3b Arian yr 21ain ganrif –
canllawiau i deithwyr amser
Mae’r bobl o Oes y Cerrig yn ôl eto, ac mae ganddyn
nhw broblem.Y tro yma maen nhw yn yr 21ain ganrif
a does ganddyn nhw ddim syniad am arian modern.
Eich tasg chi yw llunio taflen yn esbonio sut mae arian heddiw
yn gweithio a beth ellir ei wneud ag ef.
Atebwch y cwestiynau hyn i’ch helpu i gynllunio beth i’w roi yn
eich taflen. Mae rhai cliwiau wedi’u cynnwys i’ch helpu chi.
1. Pam mae angen arian?
(Cliw – rhowch enghreifftiau o beth allwn ni ei
wneud gydag arian.)
4. Sut all arian ‘dyfu’?
(Cliw – eglurwch sut mae cadw arian yn y banc
yn ennill llog.)
2. Sut mae arian yr 21ain ganrif wedi
datrys problemau’r gorffennol?
(Cliw – edrychwch ar gerdyn Gwybodaeth 2a i
weld pam mae arian cyfred yn gweithio.)
5. Sut all y bobl o Oes y Cerrig sydd wedi
ˆ
teithio drwy amser fod yn siwr fod papurau
arian Banc Lloegr yn rhai go iawn?
(Cliw – eglurwch pam rydyn ni’n ymddiried ym
mhapurau arian Banc Lloegr a pham y maen
nhw’n anodd i’w copïo.)
3. Sut mae technoleg newydd wedi’n helpu
ni i ganfod ffyrdd cyflymach a haws o
drafod ein harian?
(Cliw – eglurwch am beiriannau twll yn y wal,
arian electronig a llyfrau sieciau.)
PUNNOEDD a cheiniogau
Wedi ichi gasglu’ch syniadau at ei gilydd,
gallwch ddechrau ysgrifennu eich taflen.
CERDYN GWEITHGAREDD