Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 108
Key Language
byth (to intensify the comparative adjective)
chwaith
unig
New Words
Beth yw’r ots? What does it matter?
trafod to discuss
osgoi to avoid
wynebu to face up to
balchach byth even more pleased
nefoedd yr adar! heavens above!; literally birds’ heaven
tan until
angladd a funeral
echnos the night before last
ysgaru to divorce
tipyn o oed/oedran a good age; literally a bit of an age
cynnig an offer
yn nes ymlaen later on
amlosgfa a crematorium
sylweddoli to realise
sbel a while
twym (SW) hot
parhaol permanent
pwt o wyliau a short holiday
mynwent a cemetery
claddu to bury
gwasanaeth a service
gorau glas level best; literally blue best
gwerthfawrogi to appreciate
cyfamser meantime
cofio at to give regards to; literally to remember (someone) to
cyrn horns (plural of corn)
ffwdan trouble
nerfus nervous
bwriadu to intend
pob un dim every single thing
trafferthion troubles
trefniadau arrangements
gorfod to be obliged, to have to
hawl a right
tarfu ar to disturb
dianc to escape
gynnau a short while ago
Wendy and Brian are both so stressed at the moment that it’s ruining their already strained
relationship. After a quarrel over breakfast, Wendy phones Brian to apologise.
Wendy - Dw i jest eisiau...About me screaming at you before you left the house just now...Well...Dw i
eisiau dweud fy mod i’n sori...Dw i’n really sori O.K.?
Brian, however, turns to Michelle for comfort. He also confides in her that he intends to help Chris
escape from the psychiatric unit again, in spite of the risk, so that he can help him sort Jac out.
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 1
Brian - Dwyt ti ddim yn meddwl fod honno yn risg gwerth ei chymryd? Yn enwedig os ydw i’n cael
gwared o Jac Whelan unwaith ac am byth?
Main Grammatical Points
When Brian tells Wendy she’ll be even more pleased to see how he’s solved his problem, he says
Brian - A fyddi di’n falchach byth o weld beth wnaf i hefyd.
You’ll have come across byth with the meaning - ‘ever or never’. But byth can also be used to
intensify the meaning of a comparative adjective. So, balchach byth means ‘even more pleased’ or
‘ever so much more pleased’.
Here are some other examples
gwell byth which means ‘even better or ‘better than ever’
gwaeth byth which means ‘even worse ’ or ‘worse than ever’.
When Jenny realises that Brian hadn’t heard the news of Arwyn’s mother’s death she says: ‘Dwyt ti
ddim wedi clywed chwaith...’
‘Chwaith’ is used instead of ‘hefyd’ for negative statements.
So you’d say ‘Rwyt ti wedi wedi clywed hefyd’ for ‘You’ve heard too’ but ‘Dwyt t i ddim wedi clywed
chwaith’ for ‘You haven’t heard either’.
Listen to some other examples here:
Mae hi’n dod hefyd - She’s coming too
but
Dydy hi ddim yn dod chwaith - she’s not coming either
Dw i’n mynd hefyd - I’m going too
but
Dydw i ddim yn mynd chwaith - I’m not going either.
Jenny tells Brian that Arwyn’s an only child.
In Welsh you’d say he’s an unig blentyn.
Unig is one of the few adjectives in Welsh which comes before the noun.
Other examples are hen lyfr - an old book, prif ddinas - the chief city or the capital, hoff le - favourite
place. If unig follows the noun, it means ‘lonely’.
Remember this Welsh phrase: ‘Mae unig blentyn yn blentyn unig’ - An only child is a lonely child.
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 2
Catchphrase Ysbyty Brynaber: Episode 321
Arwyn’s back from Nairobi for a rather sombre reason.
Brian tells Michelle that Chris has agreed to help him sort Jac out, but she’s obviously worried.
Meanwhile Brian and Wendy are still at loggerheads.
Geirfa
Beth yw’r ots? What does it matter?
trafod to discuss
osgoi to avoid
wynebu to face up to
balchach byth even more pleased
nefoedd yr adar! heavens above!; literally birds’ heaven
tan until
angladd a funeral
echnos the night before last
ysgaru to divorce
tipyn o oedran a good age; literally a bit of an age
cynnig an offer
yn nes ymlaen later on
amlosgfa a crematorium
sylweddoli to realise
Golygfa 1
Wendy - Gweld Chris?
Brian - Ie.
Wendy - Beth? Heddiw?
Brian - Y bore yma.
Wendy - Pam? I beth wyt ti eisiau gweld Chris?
Brian - I weld sut mae o...
Wendy - Beth yw’r ots sut mae e? He’s a nutter. Leave him well alone. You’ve got much
more important things to think about like putting this house on the market...
Wyt ti’n fy nghlywed i, Brian?
Brian - Ydw.
Wendy - Wel?
Brian - Wel, beth?
Wendy - What are you going to do about it? Mmmm?
Brian - Does gen i ddim eisiau trafod hyn. Ddim y bore yma...
Wendy - Wyt ti jest yn gwrthod derbyn sut dw i’n teimlo...You just don’t want to face up to the fact
that I am seriously unhappy...
Brian - Dw i’n deall hynny...
Wendy - Os wyt ti’n deall, pam na wnei di rywbeth ‘bytu’r peth?
Brian - Dw i’n gorfod mynd...
Wendy - That’s you all over, Brian. That’s you all over right...Wastad yn dewis osgoi wynebu
problemau...
Brian - Na. Dydy hynny ddim yn wir. Dydy hynny ddim yn wir o gwbl...Achos wynebu fy
mhroblemau ydy’r hyn dw i’n hollol benderfynol o’i wneud y tro yma...
Wendy - Dw i’n falch o glywed...
Brian - A fyddi di’n falchach byth o weld beth wnaf i hefyd.
Golygfa 2
Arwyn - Bore da...
Jenny - Nefoedd yr adar! Arwyn! Beth wyt ti’n ei wneud yn y fan hyn?
Arwyn - Dw i’n ôl o Nairobi...
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 3
Jenny - Ers pryd?
Arwyn - Ers neithiwr. Cyrhaeddais i Stansted am wyth...
Jenny - Am faint wyt ti’n bwriadu aros?
Arwyn - Tan ar ôl yr angladd.
Jenny - Angladd? Pa angladd? Am beth wyt ti’n sôn?
Arwyn - So ti wedi clywed?
Jenny - Naddo...Clywed beth?
Arwyn - Mi wnaeth mam farw yn ei chwsg...
Jenny - O, mae’n ddrwg gen i glywed...Pryd?
Arwyn - Echnos...
Jenny - Pam na fuasai staff y Cartref Hen Bobl wedi cysylltu efo fi i ddweud?
Arwyn - Sa i’n gwybod...Am ein bod ni wedi ysgaru efallai...
Jenny - Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am hyn, Arwyn.
Arwyn - A fi. Ond cofia di, roedd mam mewn tipyn o oedran onid oedd hi?
Jenny - Oedd. Mae hynny’n ddigon gwir...
Arwyn - A rydyn ni i gyd yn gorfod mynd rywbryd...
Jenny - Ar fy ffordd i’r gwaith ydw i...Ond fuasech chdi yn leicio dod i mewn i’r fflat am funud?
Arwyn - Diolch am y cynnig. Rwyt ti’n garedig iawn, ond yn anffodus, mae cant a mil o bethau gyda fi
i’w gwneud...
Jenny - Beth am inni gyfarfod yn nes ymlaen?
Arwyn - Ie...Byddai hynny’n hyfryd.
Jenny - Pryd yn union fydd yr angladd ei hun?
Arwyn - Prynhawn dydd Llun. Yn yr amlosgfa...
Golygfa 3
Michelle - A beth arall ddywedodd e?
Brian - Ddim lot mwy...
Michelle - Dacw ti...
Brian - Diolch.
Michelle - Ond oedd...beth dw i’n treal ei ddweud yw...What I’m trying to say is...did Chris
understand - really understand - what you were getting at?
Brian - Dw i’n meddwl ei fod o...
Michelle - Seriously?
Brian - Mmmm-hmmm.
Michelle - Brian...Wyt ti’n ffaelu...You can’t allow for any misunderstanding here...This is a
very dangerous situation...What you’re asking Chris to do is serious stuff...
Brian - Wyt ti’n meddwl fy mod i heb sylweddoli hynny?
Michelle - Beth sy’n becso fi o hyd yw Chris...
Brian - Does dim eisiau i chdi boeni. Ar ôl y bore yma, mae Chris a fi yn deall ein gilydd...
Michelle - Gobitho eich bod chi.
Brian - Mi ydyn ni...
Michelle - Because the last thing you would want is for Chris to double-cross you...
Brian - Wneith o ddim.
Michelle - Rwyt ti’n gobeithio.
Brian - Mae Chris wedi cytuno i fy helpu i.
Michelle - It’s all go, then?
Brian - Ydy. All systems go.
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 4
Catchphrase Ysbyty Brynaber: Episode 322
Jenny tells Brian the sad news that Arwyn’s mother has died.
Meanwhile Arwyn calls to see Wendy and asks to see baby Frank. Why this sudden interest in
babies?
Arwyn also visits the Yacht Club, much to Michelle’s delight.
Geirfa
sbel a while
twym (SW) hot
parhaol permanent
pwt o wyliau a short holiday
mynwent a cemetery
claddu to bury
gwasanaeth a service
gorau glas level best; literally blue best
gwerthfawrogi to appreciate
cyfamser meantime
cofio at to give regards to; literally to remember (someone) to
cyrn horns (plural of corn)
ffwdan trouble
Golygfa 1
Arwyn - ...Shop? Shop! Oes rhywun yn serfio yma heddiw ynteu?
Michelle - Arwyn!
Arwyn - Michelle - pa hwyl sydd ynteu?
Michelle - Wyt ti’n ôl?!
Arwyn - Dim ond am sbel fach...Sut wyt ti’n cadw?
Michelle - So-so. Good, rwyt ti’n edrych yn grêt...Edrycha ar liw dy groen di...Lovely tan...
Arwyn - Mae hi bach yn dwym mas yn Affrica yna...
Michelle - This is amazing! Seeing you standing here again! It’s as if you’ve never been away!
Arwyn - Does dim lot wedi newid yn yr hen Yacht Club yma...
Michelle - Na, dim...Your usual?
Arwyn - Ie. Pam lai? G + T os gweli di’n dda...
Michelle - Dw i’n ffaelu credu fy llygaid! Allaf i dy dwtsiad ti? Jest i wneud yn siwr nad ydyw i ddim yn
dychmygu hyn?
Arwyn - Dere inni ysgwyd llaw...
Michelle - Dere i fi roi cusan i ti...
Arwyn - Rwyt ti’n edrych mor bert ag erioed, Michelle...
Michelle - Dere i fi nôl y G + T yna i ti...
Arwyn - Gwna fe’n un mawr...Wyt ti’n gweld lot ar Brian Rees y dyddiau hyn?
Michelle - Ydw...Eithaf tipyn...
Arwyn - A Wendy? Wyt ti’n ei hadnabod hi?
Golygfa 2
Brian - Arwyn? Beth? Dy gyn-ŵr di?
Jenny - Ie Arwyn fy nghyn-ŵr i...
Brian - Ers pryd mae o’n ei ôl?
Jenny - Mi wnaeth o hedfan i Stansted echnos...
Brian - Beth? Yn ôl adref yn barhaol? Neu adref am bwt o wyliau?
Jenny - Dwyt ti ddim wedi clywed chwaith, mae’n amlwg...
Brian - Clywed beth?
Jenny - Mae ei fam o wedi marw...
Brian - O, reit...Na, roeddwn i heb glywed dim byd...
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 5
Jenny - Dydy o ddim yn syndod. Roedd hi mewn dipyn o oed...
Brian - Roedd Arwyn yn meddwl y byd o’i fam...
Jenny - Oedd. Rwyt ti’n iawn, roedd o’n meddwl y byd ohoni...Ac roedd hi’n meddwl y byd ohono fo
hefyd...Fo oedd ei hunig blentyn hi...
Brian - Lle mae Arwyn yn aros?
Jenny - Yn y Sea View Hotel...
Brian - Pryd mae’r angladd?
Jenny - Am ddau o’r gloch prynhawn dydd Llun...
Brian - Pa fynwent?
Jenny - Dydy Arwyn ddim yn mynd i gladdu ei fam...Yn yr amlosgfa mae’r gwasanaeth...
Brian - Mi wnaf i fy ngorau glas i fod yno...
Jenny - Dw i’n siwr y buasai fo yn gwerthfawrogi hynny...
Brian - Ac os wyt ti’n ei weld o yn y cyfamser, cofia fi ato fo - wnei di?
Jenny - Byddaf i’n siwr o wneud...
Golygfa 3
Arwyn - Helo...Wendy Keating, I presume? Sut mae pethau ynteu? Oes cyrn yn tyfu mas o fy mhen i
neu beth?
Wendy - Yffach! Blast from the past! O ble ddest ti...?
Arwyn - Affrica.
Wendy - Oh my God! Arwyn - dere mewn...
Arwyn - Diolch...Gan Michelle Tremain o’r Yacht Club ges i dy gyfeiriad newydd di, gyda llaw...
Wendy - Not for long. Mae Brian a fi’n gobeitho gwerthu y tŷ hyn...
Arwyn - Gwerthu? Pam? Dywedodd Michelle taw dim ond newydd symud i fyw yma ydych chi...
Wendy - Ie, wel...Stori hir...Eistedd...
Arwyn - Diolch...
Wendy - Coffi? Te?
Arwyn - Coffi, os gweli di’n dda. Os nad yw e’n ormod o ffwdan wrth gwrs...
Wendy - Dim ffwdan o gwbl...Dyma beth yw sypreis! You walking right in on me out of the
blue...
Arwyn - Wedi gorfod dod yn ôl ydw i...
Wendy - Pam?
Arwyn - Mae mam wedi marw.
Wendy - Dw i’n sori.
Arwyn - Diolch am gydymdeimlo...
Wendy - You’re only back for a short while then? Excuse me...That’s Frank...Needing a feed no
doubt...
Arwyn - Allaf i ei weld e?
Wendy - Ie...’Course...Come along...
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 6
Catchphrase Ysbyty Brynaber: Episode 323
Arwyn calls to see Wendy again and gives her a piece of news which could have serious
repercussions.
Brian’s a nervous wreck. He’s done all he can to help Chris escape from the hospital, but will it all go
to plan?
Geirfa
nerfus nervous
bwriadu to intend
pob un dim every single thing
trafferthion troubles
trefniadau arrangements
gorfod to be obliged, to have to
hawl a right
tarfu ar to disturb
dianc to escape
gynnau a short while ago
Golygfa 1
Michelle - Wyt ti’n nerfus?
Brian - Na. Pam?
Michelle - You’re not concentrating. And your fingers are shaking. Hold them up and hold them
still.
Brian - Fel hyn?
Michelle - See. Shaking. Dacw ti. Pint o Guinness...…
Brian - Diolch. Dyma i ti bum punt. Sori, ond does gen i ddim byd llai...
Michelle - No prob. A pint of Guinness will soon be five quid anyway...
Brian - Wyt ti wedi gweld Arwyn heddiw?
Michelle - Na, ddim heddiw. Jest ddoe. Huge shock, mind.
Brian - Dw i wedi addo i Jenny fy mod i’n mynd i’r angladd.
Michelle - Dau o’r gloch dydd Llun.
Brian - Wyt ti’n bwriadu mynd?
Michelle - Ydw. Ydy Wendy’n mynd i’r angladd?
Brian - Mae hi’n dweud ei bod hi.
Michelle - Wyt ti wedi clywed gan Chris wedyn?
Brian - Naddo.
Michelle - Is he going to make his great escape from the looney ward?
Brian - Dw i wedi gwneud pob un dim allaf i i’w helpu fo.
Michelle - So everything should go as planned?
Brian - Dyna’r gobaith. Iechyd da...
Michelle - Which explains why you’re so nervous...
Golygfa 2
Arwyn - ...Dydy Brian ddim yn ôl o’r gwaith ynteu?
Wendy - Na, ddim eto...But he should be back before long...
Arwyn - Roeddwn i wedi meddwl galw heibio’r garej i’w weld e...
Wendy - You should. He’d love to see you, I’m sure.
Arwyn - Dywedodd Jenny wrthyf i am yr holl drafferthion sydd wedi bod...Y busnes yma gyda Jac
yn agor garej ar draws yr hewl...
Wendy - Nasty.
Arwyn - Bydd rhaid i fi alw heibio Brian...Ond mae’r holl drefniadau yma ar gyfer angladd Mam wedi
mynd â fy holl amser i...
Wendy - Cuppa?
Arwyn - Na, ddim diolch...Wendy...?
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 7
Wendy - Ie? Beth?
Arwyn - Ddim wedi galw heibio heno yn y gobaith o weld Brian ydw i...Ond i dy weld ti...
Wendy - Rwyt ti wedi fy ngweld i ddoe...
Arwyn - Do...Dw i’n gwybod...
Wendy - What’s up?
Arwyn - Mae hon yn stori hir...Ond dw i’n gorfod ei dweud hi...
Wendy - Dweud beth? Am beth wyt ti’n sôn?
Arwyn - Daeth Jenny mas i Nairobi i fy ngweld i ddechrau’r flwyddyn...Buodd hi mas yn Affrica am
ddau fis...
Wendy - What’s that got to do with me?
Arwyn - Gad i fi gwpla...Os gweli di’n dda...Trwy Jenny ges i’r newyddion diweddaraf i
gyd...Beth oedd pawb yn ei wneud...A dywedodd hi wrthyf i ‘bytu ti a Brian a Vicky a Frank...
Wendy - Arwyn - please get to the point...
Arwyn - Ges i sgwrs arall gyda Jenny neithwr, Wendy...Sgwrs hir ‘bytu ti a Frank...
Wendy - I think it’s time you left.
Arwyn - Dywedodd Jenny ‘bytu’r D.N.A.
Wendy - Arwyn - get out...!
Arwyn - Rwyt ti’n gwybod yn iawn beth dw i’n mynd i’w ddweud nesaf - onid wyt ti?
Wendy - This is none of your business and Jenny Saunders had no right to divulge sensitive
information...
Arwyn - Roedd ganddi bob hawl i ddweud hynny wrthyf i, Wendy. Achos ti’n gwybod pam. Fi ydy
tad Frank.
Brian - Arwyn - s’mai?
Arwyn - Brian - pa hwyl?
Brian - Dw i wedi clywed dy fod ti yn ôl...
Arwyn - Wyt ti wedi clywed ‘bytu mam?
Brian - Do. Trist iawn...
Arwyn - Sori, dw i’n tarfu arnoch chi...Well i fi fynd.
Brian - Na, na. Aros efo ni i swper...
Wendy - Mae gydag Arwyn bethau i’w gwneud, Brian...
Arwyn - Oes, mae gen i lot o bethau i‘w gwneud.
Brian - Wyt ti’n siwr?
Arwyn - Ydw, wir.
Brian - Cyn i chdi fynd...Mae gen i newyddion...
Wendy - Pa newyddion?
Brian - Wyt ti’n adnabod Chris?
Wendy - Ydw? Beth ‘bytu fe?
Brian - Mae o wedi dianc.
Wendy - Beth?
Brian - Mae o wedi dianc o uned seiciatrig yr ysbyty ac mae o ar y ‘run’.
Arwyn - Ydy’r heddlu yn gwybod?
Brian - Yr heddlu wnaeth ddweud wrthyf i gynnau.
Wendy - Oh my God! Tell me you’re not serious! That nutter’s on the loose?!
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 8
Synopsis
Arwyn’s returned home for his mother’s funeral and calls on his former wife, Jenny, to tell her the bad
news.
Meanwhile Brian confesses to Michelle that he’s put his plan into action and has done his best to help
Chris escape from the psychiatric ward.
Test yourself
1. How would you translate the expression, ‘Never mind’?
(a) Dim meddwl
(b) Dim ots
(c) Dim gwarchod
2. What is the Welsh for ‘last night’?
(a) echnos
(b) neithiwr
(c) y noson olaf
3. How would you translate ‘later on’?
(a) yn hwyr ymlaen
(b) yn ddiweddarach ymlaen
(c) yn nes ymlaen
4. What is ‘an only child’ in Welsh?
(a) unig blentyn
(b) plentyn unig
(c) un plentyn
5. Which colour indicates that you are doing your ‘level best’?
(a) gorau gwyrdd
(b) gorau coch
(c) gorau glas
6. How would you say £5 out loud?
(a) pump punt
(b) pum punt
(c) pum punnoedd
BBC Cymru Wales Catchphrase Ysbyty Brynaber - Wk 108 - 9