eu recriwtio gan arweinwyr yr
NAACP yn Topeka. Argyhoeddwyd yr achwynydd
a enwyd, Oliver L. Brown, i ymuno в’r achos
cyfreithiol gan gyfaill plentyndod iddo, Charles
Scott. Roedd merch Brown, Linda, a oedd yn y
trydydd dosbarth, yn gorfod cerdded pump stryd
i’w harosfan bws er mwyn teithio’r ddwy filltir i’w
hysgol ar wahвn ar gyfer duon, tra oedd Sumner
Elementary, ysgol ar gyfer gwynion, yn bump
stryd yn unig o’i thŷ.
Dyfarnodd y Llys Sirol o blaid y Bwrdd Addysg, gan gyfeirio at gynsail Goruchaf
Lys yr Unol Daleithiau a oedd wedi cytuno в deddf daleithiol a fynnai
gyfleusterau "ar wahвn ond cydradd" ar gyfer duon a gwynion mewn cerbydau
trкn. Dyfarnodd y tri barnwr yn y Llys Sirol fod arwahanu mewn addysg
cyhoeddus yn cael effaith niweidiol ar blant du, ond yn gwrthod cymorth
oherwydd bod yr ysgolion ar gyfer y duon a’r gwynion yn Topeka yn gyfartal o
ran adeiladau, cludiant, cwricwla, a chymwysterau addysgol yr athrawon.
Dadleuwyd yr achos gan brif gwnsler yr NAACP ar ran yr achwynyddion gerbron
y Goruchaf Lys. Ar 17eg Mai 1954 traddododd Llys Warren ddyfarniad unfrydol
9-0 gan ddatgan, yn blwmp ac yn blaen, fod "cyfleusterau addysgol ar wahвn
yn hanfodol anghyfartal." Roedd penderfyniad 17eg Mai, 1954 yn gwrthdroi
dyfarniad cynharach y Llys yn achos Cumming v. Bwrdd Addysg Sir Richmond
1899, a oedd wedi dilysu arwahanu ysgolion cyhoeddus yn benodol. Fodd
bynnag, ni wnaeth achos Brown, arwain i ddadwahanu ysgolion cyhoeddus
America yn syth, nac ychwaith arwain i orchymyn i ddadwahanu mewn
adeiladau cyhoeddus, megis tai bwyta neu doiledau, a oedd yn eiddo preifat i
unigolion. (Ni fyddai’r pethau hyn yn cael eu cyflawni hyd i Teitl II o’r Ddeddf
Hawliau Sifil gael ei basio ym 1964). Fodd bynnag, roedd yn gam anferth
ymlaen i’r mudiad hawliau sifil, yn gosod pwysau’r Farnwriaeth Ffederal yn deg
y tu ôl i luoedd dadwahanu.
Ysgol Uwchradd Little Rock (1957)
Ym 1957, pleidleisiodd bwrdd ysgol Little Rock i integreiddio ei system ysgol. Nid oedd disgwyl i‟r
penderfyniad dderbyn llawer o wrthwynebiad oherwydd ystyrid Arkansas yn dalaith weddol
flaengar yn y de. Fodd bynnag, ffrwydrodd argyfwng ar Fedi 4ydd pan alwyd y Gwarchodlu
Cenedlaethol allan gan Orval Faubus, Llywodraethwr Arkansas, i atal Naw (Plentyn) Little Rock
rhag mynychu‟r ysgol uwchradd.
Roedd ei benderfyniad mwy na thebyg wedi‟i symbylu gan resymau gwleidyddol yn hytrach na
rhesymau hiliol. Ym 1956 awgrymodd Faubus y byddai‟n archwilio‟r posibilrwydd o gael Arkansas i
gydymffurfio gyda phenderfyniad Brown. Fodd bynnag, cafodd y syniad yma gryn wrthwynebiad
gan asgell fwyaf ceidwadol Plaid Ddemocrataidd Arkansas, oedd yn rheoli gwleidyddiaeth yn y
dalaith honno ar y pryd. Pe bai Faubus yn cefnogi integreiddio byddai‟n colli cefnogaeth yr asgell
honno o‟r blaid ac efallai‟n cael ei drechu yn y rhagetholiad a oedd ar gyrraedd ym 1958. Felly,
gorchmynnodd Faubus i Warchodlu Cenedlaethol Arkansas i atal y myfyrwyr rhag cael mynediad
i‟r ysgol.
Roedd y weithred hon yn herio gorchmynion y llys Ffederal a dyfarniad Goruchaf Lys yr Unol
Daleithiau yn achos Brown v. Y Bwrdd Addysg (1954) a alwai am ddadwahanu ysgolion
cyhoeddus. Roedd gorchymyn Faubus yn ei osod yn erbyn yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower, a
oedd yn benderfynol o weithredu gorchmynion y llysoedd Ffederal, er nad oedd yn gefnogwr cryf i
fater dadwahanu ysgolion cyhoeddus.
Roedd Eisenhower wedi ffederaleiddio‟r Gwarchodlu Cenedlaethol a‟i gorchymyn i ddychwelyd i‟w
barics. Yna, trefnodd Eisenhower fod elfennau o Adran Awyrennol 101 yn mynd i Little Rock i
amddiffyn y myfyrwyr. Ystyrid gweithrediadau Eisenhower, gan lawer o ddeheuwyr, yn ail
oresgyniad gan filwyr Ffederal. Y canlyniad oedd trais torfol nid yn unig yn erbyn y myfyrwyr ond
hefyd yn erbyn y “goresgynwyr” honedig.
Naw Little Rock o Lyfrgell y Gyngres
Enw‟r degfed myfyriwr yw Jane Hill.
Hi oedd un o‟r Affro-Americanwyr a
fwriadai fynychu „Central High‟ ym
1957 pan ddechreuodd integreiddio.
Fodd bynnag, ar ôl cael ei throi
ymaith gan y Gwarchodlu
Cenedlaethol ar ei diwrnod cyntaf,
penderfynodd drosglwyddo i Ysgol
Uwchradd Horace Mann cyfagos
oedd yn gwbl ddu Eiddo Cyhoeddus
Meddiannu cownteri cinio (1960)
Math o weithred uniongyrchol yw ‘eistedd mewn’ neu ‘eistedd lawr’ sy’n golygu un neu fwy
o bobl yn meddiannu ardal ar gyfer protest, am resymau gwleidyddol, cymdeithasol neu
newid economaidd. Defnyddiwyd meddiannu yn gyntaf gan Mahatma Ghandi a’u helaethu’n
ddiweddarach gan Dr Martin Luther King ac eraill yn ystod Mudiad Hawliau Sifil America.
Wrth feddiannu, mae protestwyr yn eistedd ac yn aros ar eu heistedd tan iddynt gael eu
troi allan, trwy rym fel arfer, neu hyd nes bod eu gofynion wedi’u hateb. Mae meddiannu
wedi bod yn ddull llwyddiannus iawn o brotestio oherwydd eu bod yn achosi ymyrraeth sy’n
tynnu sylw at achos y protestwyr. Mae symud protestwyr trwy rym ac ateb di-drais gyda
thrais, yn aml yn ennyn cydymdeimlad y cyhoedd, gan gynyddu cyfle’r protestwyr i
gyflawni eu targed. Mae meddiannu fel arfer yn digwydd dan do mewn busnesau neu
swyddfeydd llywodraeth.
Roedd meddiannu yn rhan hanfodol o strategaeth di-drais yr anufudd-dod sifil a ddaeth ag
arwahanu hiliol i ben yn yr Unol Daleithiau yn y diwedd. Cynhaliwyd meddiant mor gynnar
в’r 1940au gan Gymdeithas y Cymod a‟r Gyngres dros Gydraddoldeb Hiliol, ond y
meddiannu cyntaf a gafodd gyhoeddusrwydd cenedlaethol oedd yn Woolworth’s yn
Greensboro, Gogledd Carolina, ar Chwefror 1af, 1960 pan eisteddodd pedwar myfyriwr du
o Goleg Amaethyddol a Thechnegol Gogledd Carolina wrth gownter cinio Woolworth’s ar
gyfer bobl wyn, a gwrthod gadael pan wrthodwyd eu gweini. Yn fuan, ymunodd cannoedd
o rai eraill yn y meddiannu cyntaf yma, a barhaodd am fisoedd. Taenodd protestiadau o’r
math yn gyflym ar draws y De, gan arwain, yn y diwedd, i ddadwahanu yn Woolworth’s a
siopau cadwyn eraill. O fewn wythnosau, dechreuodd ymgyrchoedd meddiannu mewn bron
dwsin o ddinasoedd, yn targedu Woolworth's a siopau S.H. Kress yn bennaf. Yn фl pob
tebyg yr un mwyaf trefnus o’r rhain oedd y meddiannu yn Nashville gyda channoedd yn
cymryd rhan ac a arweiniodd at ddadwahanu cownteri cinio Nashville yn llwyddiannus.
Roedd llawer o’r rhai a gymerai ran yn y meddiannu yn fyfyrwyr coleg ac yn hanesyddol
chwaraeodd colegau a phrifysgolion du ran allweddol wrth weithredu’r meddiannu.
Gydag anogaeth myfyrwyr o golegau Wiley a Bishop trefnwyd y meddiannu cyntaf yn
Texas yn rotwnda Llys Sirol Harrison yn Marshall, Texas; symudiad a oedd yn herio’n
uniongyrchol y blaid Dinasyddion Gwyn hynaf yn Texas ac a fyddai’n diweddu gyda
gwrthdroi deddfau Jim Crow yn y dalaith a dadwahanu astudiaethau фl-raddedig yn Texas
gan ddyfarniad Sweatt v. Painter.
Teithiau dros Ryddid (1961)
Cyfres o brotestiadau gwleidyddol myfyrwyr ym 1961 oedd y teithiau dros Ryddid fel rhan
o fudiad hawliau sifil UDA. Roedd myfyrwyr gwirfoddol, Affro-Americanaidd a gwyn, a elwid
yn Deithwyr dros Ryddid yn teithio mewn bysiau rhyngdaleithiol i mewn i daleithiau‟r de
oedd o blaid arwahanu, er mwyn rhoi prawf ar benderfyniad Boynton v. Virginia 364 U.S.
454 gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau ym 1960, a oedd yn gwahardd arwahanu hiliol
mewn cyfleusterau rhyngdaleithiol cyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd bysiau. Trefnwyd y
teithiau gan weithredwyr o‟r Gyngres dros Gydraddoldeb Hiliol (CORE) yn ogystal в
Phwyllgor Cydlynu Myfyrwyr Di-drais (SNCC).
Dilynodd hyn yn dynn ar sodlau protestiadau dramatig yn erbyn arwahanu a gynhaliwyd
gan fyfyrwyr ac ieuenctid trwy Dde‟r U.D. y flwyddyn gynt. Roedd enwau‟r teithwyr yn
cynnwys James L Farmer, William Mahoney, John Lewis, James Zwerg, James Peck,
Frederick Leonard, Diane Nash, a William Sloan Coffin, ymhlith eraill. Mewn gwirionedd nid
oedd y Teithwyr yn cymryd rhan mewn anufudd-dod sifil gan fod ganddynt yr hawl
cyfreithiol amlwg i anwybyddu unrhyw reolau arwahanu yn y taleithiau yr ymwelwyd в hwy
o safbwynt cyfleusterau rhyngdaleithiol cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd yn rhaid i‟r
gwirfoddolwyr barhau i ddefnyddio eu hathrawiaeth o wrthsafiad di-drais wrth wynebu trais
ac arestio torfol gan awdurdodau a oedd yn benderfynol o atal y brotest.
Digwyddodd un o‟r achosion gwaethaf o drais yn Montgomery, Alabama, lle roedd criw
wedi curo rhai teithwyr mor ddrwg roedd ganddynt anafiadau parhaol. Yn y cyfamser,
beirniadwyd y Llywodraeth Ffederal am beidio gwneud ymdrech unedig i ddiogelu‟r
teithwyr. Yn y diwedd, roedd y cyhoeddusrwydd a ddeilliodd o‟r teithiau a‟r ymateb ffyrnig
iddynt wedi arwain at orfodi penderfyniad cynharach y Goruchaf Lys yn llwyr. Enillodd y
gweithredwyr yn yr ymgyrch hygrededd ymhlith y bobl ddu yng nghymunedau gwledig y De,
a oedd yn llawn edmygedd o benderfyniad a dewrder y teithwyr yn wyneb perygl mawr.
Helpodd yr hygrededd hwn lawer o ymgyrchoedd Hawliau Sifil diweddarach, yn cynnwys
ymgyrchoedd cofrestru etholwyr, ysgolion dros ryddid, ac ymgyrchoedd etholiadol.
Roedd un Taith dros Ryddid cyn y rhai enwog; ym 1947, trefnodd Bayard Rustin a George
Houser o Gymdeithas y Cymod a‟r Gyngres dros Gydraddoldeb Hiliol (CORE), Daith dros
Ryddid trwy‟r De yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn dadwahanu‟r bysiau eu hunain (ond
nid y gorsafoedd bysiau) mewn teithiau rhyngdaleithiol. Byddai un teithiwr, James Peck,
hefyd yn cymryd rhan yn nhaith 1961.
Martin Luther King
Roedd y Parchedig Martin Luther
King, yr ieuaf. Ph.D., (Ionawr 15fed,
1929– Ebrill 4ydd, 1968) yn Llawryfol
Nobel, Gweinidog y Bedyddwyr, ac yn
Weithredwr dros Hawliau Sifil Affro-
Americanwyr. Ef yw un o‟r arweinwyr
mwyaf arwyddocaol yn hanes yr Unol
Daleithiau ac yn hanes modern dulliau
di-drais, ac ystyrir ef yn arwr, yn
heddychwr ac yn ferthyr gan lawer o
bobl o amgylch y byd. Degawd a
hanner ar фl ei lofruddiad ym 1968,
sefydlwyd diwrnod o wyliau yn yr Unol
Daleithiau, Diwrnod Martin Luther King,
Dr. Martin Luther King yr ieuaf yn siarad yn yr Orymdaith
Jr. speaking at the Civil Rights er clod iddo.
Hawliau Washington, D.C This image has been ddelwedd
March onSifil ar Washington, D.C Rhyddhawyd y released
hon i eiddo cyhoeddus gan ddaliwr yr holder, its
into the public domain by the copyrighthawlfraint, ei
Ym 1954, daeth King yn weinidog
hawlfraint wedi dod i or is ineligible for copyright.
copyright has expired,ben,itneu’n anghymwys ar gyfer This
applies worldwide. yn berthnasol yn fyd-eang.
hawlfraint. Mae hyn Eglwys Bedyddwyr Dexter Avenue yn
Montgomery, Alabama. Roedd yn
arweinydd Boicot Bysiau Montgomery
1955 a ddechreuodd pan wrthododd
Rosa Parks ufuddhau i ddeddf Jim
Crow a rhyddhau ei sedd i ddyn gwyn. Parhaodd y boicot am 381 diwrnod. Roedd
cymaint o densiwn yn y cyfnod yma fel y cafodd tŷ King ei fomio. Arestiwyd King yn
ystod yr ymgyrch yma, a orffennodd gyda dyfarniad Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau
yn gwahardd Arwahanu Hiliol ar fysiau mewnwladol.
Yn dilyn yr ymgyrch, roedd King в rhan yn sefydlu Cynhadledd Arweiniad Cristnogol
y De (SCLC) ym 1957, grŵp a grлwyd i reoli awdurdod moesol a grym trefniadaeth yr
eglwysi duon i gynnal protestiadau di-drais wrth geisio diwygio hawliau sifil.
Parhaodd King i ddominyddu‟r mudiad hyd ei farwolaeth. Beirniadwyd egwyddorion
di-drais y mudiad gan y duon ifanc, mwy radical a chafodd ei herio gan Bwyllgor
Cydlynu Myfyrwyr Di-drais (SNCC) a‟r pennaeth ar y pryd, James Foreman.
Roedd yr SCLC yn tynnu ei haelodaeth yn bennaf o‟r cymunedau duon oedd yn
gysylltiedig ag eglwysi Bedyddwyr. Roedd King yn gefnogwr i‟r athroniaethau
anufudd-dod sifil di-drais a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus yn India gan Gandhi, a
chymhwysodd yr athroniaeth hon i‟r protestiadau a drefnwyd gan yr SCLC. Deallodd
King yn gywir, y byddai protest di-drais trefnus yn erbyn system hiliol o arwahanu yn
nhaleithiau‟r De, a elwid yn Jim Crow, yn arwain at sylw eang yn y cyfryngau i‟r
ymdrech am gydraddoldeb i‟r duon a hawliau pleidleisio. Yn wir, o ganlyniad i‟r
adroddiadau yn y cyfryngau torfol ynglŷn в‟r gwarth a‟r diffygion dyddiol ym mywydau
duon y de, y trais a‟r aflonyddu ar weithwyr a gorymdeithwyr hawliau sifil, cafwyd ton
gydymdeimladol ymhlith y cyhoedd. Daeth hyn в mater y Mudiad Hawliau Sifil i fod
yn fater pwysicaf yng ngwleidyddiaeth America yn y 1960au cynnar.
Trefnodd ac arweiniodd King orymdeithiau dros hawl y duon i bleidlais, dros
ddadwahanu, dros gyflogi teg, a hawliau sifil sylfaenol eraill. Enillwyd mwyafrif yr
hawliau hyn yn Neddf Hawliau Sifil 1964 a Deddf Hawliau Pleidleisio 1965.
Cymhwysodd King a‟r SCLC egwyddorion protest di-drais yn llwyddiannus iawn drwy
ddewis dulliau a safleoedd y protestiadau‟n ofalus. Weithiau trodd y protestiadau
yma‟n dreisgar. Roedd gan King a‟r SCLC ran yn y mudiad protest aflwyddiannus yn
Albany, ym 1962-1962, pan drechwyd yr ymdrech oherwydd rhaniadau ymhlith y
gymuned ddu ac ymateb llugoer llywodraeth leol, ym mhrotestiadau Birmingham yn
haf 1963 ac ym mhrotest St Augustine, Florida, ym 1964. Ymunodd King a‟r SCLC
в‟r SNCC yn Selma, Alabama, yn Rhagfyr 1964, lle bu‟r SNCC yn gweithio ar fater
cofrestru etholwyr am fisoedd.
Efallai mai ei lwyddiannau mwyaf oedd gorymdeithiau 1965 i Montgomery a
Washington a ddaeth в chyflwr pobl Ddu oedd yn ceisio hawliau sifil yn America i
sylw byd-eang. Parhaodd i weithio dros Hawliau Sifil ac, yn raddol, newidiodd ei
safbwynt a galw am Sosialaeth Ddemocrataidd.
Daeth ei waith i ben ym 1968 gyda‟i lofruddiad gan James Earl Ray.
Ymladdodd
Malcolm X dros
‘Grym y Duon’
Esboniodd yr enw a ddewisodd trwy
ddweud,
"Mae cymryd 'X' rhywun yn golygu
mabwysiadu rhyw ddirgelwch
arbennig, rhyw bosibilrwydd o rym yn
llygaid eich cyfoedion a’ch gelynion
... Roedd yr 'X'; yn cyhoeddi yr hyn
oeddech wedi bod a’r hyn oeddech
wedi dod: cyn-ŵr (Ex-smoker), cyn-
yfwr (Ex-drinker), cyn-gristion (Ex-
Christian), cyn-gaethwas (Ex-slave)."
Roedd yr 'X' a ddewisodd Malcolm
hefyd yn sefyll am gyfenw gwreiddiol
ac anhysbys y caethweision yr oedd
Malcolm X yn ddisgynnydd ohonynt,
yn hytrach na pharhau i ddefnyddio
enw a roddid gan y perchennog
caethweision. Oherwydd y rhesymeg
Malcolm X. Gweler yn at yma dewisodd llawer o aelodau
Malcolm X. Found at
http://lcweb.loc.gov/rr/print/083_afr.html#MalcolmX; llun a
http://lcweb.loc.gov/rr/print/083_afr.html#MalcolmX;
dynnwyd fel gwaith am dвl gan Marion S. Trikosko i „U.S. News
„Cenedl Islam‟ eu cyfenwau eu
& photo Report Magazinefor hire by sydd wedi eiTrikosko
World taken as work Collection‟, Marion S. roi yn eiddo hunain.
cyhoeddus News & World Report Magazine Collection,
for U.S.
(gweler http://lcweb.loc.gov/rr/print/res/078_usnw.html ) Mae‟r
who has donated it into the public domain Cafodd Malcolm X ei eni yn Malcolm
ddelwedd hon o HABS/HAER, sef „Historic American Buildings
(see http://lcweb.loc.gov/rr/print/res/078_usnw.html Little yn Omaha Nebraska. Roedd ei
Survey/Historic American Engineering Record’ casgliad yn
) This y Gyngres.from HABS/HAER, the Historic
Llyfrgell image is dad yn bregethwr lleyg di-flewyn-ar-
American Buildings Survey/Historic American dafod gyda‟r Bedyddwyr ac yn
Engineering Record collection at the Library of gefnogwr i Marcus Garvey, a chredir
Congress. iddo gael ei ladd gan grŵp
goruchafiaethol gwyn ym 1931.
Gwahanwyd Malcolm a‟i frodyr a‟i
chwiorydd a‟u hanfon i gartrefi maeth gwahanol.
Graddiodd Malcolm o‟i ysgol uwchradd iau yn ben ar ei ddosbarth, ond rhoddodd y gorau iddi
pan chwalwyd ei freuddwyd o fod yn gyfreithiwr pan ddywedodd ei hoff athro wrtho fod y
syniad "ddim yn nod realistig i ddyn du". Ar фl dioddef cyfres o gartrefi maeth, anfonwyd
Malcolm yn gyntaf i ganolfan gadw ac yna symudodd i Boston i fyw gyda‟i hanner chwaer
hŷn, Ella Little Collins. Ar фl peth amser, symudodd i Efrog Newydd, lle daeth yn gysylltiedig
в "thwyllo"; roedd e hefyd wedi esgus bod yn wallgof er mwyn osgoi drafft yr Ail Ryfel Byd.
Tra yng ngharchar ym 1948, derbyniodd lythyrau oddi wrth ei frawd Reginald, yn gofyn iddo
ymuno в „Cenedl Islam‟. Roedd „Cenedl Islam‟ yn diffinio‟i hunan fel sect Islamaidd
milwriaethus a oedd yn pregethu fod mwyafrif caethweision Affrica yn Foslemiaid cyn iddynt
gael eu dal a‟u hanfon i‟r Amerig. Dadleuent y dylai‟r Duon newid yn фl i Islam er mwyn adfer
yr etifeddiaeth a ddygwyd oddi arnynt. Roedd „Cenedl Islam‟ yn ystyried ei hun yn grŵp
cenedlaethol du a oedd yn gefnogol i‟r syniad o genedl Ddu ar wahвn o fewn yr Unol
Daleithiau. Mae „Cenedl Islam‟ hefyd yn ystyried pawb sydd ddim yn Ddu yn llai na dynol.
Astudiodd Malcolm weithiau sefydlydd „Cenedl Islam‟, Elijah Muhammad, yn ddiwyd, gan
ddod yn ddarllenwr brwd a darganfu gyfiawnhad o gredoau „Cenedl Islam‟ mewn hanes ac
athroniaeth. Bu‟n llythyru в Muhammad yn ddyddiol a gwellodd ei wybodaeth a‟i lenydda drwy
gopпo‟r geiriadur. Wedi ei ryddhau ar barфl ym 1952 prynodd gкs dillad, sbectol, ac oriawr,
gan ddweud yn ddiweddarach mai‟r eitemau yma a ddefnyddiai amlaf yn ei fywyd diweddar.
Ar ôl ei ryddhau ym 1952 y mabwysiadodd yr „X‟, gwrthodiad o‟i gefndir fel caethwas a‟i
etifeddiaeth Moslemaidd a ddygwyd oddi arno. Ym mis Mawrth 1953 agorwyd ffeil arno gan yr
FBI. Penderfynon nhw fod ganddo bersonoliaeth cymdeithasol math A ac ansefydlogrwydd
meddyliol posibl.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gadawodd Malcolm ei hanner chwaer Ella yn Boston i
fynd i aros gydag Elijah Muhammad yn Chicago. Dychwelodd yn fuan i Boston a daeth yn
Weinidog ar Deml Rhif Un ar ddeg „Cenedl Islam‟. Agorodd nifer o demlau ac arweiniodd ei
areithio tanbaid a‟i esiampl personol glвn ei hun at dwf buan „Cenedl Islam‟, gyda‟r aelodaeth
yn cynyddu o 500 ym 1952 i 30,000 ym 1963.
Cyfeiriodd at orymdaith Martin Luther King ar Washington fel gorymdaith
"yn cael ei chynnal gan wynion o flaen cerflun o arlywydd a fu farw gan mlynedd yn фl ag
oedd ddim yn hoff ohonom pan oedd yn fyw ."
Wedi sylwadau cythruddol pellach ar farwolaeth Arlywydd Kennedy fe‟i gorchmynwyd i beidio
siarad yn gyhoeddus am 90 diwrnod. O dan feirniadaeth gynyddol a chenfigen cyhoeddodd ei
fod yn gadael „Cenedl Islam‟, a sefydlu Mosg Moslemaidd Corfforedig ym 1964. Yr adeg yma,
roedd Malcolm yn dal i gadw at athrawiaeth Cenedl Islam. Ym mis Ebrill, traddododd yr araith
enwog Ballot neu Bullet. Teithiodd nifer o weithiau i‟r Affrig a‟r Dwyrain Canol er mwyn cael
profiad uniongyrchol o athrawiaeth Islam.
Ar 14 Chwefror, 1965, ymosodwyd ar ei gartref yn ninas Efrog Newydd gyda bom tвn.
Goroesodd Malcolm a‟i deulu. Dywed rhai mai aelodau Cenedl Islam oedd yn gyfrifol. Ni
chyhuddwyd unrhyw un o‟r drosedd. Wythnos yn ddiweddarach roedd Malcolm newydd
ddechrau traddodi araith pan ddechreuodd aflonyddwch yn y dorf o 400. Rhuthrodd dyn du
ymlaen a saethu Malcolm yn ei frest. Yn fuan, rhuthrodd dau ddyn arall at y llwyfan a thanio
llawddrylliau at Malcolm. Roedd Malcolm X wedi marw, yn 39 oed. Y gred gyffredinol yw iddo
gael ei lofruddio gan Cenedl Islam.
Ymladdodd Stokely Carmichael dros ‘Grym y Duon’
Roedd Stokely Carmichael (1941-1998), a adwaenir hefyd fel Kwame Ture, yn weithredwr du o
Drinidad ac yn arweinydd Pwyllgor Cydlynu Myfyrwyr Di-drais a‟r Blaid „Black Panther‟. Yn
ddiweddarach daeth yn ymwahanwr Du ac yn holl-Affricanydd.
Yn y brifysgol ymunodd Carmichael в Phwyllgor Cydlynu Myfyrwyr Di-drais (SNCC). Yn ei
flwyddyn gyntaf yn y brifysgol cymerodd ran yn Nheithiau dros Ryddid y Gyngres dros
Gydraddoldeb Hiliol (CORE), cael ei arestio a threulio amser yng ngharchar. Byddai‟n cael ei
arestio lawer gwaith, gan golli cyfrif ar фl 32 o weithiau.
Daeth yn gadeirydd yr SNCC ym 1966, gan olynu John Lewis. Ychydig wythnosau wedi i
Carmichael ddod yn gadeirydd yr SNCC, saethwyd James Meredith gan saethwr cudd yn ystod ei
Orymdaith unig yn erbyn Ofn. Ymunodd Carmichael в King, Floyd McKissick ac eraill, i barhau
gorymdaith Meredith. Cafodd ei arestio yn ystod yr orymdaith yma; ar ei ryddhad traddododd ei
araith "Grym y Duon", gan ddefnyddio‟r ymadrodd hwnnw i annog balchder ac annibynniaeth
ymhlith y Duon:
Mae‟n alwad i Dduon y wlad hon i uno, i gydnabod eu hetifeddiaeth, i
adeiladu teimlad o gymuned. Mae‟n alwad i bobl Ddu ddiffinio eu nodau eu
hunain, i arwain eu mudiadau eu hunain.
Nid oedd „Grym y Duon‟ yn gysyniad newydd, ond daeth i amlygrwydd gydag araith Carmichael a
dod yn alwad i uno i Affro-Americanwyr ifanc ar draws y wlad. Manteisiodd yr SNCC ar y
weledigaeth newydd yma ac aeth yn raddol fwy radical dan arweiniad Carmichael.
Gwelai Carmichael ddulliau di-drais fel tacteg yn hytrach nag egwyddor, a oedd yn ei wneud yn
wahanol i arweinwyr hawliau sifil cymedrol fel Martin Luther King. Roedd yn feirniadol o arweinwyr
hawliau sifil a alwai am integreiddio Affro-Americanwyr i mewn i sefydliadau diwylliannol gwyn,
dosbarth canol a fodolai yn barod. Teimlai Carmichael nad oedd hyn yn realistig a‟i fod yn sarhad i
ddiwylliant a hunaniaeth Affro-Americanwyr.
Ym 1967, rhoddodd Carmichael y gorau i arweinyddiaeth yr SNCC. Gyda Charles V. Hamilton
ysgrifennodd y llyfr, „Black Power’. Ymunodd в phlaid y „Black Panthers‟ a dod yn feirniad llym o
Ryfel Fietnam. Teithiodd i Ogledd Fietnam, Tsieina, a Ciwba. Gwnaed Carmichael yn brif weinidog
anrhydeddus o‟r „Black Panthers‟ ym 1968.
Ym 1969, symudodd Carmichael a‟i wraig i Guinea, yng Ngorllewin Africa, a daeth yn gynorthwywr
i brif weinidog Guinea. Yno, ym 1971, ysgrifennodd y llyfr, „Stokely Speaks: Black Power Back to
Pan-Africanism’.
Mae gan y ddelwedd hon wybodaeth parthed ei ffynhonnell, fodd bynnag
ni cheir gwybodaeth am ei statws hawlfraint. Gall fod yn ddefnyddiadwy
dan ddefnydd teg ond mae hyn eto i’w gadarnhau. Gall fod yn eiddo
cyhoeddus neu dan drwydded sy’n gydnaws в’r GNU FDL. I’r llwythwr:
Rhoddwch wybodaeth trwyddedu cyn gynted в phosibl os gwelwch yn
dda. Gall delweddau heb y wybodaeth yma gael eu dileu yn y dyfodol.
http://www.marxists.org/history/usa/workers/black-
panthers/pics/carmichael.jpg
Gorymdeithiau Selma a Washington 1965
Gorymdaith Selma
Ceisiodd King a Chynhadledd Arweiniad Cristnogol y De (SCLC) a Phwyllgor Cydlynu Myfyrwyr Di-drais
(SNCC) drefnu gorymdaith o Selma i Montgomery ar gyfer Mawrth 25ain 1965. Ceisiwyd cynnal yr
orymdaith yn gyntaf heb MLK ar y 7fed ond rhoddwyd y gorau i hyn oherwydd gwrthwynebiad cryf lleol a
gwrthwynebiad o du‟r heddlu. Ers hynny gelwir y diwrnod hwn yn Sul y Gwaed. Roedd Sul y Gwaed yn
drobwynt pwysig yn yr ymdrech i ennill cefnogaeth y cyhoedd i‟r Mudiad Hawliau Sifil. Arweiniwyd
gorymdaith o 600 o bobl gan Hosea Williams o‟r SCLC a John Lewis o‟r SNCC. Fodd bynnag, chwe stryd
yn unig i mewn i‟r orymdaith, ymosodwyd ar y protestwyr gyda phastynau, nwy dagrau, tiwbiau rwber wedi‟u
lapio mewn weiren bigog a chwipiau, gan yrru‟r orymdaith yn фl i Selma. Cafodd John Lewis ei fwrw‟n
anymwybodol ac aeth eraill i ysbyty. Cafodd ffilm o greulondeb yr heddlu yn erbyn y protestwyr ei
darlledu‟n eang a chrлwyd teimlad o warth cyhoeddus.
Roedd darllediad cenedlaethol yn dangos dynion y gyfraith yn ymosod ar orymdeithwyr ufudd wedi ennyn
ymateb cenedlaethol. Traddodwyd anerchiad teledu gan Johnson i‟r Gyngres wyth niwrnod ar фl yr
orymdaith gyntaf, yn cefnogi‟r bil hawliau pleidleisio a anfonodd i‟r Gyngres.
Yn yr araith dywedodd Johnson:
“Eu hachos nhw yw ein hachos ni hefyd. Oherwydd nid y Negroaid yn unig sy‟n gorfod goresgyn yr
etifeddiaeth niweidiol o ragfarn ac anghyfiawnder ond pob un ohonom. Ac fe wnawn ni oresgyn.”
Gwnaed ail ymdrech i gael gorymdaith ar 9fed Mawrth ond rhoddwyd y gorau i„r ymdrech yma hefyd. Aeth
yr orymdaith yn ei blaen yn llawn ar 25ain Mawrth, gyda chytundeb a chefnogaeth yr Arlywydd Johnson, ac
yn ystod yr orymdaith hon y bathodd Willie Ricks y dywediad "Grym y Duon".
Gorymdaith Washington
Ar y dechrau gwrthwynebodd yr Arlywydd Kennedy yr orymdaith oherwydd ei fod yn gofidio y byddai‟n
niweido‟r ymgyrch dros ddeddfwriaeth hawliau sifil, ond roedd y trefnwyr yn argyhoeddedig y dylai‟r
orymdaith fynd yn ei blaen.
Bwriad gwreiddiol yr orymdaith oedd tynnu sylw at gyflwr enbydus y duon yn y De a gosod pryderon a
chwynion gerbron yr awdurdodau ym mhrifddinas y genedl. Bwriadai‟r trefnwyr herio‟r llywodraeth ffederal
am ei methiant i ddiogelu hawliau sifil a diogelwch bobl ddu a gweithwyr hawliau sifil, yn gyffredinol, yn y De.
Fodd bynnag, plygodd y prif brotestwyr i bwysau arlywyddol a chymedroli eu hagenda.
O ganlyniad, credai rhai gweithredwyr hawliau sifil fod yr orymdaith yn rhoi darlun anghywir o gytundeb
hiliol; galwodd Malcolm X ef yn "Ffars ar Washington," ac roedd aelodau o „Cenedl Islam‟ a fynychodd yr
orymdaith yn wynebu gwaharddiad dros dro.
Gofynion y gorymdeithwyr oedd:
1. terfyn ar arwahanu hiliol mewn ysgolion cyhoeddus
2. deddfwriaeth hawliau sifil ystyrlon, yn cynnwys deddf yn gwahardd anffafriaeth hiliol mewn gwaith;
3. diogelu gweithwyr hawliau sifil rhag creulondeb yr heddlu;
4. lleiafswm cyflog $2 i bob gweithiwr
5. hunanlywodraeth i Ranbarth Columbia
Er gwaethaf y tensiynau, roedd yr orymdaith yn llwyddiant ysgubol. Mynychwyd y digwyddiad gan fwy na
chwarter miliwn o bobl o gefndir ethnig gwahanol. Ar y pryd, dyma‟r casgliad mwyaf o brotestwyr yn hanes
Washington. Cynhyrfwyd y dorf gan yr araith “Mae gen i freuddwyd” gan King. Ystyrir hi yn un o areithiau
gorau yn hanes areithio America.
Deddf Hawliau Sifil yn gwahardd gwahaniaethu (1964)
Roedd Deddf Hawliau Sifil 1964 yn yr Unol Daleithiau yn ddeddfwriaeth o bwys. Bwriad
gwreiddiol y Bil oedd diogelu dynion du rhag anffafriaeth mewn gwaith (ac anffafriaeth eraill), ond
mewn ymgais i ladd y bil, fe‟i ehangwyd ar y funud olaf i gynnwys diogelwch ar gyfer menywod. O
ganlyniad daeth i ffurfio ysgogiad gwleidyddol i ffeministiaeth.
Trawsffurfiwyd cymdeithas America gan DHS 1964. Roedd yn gwahardd anffafriaeth mewn
cyfleusterau cyhoeddus, mewn llywodraeth a chyflogaeth.
Mae‟r datganiad syml hwn yn dweud llai mewn gwirionedd am y newid mawr a ddigwyddodd i
gymdeithas America o ganlyniad i‟r Ddeddf. Diddymwyd deddfau Jim Crow yn y De, ac roedd yn
anghyfreithlon gorfodi arwahanu‟r hiliau mewn ysgolion, wrth gartrefu, neu wrth gyflogi. Er bod
pwerau gweithredu‟r ddeddf yn wan ar y dechrau, tyfasant dros y blynydoedd, a gwnaed rhaglenni
diweddarach, megis gweithredu cadarnhaol, yn bosibl gan y Ddeddf Hawliau Sifil.
1. Gwahardd ceisiadau o ofynion cofrestru etholwyr anghyfartal, ond ni ddiddymwyd profion
llythrennedd a ddefnyddiwyd weithiau i wahardd Affro-Americanwyr ac etholwyr gwyn, tlawd.
Gwaharddwyd anffafriaeth mewn gwestai, motelau, tai bwyta, theatrau, a phob llety cyhoeddus arall
yn ymwneud в masnach rhyngdaleithiol; eithriwyd clybiau preifat heb ddiffinio "preifat," a thrwy hynny
ganiatбu man gwan.
2. Anogwyd dadwahanu ysgolion cyhoeddus ac awdurdodwyd Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau i
ddwyn achosion i orfodi dadwahanu, ond ni awdurdodwyd cludiant fel cyfrwng i oresgyn arwahanu yn
seiliedig ar gartrefi.
3. Awdurdodwyd, ond nid oedd yn ofynnol, i dynnu cronfeydd arian ffederal o raglenni oedd yn ymarfer
anffafrio.
4. Gwaharddwyd anffafriaeth o safbwynt cyflogaeth mewn unrhyw fusnes ar sail hil, tarddiad cenedl,
rhyw, na chrefydd. Roedd Teitl VII hefyd yn gwahardd dial yn erbyn gweithwyr a oedd yn gwrthwynebu
anffafriaeth anghyfreithlon o‟r fath. Gweithredwyd hyn gan y Comisiwn dros Gyfleoedd Cyflogaeth Cydradd
(EEOC).
Rhannwyd y ddwy blaid wleidyddol gan y bil gan achosi newid tymor hir demograffig y ddwy.
Sylweddolodd Arlywydd Lyndon Johnson y byddai cefnogi‟r bil hwn yn golygu colli mwyafrif llethol
y Blaid Ddemocrataidd yn y De (digwyddodd hynny gyda rhai eithriadau). Ar ôl i‟r Democratiaid
arwain ymgyrch 83 diwrnod o blaid y bil, gyda seneddwr Gorllewin Virginia, Robert Byrd, yn siarad
yn ddi-dor am fwy na 14 awr , pleidleisiodd y ddwy blaid yn llethol o blaid y Ddeddf, gan sicrhau ei
hynt. Un eithriad hynod oedd y seneddwr Barry Goldwater o Arizona, a bleidleisiodd yn erbyn y bil,
gan ddatgan "allwch chi ddim deddfu ynglŷn в moesoldeb". Rhai eithriadau hynod eraill oedd
seneddwr Tennessee Albert Gore yr hynaf a seneddwr Arkansas J William Fulbright. Arwyddodd yr
Arlywydd Johnson y bil yn gyfraith ar Orffennaf 2il, 1964. Aeth Goldwater ymlaen i sicrhau
enwebiad ei blaid ar gyfer yr arlywyddiaeth, ac yn yr etholiad a ddilynodd enillodd Goldwater ei
dalaith ei hun, Arizona a phump o daleithiau‟r De Eithaf – 4 ohonynt heb bleidleisio i‟r
Gweriniaethwyr ers etholiad 1876. Dyma oedd dechrau‟r diwedd i‟r De Unedig.
Mae’r ddelwedd hon yn waith gweithiwr yn swyddfa
gweithredol Arlywydd yr Unol Daleithiau, a gymerwyd neu
a wnaed yn ystod dyletswyddau swyddogol y person. Fel
gwaith Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau, mae’r
ddelwedd yn eiddo cyhoeddus.
Rhoddodd y Ddeddf Hawliau Pleidleisio y bleidlais i Affro-
Americanwyr (1965)
Arwyddodd Johnson y Ddeddf Hawliau Pleidleisio ar Awst 6ed. Roedd Deddf
1965 yn gwahardd profion llythrennedd a phrofion eraill i etholwyr ac yn caniatбu’r
awdurdodau ffederal i oruchwylio cofrestri etholwyr mewn taleithiau a rhanbarthau
ethol unigol lle roedd profion o’r math yn cael eu defnyddio. O’r diwedd, roedd gan
Affro-Americanwyr, a oedd wedi eu gwahardd rhag cofrestru i bleidleisio, ddewis arall
yn hytrach na mynd i’r llysoedd. Os digwyddai anffafriaeth wrth bleidleisio, roedd
Deddf 1965 yn awdurdodi’r Twrnai Cyffredinol i anfon archwilwyr i gymryd lle
cofrestrwyr lleol.
O fewn misoedd i gychwyn y daith ar Awst 6, 1965, cofrestrwyd chwarter miliwn o
etholwyr du newydd, trydydd ohonynt gan archwilwyr ffederal. O fewn pedair
blynedd, roedd cofrestru etholwyr wedi mwy na dyblu yn y De. Ym 1965, gan
Mississippi oedd y nifer fwyaf o bleidleiswyr du--74%--ac yn arwain y wlad gyda’r
nifer o arweinwyr du a etholwyd. Ym 1969, roedd gan Tennessee 92.1% o
bleidleiswyr; Arkansas, 77.9%; a Texas, 73.1%.
Roedd ennill yr hawl i bleidleisio wedi newid tirlun gwleidyddol y De. Pan basiodd y
Gyngres y Ddeddf Hawliau Pleidleisio, prin 100 o Affro-Americanwyr oedd yn dal
swyddi etholiadol yn UDA.; erbyn 1989 roedd mwy na 7,200, yn cynnwys mwy na
4,800 yn y De.
Darlun swyddogol o
Lyndon B. Johnson
(eiddo cyhoeddus)
Ffynhonnell: Llyfrgell
LBJ
Llun gan: Yoichi R.
Okamoto
Dyddiad: 9.Ionawr
1969
Grym y Duon
Poblogeiddiwyd y siant "Grym y Duon" yn yr Unol Daleithiau gan Willie Ricks (a elwir
nawr yn Mukasa) yn y 1960au. Gweithiai Willie Ricks fel trefnydd a gweithredwr i
Bwyllgor Cydlynu Myfyrwyr Di-drais (SNCC).
Daeth Grym y Duon i fodolaeth yn yr Unol Daleithiau yn ystod Mudiad Hawliau Sifil
yn y 1960au. Roedd llawer o aelodau’r SNCC yn dechrau beirniadu’r arweiniad a
fynegwyd gan Martin Luther King yr ieuaf., ymhlith eraill, a oedd yn argymell
gwrthwynebiad di-drais i hiliaeth, a dadwahanu fel y nod eithaf . Credai aelodau’r
SNCC y byddai duon yn yr Unol Daleithiau yn cael eu dominyddu gan y gwynion cyn
belled в’u bod yn ddinasyddion mewn gwlad gyda mwyafrif y boblogaeth yn wyn.
Oherwydd hyn, mabwysiadodd yr SNCC yr egwyddor o hunanbenderfyniad (h.y.
Grym y Duon, yn achos pobl ddu).
Gwelodd yr SNCC hefyd nad oedd rhai hilyddion gwyn yn poeni dim am ddefnyddio
trais yn erbyn duon na fyddai’n "aros yn eu lle" yn yr Unol Daleithiau a bod
strategaethau Hawliau Sifil cymedrol yn methu sicrhau consesiynau digonol i’r duon.
O ganlyniad, fel yr вi amser ymlaen, roedd grwpiau gydag islais treisgar, mwy
radical, (a welir orau yn y ‘Black Panthers’) yn dwysбu ac yn dechrau herio rheolaeth
y gwynion mewn modd mwy ymosodol.
Enillodd Willie Ricks gefnogaeth miloedd, bob tro y siaradai в thorf o Africanwyr
dosbarth gweithiol, a siantio "Grym y Duon" — ond fel roedd y syniad hwnnw’n dod
yn gryf ymhlith y werin, a wynebai realiti rhyfela dyddiol yn eu herbyn a’u
cymunedau, roedd Martin Luther King yn parhau i ymgyrchu am yr hyn a alwai’n
"grym integredig."
Logo‟r Blaid „Black
Panther‟
Mae statws hawlfraint y gwaith hwn yn anodd neu’n amhosibl ei bennu. Mae’r unigolyn a
lwythodd y gwaith hwn i fyny ac a’i defnyddiodd gyntaf mewn erthygl, a phersonau
diweddarach sy’n ei osod mewn erthyglau yn datgan os yw’r gwaith yn wir dan hawlfraint,
fod hyn yn ddefnydd teg o’r deunydd dan ddeddf hawlfraint yr Unol Daleithiau. Cafwyd o
wikipedia.com